Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

CORWEN P. S. A.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORWEN P. S. A. MB. GOL.Ceisiaf ateb y llythyrau a ymddangosodd yn eich newyddiadur wythnos cyn y ddiweddaf. Dy- wed y cyfaill Ni waeth pwy," mai druan ohonof fi, ond cofier nad all neb daflu cerrig pan yn byw mewn ty gwydr ei hunan. Er mor syml oedd fy ysgrif ddi- weddaf, cafodd ei theimlo yn ofnadwy, nid yn unig yn nhre fach Corwen, ond hefyd yn y Brif-ddinas Ac nid oedd penodi pump i ysgrifenu i'ch newydd- iadur yn ddigon, ond yr oedd ya rhaid cael rhai i anIon private letters i Relodau ago sydd wedi gweled eu ffolineb yn mynychu yr uchnri, ac yn awr yn llaesu dwylaw. Os ydy.v y gyiiiiiie;dfa n myned yn fechan y Suliau diweidaf, tybed nad oes yno rhyw frawd arall a digon o zel ynddo dros y sefydliad i roi rhyw anrhegioa, er mwyn cael rhai i ddod yno? Yr oeddwn yn meddwl fod dysgyblion y torthau wedi darfod o'r tir, ond 'rwyf wedi clywed yn y dyddiau diweddaf hyn fod rhai yn aros ar y ddaear hyd y dydd heddyw, ac mae yn dda genyf feddwl mai perthyn i'r P.S.A y mae hyny ag sydd wedi eu gtdael. Gofynodd un o'r brodyr yn eu hysgrifau, pa un oren cerdded ystrydoedd y dref ynte mynychu cyfar- fodydd y P. S.A. 1" Dywedaf finau, gyfaill, mai cerdd- ed yr ystrydoedd o lawer hefyd, os nad yw amcan y P.S.A. yn uwch na tbrefnu i fyned gyda'r tren i orphen treulio y dydd Sabbath. Os wyt yn meddwl, gyfaill, fod y gymdeithas hon yn gangen bwysig yn mhren mawr Cristionogaeth, goddef i mi ddweyd wrthyt nad wyt yn gwybod dim am dani, neu dweyd y buaset mai "cangen yu mhren damnedigaeth" ydyw. Cofia, gyfaill, mai nodau gwir grefydd ydyw byw yn 1, sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol," yn y byd sydd yr awrhon, ond of own mai prin iawn ydyw y ffrwythau hyn ar aelodau y gymdeithas hon. Cyfeirio yr oedd Mr. Jordan at y P.S A yn Llun- dain. Tybed ei fod yn meddwl fod un Corwen yu cael ei chario yn mlaen ar yr un gynllun a hono, os ydyw, gailaf ddweyd yn ddibetrus na welodd efe mo Mri Lloyd George a Herrbert Lewis yn cyfeirio eu camrau tuag yno, heb son am eu gweled i mewn. Mae y dynion hyn yn credu mewn gwir grefydd, ac nid rhyw sham. Gailaf ddweyd llawer yn ychwaneg, os yw y cyfeillion yn awyddus am eu clywed.— SYLWEDYDD. [Barnwn na etyb ddyben da i barhau yr ohebiaeth hon, felly caiff y llythyr hwn lod yr olaf ar yr ochr yma, ond caniateir i'r ochr arall ysgrifenu l'ythyr 11 neu ddau fel amddiffyniad, os ewyliysiant.—GOL.]

Capel Annibynwyr Bettws G.G.

Y PULPUD, Y WASG, A'R LLWYFAN.

Cystadleuaeth " Yr Wythnos…

AT DENANT WEIRGLODD-DDU, LLANUWCHLLYN.

Advertising