Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol flynyddol y Bala ddydd LIun y Sulgwyn, pryd y daeth tyrfa luosog i fwynhau yr wyl ac awelon Llyn Tegid. Yn Neuadd Buddug y cynhaliwyd yr Eisteddfod eto eleni, ac wrth gwrs, cyfyng iawn ydyw y lie i filoedd o bobl, ond disgwylir y bydd i'r Eisteddfod gael ei chynhal y flwy- ddyn ddyfodol mewn papell eang a chyfleus. Da genym ddeall ddarfod i'r wyl fod yn llwy- ddiant yn mhob ystyr, fel y ceir Eisteddfod o'r fath oreu y flwyddyn nesaf. Un peth oedd ar goll yn yr wyl, sef, y Delyn a'r penillion. Hyderwn nad yw pwyllgor Eisteddfod y Bala am ddilyn camrau pwyllgor Eisteddfod Gen- edlaethol Merthyr, trwy wneyd i ffwrdd a chanu gyda'r tannau fel peth diwerth. Y beirniaid eleni oeddynt-Cerddoriaeth, Tom Price, Ysw., Merthyr, ac ni raid iddo ef wrth lythyr canmoliaeth, gan ei fod yn adnab- yddus iawn yn y cylehoedd hyn, a rhoddir iddo uchel ganmcliaeth fel cerddor a beirniad, a rhoddodd foddlonrwydd cyffredinol heddyw. Lien Proff. Anwyl, Aberystwyth. Awen, Pedrog, Lerpwl. Adrodd Tegid, Lerpwl, a gwnaethant eu rhan yn ardderchog. Yr arwein- ydd ydoedd y ffraethbert J. J. Hughes, yr hwn a gadwodd y cynulleidfaoedd yn (I (I I fyr a siriol ar hyd y dydd. Darfu i'r Ysgri'enydd- ion medrus gyflawni gwaith mawr yn d, a Uongyfarchwn hwy a'r pwyllgor ar lwvodiant yr Eisteddfod. Yr oedd y Neuadd wedi ei haddur u yn ddestlas ag arwyddeiriau pwrpasol, ynohyda baneri amryliw, &c.

Cyfarfod y Boreu.—10-30.

--__-----__---Cyfarfod y Prydnawn.-2…

CYNGHERDD YR HWYR.