Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ME. KRUGER A'l BROPHWYDI.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ME. KRUGER A'l BROPHWYDI. Arwyddocaol iawn fel moddion effeithiol i dwyl!o Ahab a'i gan'ynwyr ydoedd, y cyrn heiyrn a wnaeth Sedeciah mab Cenaanah; gan ddywedyd yn enw yr Arglwydd, A'r rhai hyn y coroni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt." Felly gwnaeth prophwydi Mr Kruger gyrn heiyrn bygythiol, gan ddywedyd, a'r rhai hyn y gorni di y Prydeiniaid, nes i ti eu difa hwynt. Y cyrn heiyrn a wnaeth prophwydi Mr. Kruger ydyw, pnf alluoedd Ewrop, a pha rai y bydd iddo gornio y Prydeiniaid. nes iddo eu difa hwynt. Dywed un o'r prophwydi hyn fod ysgarbwd y lew i gael ei ranu rhwng y naill a'r Ilall o'r galluoedd mawrion. Un arall o brophwydi Mr. Kruger,. a ddywed fod dydd mawr y Prydain yn dechreu cilio, pan ysgrifenir ar ei meini, "Aeth dy frenhiniaeth yn eiddo arall." Yr yspryd celwyddog a lef- arodd yn ngenau prophwydi Ahab, sydd eto yn llefaru yn ngenau prophwydi Mr. Kruger. Un o'i brophwydi ef a ddywedodd wrtho am frysio clirio y Prydeiniaid allan o Ddeheubarth Affrica ac wedi hyny, na fyddo ganddo ond ychydig o waith i fyned i mewn i Lundain, prif ddinas Prydain. Yn ol prophwydi Mr. Kruger, gallem feddwi mai efe yw yr arall a fydd yn eistedd ar orsedd Prydain mai Boerun ydyw yr un hwnw a "ddaw o wlad ddyeithr a phell, a'i delyn yn ei law i daro tant uwchben adfeibion Prydain." Yn y blynyddau yr oedd y Boeriaid yn ymbarotoi i ryfel, dywedai prophwydi Mr. Kruger mai amddiffyn eu gwlad oedd yr amcan mewn golwg. Ond pan ddeallodd y Boeriaid fod y Prydeiniaid yn eu drwg dybio; rhoddodd llywodraeth Pretoria ei gair i dref y Penrhyn, na fyddai y Transvaal yn gyntaf i wneud rhyfel. Ond os cymerai ymosodiad le ar ochr y Prydeiniaid, disgwyliai Mr. Kruger y byddai i bob adran o'r Is Ellmyn jaid yn Neheudir Affrica godi ar unwaith i amddiffyn y Transvaal. Gan fod y Boeriaid yn sicrhau nad oeddynt ddim am wneud ymosodiad; nid oedd y Brydeiniaid ddim yn canfod y perygl o ryfel, am nad oeddynt yn ceisio dim ond arnddiffyn- iad i hawliau a eiddo eu deiliaid, yr hyn oedd wedi ei sicrhau trwy gytundeb. Fel yr oedd Mr. Kruger yn gwrthod ystwytho i sefyll at ei gytundeb, casglodd y Prydeinwyr ychydig o fiiwyr i wylio y terfynau pan ddeall- asant fod Mr. Kruger yn bwnadu meddianu y Talaethau Prydeinig. Yna cafodd Mr. Kruger gynyg i ail ystyried y cwestiwn, a chyn iddo ddod i benderfyniad; dywedodd pro- phwydi Mr. Kruger, nad oedd ar Brydain eisiau dim ond rhyfel, am eu bod yn bender- fynol o yspeilio Mr. Kruger o'i drysorau gwerthfawr. Ond rhag ofn i Mr. Kruger ddigaloni, gofalodd ei brophwydi am ddyweud wrtho y byddai i'r Prydeiniaid gael eu siomi am nad elent byth i Pretoria. Dywedodd y prophwydi hyn nad oedd gan Mr. Kruger ddim amser i'w golli, am fod y Prydeiniaid yn ceisio ei ddyrysu ef, er mwyn iddynt gael amser i ymbarotoi i ryfel. Felly Mr. Kruger a wrthododd sefyll at ei gytundeb, ac a heriodd a¡:u Prydain Mawr i'w orfodi trwy anfon ei fyddinoedd dros y terfynau i'r tiriogaethau Prydeinig i yspeilio ac i ladd, fel- y gwnaeth Ahab brenhin Israel pan y cafwyd ef yn ngwinllan Neboth. Ar ol i brophwydi Mr. Kruger lwyddo yn eu hamcanion gwaedlyd a thywyllodrus, daeth meibion y fall yn mlaen i dlwyn camdystiol- aeth yn erbyn Mr. Chamberlain, mewn go- baith y byddai iddo gael ei labyddio i farwol- aeth, ac y byddai ei swydd ef yn eiddo cyfeill- ion y prophwydi. Ar ol i'r Boeriaid ddod dros y terfynau i ladd, i ladrata a distrywio eiddo amaethwyr a phentrefwyr, fe ddywed y prophwydi hyn fod y Boeriaid yn Gristionogion da! ac mai syched am waed oedd yr achos i'r lIyw- odraeth Brydeinig amddiffyn ei deiliaid yn Neheudir Affrica "Plaid heddwch a char- edigion rhyddid," yn condemnio y llywod- raeth am amddiffyn ei deiliaid o fewn ei ther- fynau ei hun Wele broffeswyr crcfydd yn elynion i gyfiawnder gallai mai dyma hiliog. aeth gog, pa rai a ddarlunir gan Ezeciel yn ei ddameg brophwydoliaeth, yn ymgasglu yn 11a mawr i oresgyn ac yspeilio llywodraethiad a gwir gymeriad eglwysi Duw ar fynyddoedd Israel. Pan ddelo amser i huro a glanhau ei eglwys, efe a bar ddychryn mawr yn nhir Israel: fel y byddo y rhai dienwaededig yn crynu ger bron yr Arglwydd, pan deimlant fod nwydau bwystitilaidd y natur ddynol yn cael eu gorch- fygu,—Mynyddoedd o anghyfiawnder ac an- wireddau a ddryllir i lawer, a'r grisiau neu y dibrin serth sydd yn amgylchu enwad- aeth "a syrthiant, a phob mur" o wahanaeth barn "a syrthiant i !awr,"—Fel arweiniad i'r frwydr fawr, bydd i DJuw aiw am gleddyf yn erbyn gog, hiliogaeth yr h wn sydd yn ym- gasglu yn nghyd i fynyddoedd Israel i halogi eglwysiDuw; "a chleddyf pob un fyddynerbyn ei frawd fel y gwelir yn y rhyfel presenol. Pan fyddo Duw yn galw am gleddyf i gospi ei elynion, y mae ef yn rhoddi bachau yn mochgernau" troseddwyr, fel y byddo idd- ynt hwy eu hunain wneud rhyfel yn anochel- adwy. Y cwestiwn ydyw,—Pwy sydd yn gyfrifol am y rhyfel presenol ? Y mae prophwydi Mr. Kruger dan gochl plaid heddwcb, fel prophwydi Ahab wedi rhoddi pob anogaeth a chalondid i Mr.Kruger fyned i ryfel, trwy gondemnio Mr. Camberlain a'r Llywodraeth Brydeinig; gan obeithio y byddai i'r wlad gondemnio y llywodraeth yn yr etholiad cyffredinol nesaf, mewn trefn i'w dieneidio mewn ystyr wleidyddol, E. ROWLANDS.

LERPWL.

Advertising