Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

nri HELYNTION CASTELL IORWERTH;

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

n ri HELYNTION CASTELL IORWERTH; F NEU, Siomedigaethau Carwriaethol Gan E. W. EVANS, Bala. PENNOD XI. DYCHWELIAD YR AER CYDGYFARFYDDIAD. N I hysbywyd Syr Ieuan Iorwerth am farwol- aeth a chyfaddefiad Arglwydd Long- borough, na chwaith fod Syr Gwilym yn y Castell, ond dywedodd yr olaf wrth Blodwen holl hanes ei fywyd a'i deulu. Bu ei ymdrech- ion i gael hyd i Myfanwy, ei chwaer golledig, yn aflwyddianus; ac er mwyn cael allan ar frys pa le yr oedd, anfonwyd y detective i Lundain i chwilio holl chwareudai y ddinas. Wedi bod i ffwrdd am beth amser, dychwel- odd, gan hysbysu nad oedd yn un o chwareu- dai Llundain neb yn dwyn yr enw Myfanwy Thomas. Gofynwyd iddo ymgeisio mewn lleoedd eraill, ac felly y bu. Yr oedd Syr Ieuan yn gwielu er's peth amser, ac un diwrnod cymerodd cyfnewidiad er gwaeth le yn nghyflwr ei iecbyd, a chyrch- wyd y meddyg. Pan wnaeth ei ymddangos- iad yn ystafell-wely y Barwnig, dywedodd ar unwaith fod ei yrfa ddaearol yn tynu at y ter- fyn. Gan hyny, galwyd ar Blcdwen at ei wely, prydly dywedodd y Birwnig, "Blodwen, carwn yn fawr dy weled wedi priodi a setlo i aros yn Nghastell Iorwerth. Ac er mai Ed- ward Williams fuasai y gwr goreu allet gael, eto nis gallaf ganiatau iti ei briodi hyd nes y ceir prawfion eglur o hyny, ac er i mi hwyrach farw cyn i hyny gael ei sefydlu, yr wyf wedi trefnu i roddi fy nghaniatad os profir Edward yn ddieuog. Hoffwn weled leuan cyn fy marwolaeth, ond ymddengys fod hyn allan o'r cwestiwn, gan na wyddom pa un ai byw ai marw ydyw. O! Ieuan, paham y'm gad- ewais? Blodwen anwyl, pnoda y dyn wyt yn garu, er fy mod rhwng dau feddwl pa un ai euog ai dieuog ydyw." Ar hyn daeth ein harwr at ochr y gweiy a dywedodd,— Yn awr, Syr Ieuan, ni raid i chwi ofni fy mod yn euog, canys cyfaddefodd Lord Long- borough mai efe ydoedd y lleidr." Hysbys- odd Syr Gwilym pwy ydoedd, ac wedi iddo wneyd hyny dyweriorid yr hen Farwnig, "Yr wyf yn adwaen eich teulu er's blynyddoedd. 0 paham yr amheuais chwi ? Ond pe buasech wedi gwneyd eich teulu yn hysbys i mi, ni fuas aiyn rhaid i chwi ddioddef caledi carchar. 0 maddeued Duw i mi am fy ngheiriau haerllug, brysiog, ac am. ymddiried cymaint yn y dyhir- yn Lord Longborough "Ust!" meddai Blodwen. Peidiwch dweyd yn gas am y marw." Eglurwyd y cyfan 1 Syr Ieuan. A gallwn inau farw yn hapus ac edifeiriol pe cael dim ond edrych unwaith eto i wyneb fy niab." "A dyma ii, nhad 1" meddai Ieuan, gan ynawthio at y gwely, a syrthio ar wddf ei dad. Gofynodd yr hen wr iddo faddeu iddo, a dy- wedodd y mab, "Yr wyf yn maddeu i chwi yn rhwydd. Dywedais cyn fy ymadawiad y deuwn atoch pan y galwcch, ond er mai nid y chwi ydoedd yr achos o'm d>fodiad yma heno, eto y mae yn falch genyf fod yma mewn pryd i'ch hysbysu cyn eich marwolaeth nad oes arnaf gywllydd fy mod yn myned i briodi yr eneth oreu yn y greadigaeth, a dyma hi, gan arwain Myfanwy Llewelyn i'r ystafell. "Myfanwy I" ebe Syr Gwilym mewn syndod "Gwilym meddai hithau. Pwy fuasai yn meddwl am eich gweled chwi yma ?" le," meddai ei brawd, "mae yn debyg eich bod yn synu pan welsoch fi." Eglurwyd i'r clat fod darpar-wr Blodwen yn frawd i ddar- par-wraig Ieuan, ac yr oedd llawenydd yr hen farwnig wrth glywed hyn yn fawr iawn. Yr oedd ei oriau olaf yn ymyl, a galwodd ar ei Want i wrando ar ei ddymuniadau olaf. Gos- ododd law Blodwen yn Ilaw Syr Gwilym, a dywedodd, Duw a'ch bendithied chwi, fy mhlant i." Rhoddodd law Ieuan yn llaw Myfanwy, a dyweyd, "Bydded i Dduw eich bendithio chwithau, hefyd. Bydded i ti, Ieuan, a dy briod gael hir oes a dedwyddwch i deyrnasu yn Nghastell lorwerth ac i tithau, Blodwen, a Gwilym hir oes i deyrnasu yn Neuadd Llewelyn. Ffarwel!" Gyda gwen ar ei wyneb ymadawodd a'r byd hwn, ei oriau olaf wedi eu gwneyd yn ddedwydd gan gyd- gyfarfyddiad ei blant a dychweliad yr aer.

PENNOD XII.

Advertising