Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

SUT I FOD YN DDEDWYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SUT I FOD YN DDEDWYDD. Diogi, dos, dos ymaith oddiwrthyf fi; Diogi, dos, yn gyfaill ni byddaf & thi. Yn Hawen ceisiaf Ddysg bob dydd, A Diwyd fydd fy Haw, Can's dyma'r ddoethaf ffordd y sydd I gadw diogi draw. Diogi ddwg i ddyled a gwarth ymhob man, Diogi ddwg bob cysur ymhell o fy rhan. Twyll hyll, dos cydfyw ni chei byth & myfi, Twyll hyll, dos yn gyfaill ni byddaf a thi; Gonestrwydd fydd fy newis ran, A r air a gweithred bur Mewn Gwaith a Phleser yn mhob man Ymdrcchaf ddweyd y Gwir. Ymaith dwyll! can's trigo ni chei gyda mi, Ymaith dwyll! 'does bleser byth lie 'rwyt ti. Drwg dymer, dos, ni chei gydfyw a myfi, Drwg dymer. dos, yn gyfaill ni fyddaf a thi; Ymddygiad hynaws yn mhob dim Tuag eraill fydd fy nod 'R hyn hoffwn wneud o honynt im', Hyn geisiaf iddynt fod. Tymer ddrwg! ei tbrigfan ni chaiff dan fy mron, Tymer ddrwg! 'dall byth fod yn Ddedwydd a Lion Erlidier tymer ddrwg o'r byd, Diogi, twyll, yr un wedd Cawn yna Ddifyrwch a Chysur o hyd, Pan gleddir y rhai hyn yn y bedd.

ADGOFION AM LLEW LLWYFO.

Advertising