Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Geneth c Ffestiniog mewn Belbul…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Geneth c Ffestiniog mewn Belbul yn Lerpwl. EI CHYHUDDO AR GAM. HEDDGEIDWAID YN YMDDIHEURO: TALU 5p 0 IAWN. Ar y igfed o Ebrill diweddaf, oddeutu wyth o'r gloch yn yr hwyr, cerddai merch ieuanc barchus o Gymraes ol a blaen am ychydig funudau, yn Church Street, Lerpwl, fel yn disgwyl am rhywun. Yn sydyn, ac heb unrhyw rybudd, dyna heddgeidwad heb fod mewn dillad swyddogol, neu "detective," yn ymaffyd yn ei braich, gan erch iddi yn bur awdurdodol ddyfod gydag ef. Ni wyddai yr eneth pwy na beth oedd y dyn, ac yn ei braw gwaeddodd am help. Daeth "detective" arall yn mlaen, a chynorthwyodd ei gyd-swyddog i lusgo yr ferch druan i'r carchar. Wedi deall ei sefyllfa, wylai hithau yn hidl, a gofynai yn daer pa ddrwg a wnaethai ? Ond ni roddid iddi unrhyw eglurhad, ac i'r carchar y dygwyd hi, ar y cyhuddiad o fod yn gymeriad amheus, ac yn ystelcian ar yr heol i amcanion drwg. Yn ffodus iddi hi, digwyddai clerigwi perth- ynol i Eglwys Loegr, Sais o genedi, fod yn llygad-dyst o'r amgylchiad, a gwelodd ar un- waith fod y ferch wedi ei chymeryd i fyuy ar gam. Yr oedd wedi cymeiyd sylw neillduol o honi, gan iddo sylwi ar ddyn haner meddw yn myned heibio, yr hwn a arhosai i siarad a phob merch a welai, gan geisio ymaflyd yn- ddynt. Chwarddai rhai am ei ben. Ond am y Gymraes hon ni chymerodd un sylwohono. a cherddodd o'i ffordd gynted ag y rpedrai. Tra yr edrychai y clerigwr ar hyn, gan ddweyd wrtho ei hun, "dyna un ferch ieuanc gall a rhinweddol, beth bynag;" tarawyd ef a syndod wrth weled y "detective" yn ei chym- eryd i fyny. Wedi ystyried y sefyllfa cerdd- odd yn gyflym ar eu hoi, ond erbyn iddo gyr- haedd y carchar, yr oedd hi wedi ei chau i mewn. Hearai y garchares na wnaethai ddim i haeddu y driniaeth, mai morwyn weini yd- oedd mewn ty preifat yn Mulgrave Street, ac nad oedd ond ychydig dros haner awr er pan y gadawodd y ty ac mai ei neges yn Church Street ydoedd disgwyl dyn ieuanc o gyfaiil allan o un o'r masnachdai, yn ol trefniant, ac fod yntau ycbydig ar ol ei amser. Yr oedd ganddi lythyr yn ei llogell oddiwrth ei chyfaill, yr hwn a gadarnhai ei dywediad. Ni ddy- wedodd, meddai hi, gymaint a haner gair wrth undyn, nes yr ymaflodd y swyddog yn ei braich. Tystiodd y clerigwr nad oedd y gar- chares wedi gwneyd na dweyd dim i gyfiawn- hau gwaith y swyddog, ac er na adwaenai hi, ac am a wyddai, ni welodd hi erioed o'r blaen, yr cedd ei gydymdeimlad a hi yn gyfryw fel y gofynodd am gael ei meichnio hi allan ar un- waith, gan ymrwymo y byddai iddi ymddan- gos dranoeth i roddi cyfrif o honi ei hun. Derbyniwyd ef yn feichiau, ac wedi cael y druan allan, aeth gyda hi adref. Cyn iddynt gyrhaedd, yr oedd gair wedi dyfod fod y for- wyn wedi ei chymeryd i fyny ar yr heol. Yn ei helynt a'i drwbl aeth ei meistr, yr hwn a goleddai syniadau uchel am dani, at Gymro a breswyliai yn v,).j 1, i'w hvsbysu o'r brofedig- aeth ac i geisio s-i uyi oithvvy i gael ei forwyn allan. Deffrudd y teimlad cenedlgarol yn nghalon y Cymro hwnw, yr hwn sydd fonedd- wr parchus ac adnabyodus yn y ddinas, ac aeth gyda'r gwi ar unwaith,gan fwnadu nyned yn feichiau ei hun dros y ferch anffodus. Brodor o ardal Ffestiniog yw y ferch ieuanc, ac nid oedd ond ychydig fisoedd er pan ydacthai i'r drt-f. Fel y tystiai pawl) a'i hadwaenai, yr oedd yn eneth hollol barchus ac o gymeriad dilychwin, ac yn mycychu capel Methodistiaid Calfinaidd Prince's Road. Yr oedd ei thystiolaeth hi ac eiddo y clerigwr yn cydgordio yn hollol. Tystiai ei meistr pa bryd y gadawsai y ty, a thystia y dyn ieuanc iddo ofyn iddi ei gyfarfod am 8 o'r gloch, ond iddo gael ei gadw yn hwy na hyny gan sgwsmer. Penderfynwyd myned i'r Uys dran- oeth gyda hi, er ceisio dangos iddi gael cam. Dranoeth a d daeth, ac ymddangosodd y gar- chares gerbron yr ynad cyflogedig, MrSteward. Daeth y swyddog a'i cymerodd i fyny yn mlaen a thystiodd fod y garchares wedi treulio llawer o amser yn stelcian yn Church Street, na adawai i ddynion ieuainc basio heb ddweyd rhywbeth wrthynt, a phan oedd ef (y "detective") yn ei phasio, iddi ymaflyd yn ei fraich. Dyna, meddai, paham y cymerodd ef hi i fyny. Tystiai y garchares mai anwiredd hollol ydoedd y cyhuddiad yn ei herbyn, ond ni wrandawai yr ynad awdurdodol ac unben- iaethol hwn ami. Anerchodd hi yn llym, gan ddweyd ei bod yn euog o ymddygiad gwarth- I us, ac y dylai fod cywilydd arni o honi ei hun. Gollytigai hi yn rhydd y tro hwnw, ond rhy- buddiai hi, os y deuai yno eilwaith, y caffai gosp drom. Yr oedd amryw yno i roddi tyst- iolaeth o'i phlaid, a gwyddai yr ynad hyny, ond ni ddarfu gymaint a gofyn a oedd ganddi dyst; mwy na hyny, pan y camodd y clerigwr a grybwyllwyd uchod i'r "witness box," gofyn- odd yr ynad yn sarug beth oedd arno ef eisieu a phan y dywedodd yntau y dymunai roddi ei dystiolaeth o blaid y ferch. gorchy mynwyd ef allan ar unwaith. Y fi sydd i reoli y Uys hwn," meddai, "a gwn sut i wneud hyny heb i chwi a'ch bath ymyryd. Allan a chwi i gyd." Dyma ferch ieuanc barchus a rinweddol, wedi ei gyru allan o'r llys ag ystaen du ar ei chymeriad, heb gymaint a chael cyfle i am- ddiffyn ei hun, nag un o'i thystion gael dweyd gair ar ei rhan. Penderfynodd ei meistr, y clerigwr, a dau neu dri o Gymru, na chawsai y mater aros lie yr oedd, y gwnaent yr oil oedd yn eu gallu i glirio cymeriad y Gymraes ieuanc, a chael iawn iddi am y camwri. Gwyddent nad gwiw ceisio gwneud dim gyda Mr Steward. Ymgynghorwyd a chyfreithiwr, ac anfonwyd gwrthdystiad at y Prlf-Gwnstabl Nott-Bower ac at y "Watch Committee." Bu y Prif-Gwnstabl ac era ill gydag amddiffynwyr y ferch i geisio ganddynt adael i'r j syrthio i'r llawr, gan nas gallai unrhyw dd*1 ddeilliaw o hono iddynt hwy na'r >er Teimlent hwythau fod cymeriad y ferC^ ei roddi dan gwmwl, a hyny ar gam, aC eu dyledswydd hwythau ydoedd allent i'w chynorthwyo i gael unioni y ca Ond o'r ochr arall, deallasant mai oedd y detective, ei chyhuddwr, hefyd> fj.7 buasai yr helynt yn dra thebygol o'i niwel<J1' os nad ei dro o'i swydd yn hollol. J1 » Eto, ateb llais dyledswydd a wna gan ddatgan eu bwriad i fynu chwareu teg un gawsai gam, hyd yn nod pe rhaid a'r achos i'r Frawdlys neu i Dy y Cy^ j O'r diwedd, wedi llawer o draflferth, daeth achos o flaen y "W-itch Committee" yrW^tjj nos cyn y ddiweddaf, ac ar ol ymdrafodae faith, gwnaed datganiad i'r eneth gael ei c^> huddo ar gam. Ymddiheurodd y P^l iddi, hefyd y detective a'r Cadben Bower, a thalwyd pum' punt o iawn iddi Bellach, dyma gymeriad y Gymraes ei glirio-ilawen ydym am hyny, a dlOlchfcb i'r rhai fu yn offerynau i'w ddwyn oddianflgyj^p Ond beth am ymddygiad yr ynad heddwcl1 Yr ydym yn hyderu y bydd i rai o'n haelg. au Seneddol alw sylw y Senedd at ei yrnddys iad.—"Cymro."

Carrog.

Advertising