Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN DDIRWESTOL. BETH DDAW A'R BYD YN SOBR ? (t Doctor, gras Duw yw yr unig beth ddaw a'r byd yn sobr," meddai cyfaill wrth Dr Batten unwaith Atebodd y meddyg, Gwir iawn, a gras Duw a geidw eich plentyn, yn yr hwn y mae hadau dadfeiliad, rhag syrthio i <ldarfodedigaeth ond nid yw hyny yn eich rhwystro chwi rhag gweled ei fod yn cael ei gadw mewn ysgol dda, ac fod ei amgylchoedd a'i gwmpasoedd yn iachus." Felly, y mae yn wir mai gyda chynydd gras ar y ddaear y daw y byd yn sobr ond ni ddylai hyny ein rhwystro mewn un modd rhag gweithio gyda symudiadau dirwestol y riydd. Wrth wahodd pobl i'r cytarfod gweddi dy- wedodd gweinidog unwaith, gan roddi ergyd llaw-chwith i symudiad dirwestol, Y Cwrdd Gweddi ddaw a'r byd yn sobr os ydym am sobri'r byd, gadewch i ni fyned ar ein glin- iau." Eithaf gwir, ond m ddylai neb ag sydd vn mvned ar ei liniau mewn cwrdd aweddi i weddio am sobreiddiad y byd, godi ar ei draed ar ol na chyn hyny i wrthwynebu cen- adaeth ddirwestol. V gwir am dano yw hyn Ceir llawer yn gweddio yn ddefosiynol iawn, Deled dy deyrnas," ond y maent yn hwyr- frydig iawn i'w hyrwyddo yn un man ond ar eu penliniau. Yr wyf yn credu mewn gweddio, ond yn credu hefyd mewn gweithio. Gweddi- wch a gweithiwch fel y diwygier y byd. Pa bryd y daw y Cwidd Gweddi a'r byd yn sobr tybed ? Nid cyn y bvdd y gweddiwyr eu hunain wedi eu gwedd-newid yn gyntaf. Nid yw i ddiotwyr a chyfeddachwyr weddio am achubiaeth y byd ond cellwair a rhyfyg. Ni ddaw Cwrdd Gweddi o ddiotwyr byth a'r byd yn sobr. Y mae gweddio iawn yn waith drud a chostus. Costia gweddio am sobrwydd i'r gweddiwr fyw yn sobr ei hunan. Fe wna gweddio i ddyn beidio diota, ncu fe wna di- ota i ddyn beidio gweddio. Pan ddaw teyrn- as Dduw, fe ddiflana teyrnas Hunan. Nid "Dy deyrnas," ond "Fy nheyrnas," yw hi gyda llawer. Cadwer y Cwrdd Gweddi ar ei draed, ond peidier gwrthwynebu symudiadau dirwestol y dydd. Peth bendigedig ydyw enill dynion i fod yn sobr. Bouse to thy work, all high and holy love, And thou angels' happiness shall know Shalt bless the earth, while in the heaven above The good begun by tbee shall onward flow, In many a blanching stream and wider grow." Erys y daioni wneir ar gymeriadau ein cyd- ddynion yn anfarwol, ymganghena i drag- wyddoldeb. Beth ddaw a'r byd yn sobr? Nid wyf wedi gofyn y gofyniad erioed i mi fy hun ond yr wyf wedi gofyn gofyniadau ]lai gostyngedig lawer gwaith. Yr wyf wedi dy- faiu droion" d Beth ddaw a Tomos a Dafydd a Wm. yn sobr?" ac wedi gofyn weithiau, "Beth ddaw a'r Ll- yn sobr ? Yr hyn ddaw a phersonau unigol yn sobr, hyny hefyd ddaw a'r byd yn sobr rywbryd. Y mae sobri byd cyfan tu allan i'n cyrhaedd ni ar hyn o bryd, ond gallwn brysuro hyny hefyd drwy i bob un obonom "ddechreu yn Jerusalem" Y mae ambell un yn rhy uchelgeisiol. Myn ddiwygio byd cyfan neu neb. Os am ddi- wygio'r byd rhaid diwygio dynion bob yn un ac un. Dyna'r unig fiordd am dani. Am hyny, aed pob Andreas i chwilio am ei frawd ar unwaith, a buan y bydd tyrfa wedi eu dwyn at yr lesu. Yr egJwys yn unig ddaw a'r byd yn sobr ac fe ddaw yr eglwys a'r byd yn sobr drwy ddysgu dynion i beidio yfed, prynu, gwerthu, gwneuthur, na rhoddi diodydd diodydd meddwol. Ni ddymchwelir caerau cedyrn meddwdod hyd.nes y deffroir eglwys Dduw i ystyriaeth o'i dyledswydd. Y mae dylanwad arianol a gwleidyddol y fasnach feddwol mor fawr fel nad oes dim arall a'i dinystria ond eglwys Dduw. Y gareg a dor- wyd o'r mynydd nid a liaw yn unig all ddryllio a chwilio brenhiniaeth y ddiod feddwol. Os ydym am balmantu'r ffordd i Bentecost ne- wydd, rhaid i ni ymdrechu hyd at waed gan ymdrech yn erbyn y ddiod feddwol.

'*''* Cyfarfod Misol Dwyrain…

Advertising