Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

LLANDRILLO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDRILLO. Y GYMDEITHAS GYFEILLGAR.—Cynaliodd y Gymdeithas Gyfeillgar ei gwyl flynyddol ddydd Mercher diweddaf, Fel arfer, gwas- anaethwyd gan Seindorf Cynwyd, a pharato- wyd y ciniaw gan Mr. Mathew Morris, Cross Foxes, a gwnaeth y naill a'r llall eu rhan yn ganmoladwy. Yn wahanol i'r arferiad, aeth yr aelodau eleni i gapel yr Annibynwyr, lie y deallwn i anerchiad dra phriodol i'r amgylch iad gael ei thaddodi gan y Parch, Ivan T. Davies Hysbysir y byddis rhagllaw yn myn- ed i'r gwahanol gapelydd a'r eglwys ar gylch. Ymunodd deg o aelodau o'r newydd, a gwnaed eithriad o un o'r rheolau er mwyn derbyn aelod arall. Ymddengys fod y rheol- au er's tro bellach wedi myned yn hawdd eu tori, ac onid priodol fuasai gwneud rhai ne- wyddion i gyfarfod a'r gwahanol amgylchiad- au sydd wedi cyfodi er pan wnaed y rhai cyntaf ? Mae'n dda genym ganfod oddiwrth yr adroddiad fod trysorfa y Gymdeithas mewn sefylfa tra boddhaol. Mae yn awr 33/- ar ,gyfer pob aelod ychydig flynyddau yn ol, yr oedd y swm wedi disgyn i lawr islaw punt .ar gyfer pob un. Y Llywyddion ydynt- Mri Henry Davies, Garthiaen, a Evan Jones, Geufron Arolygwyr-Mri Edward Evans, Tynygroes, a J. L. Roberts, Llanercb, ac Ys- grifenydd-Mr Robert Evans, Llechwedd. Gviledd y Band of Hope,-Dydd Mercher, Meh. 5, cafwyd cyfarfod terfynol y Band of Hope." Yn y prydnawn rhoddwyd te i'r plant, ac aelodau y Gangen Ddirwestol yn yr ysgoldy Cafwyd gorymdaith gyda'r plant, yn cael eu blaenori gan Seindorf Cynwyd, y rhai oedd yn y lie y diwrnod hwn, am ei bod yn ddiwrwod y Clwb. Yr oedd golwg ardderehog ar y plant, pob un yn lan a threfnus, ond yr oedd un gwall, a hyny oedd,—nid oedd yno faner. Arwein- iwyd yr orymdaith gan Mr. J. Roberts, Berwyn House, a Mr. L. Owen, Board School; a gwylwyr y rhengau oeddynt. Miss S C. Price (Llywyddes); Miss D. E. Evans, Board School; a Miss W. Jones (Ysgrif- enyddes). Ar ol yr orymdaith cafwyd te yn yr ysgol- dy, a rhoddwyd te i'r Seindorf. Yr oedd yn bresenol oddeutu cant o blant, ugain o rai mewn oed, a dwsin o aelodau y Seindorf, felly bu oddeutu 142 yn bwyta, a chafwyd tS da dros ben, a chyflawnder o fwyd. Pasiwyd diolchgarwch i'r Seindorf am ei gwas- anaeth i'r Band of Hope. Am saith o'r gloch, yr un noson, cynhaliwyd cyfar- fod adloniadol i derfynu y dydd. Llywyddwyd yn fedrus a doniol gan Mr. J. Phillips, Tynyfach. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu Ton Gynulleidfaol. ac yna aed trwy raglen faith fel y canlyn,-Anerch- iad gan y Llywydd. Anerchiadau gan y Beirdd. Ton "Tramp in the drunkards way," pan Barti y Merched, dan arweiniad Miss Edwards, Brynpenllyn. Adrodd- iad rhagorol, Mae fy enw i lawr," gau Mr J. R. Davies, Blaendre. Can, "Castiau Gwraig," gan Mr W. D. Jones, Branas Lodge. Adroddiad, "Breuddwyd y Llofrudd," gan Mr David Lloyd, Plasyfeerdre, yn -ardderehog. Cân," Dim ond deilen," gan Miss Dora Ellis, Blaenpennant. Ymgom, "Dolly's Mamma and the Doctor." rhwng Miss S. Davies, a Mr G. O. Davies, a chafwyd gryn hwyl wrth wrandaw ar y ddau blentyn yn adrodd. Ton, "Dirwest," gan Gor y Plant, dan arweiniad Miss S. C. Price, a Miss W. Jones yn chwareu. Adroddiad, John Jones a'r Clock," gan Mr. D. Lloyd. Can, "Mi gollais y tren," gan Miss Edwards, yn swynol iawn. Cystadleuaeth canu y don "Hyfryd," i blant dan 12 oed-beirniaid, Mri. Thadeus Jones, a L. W. Davies—cyfartal oreu, Miss Lizzie A. Jones, a Mr.W. V. Evans, Tynygroes; 2il. Miss R. J. Owen, a chafodd y tri arall wobrau. Ton, Gwaredigaeth y Meddwyn," gan Barti y Merched. Cystadleuaeth dadganu, Rhyfelgyrch Gwyr Harlech," i rai dros 12 oed, cyfartal oreu, Misses Mary Edwards,Maggie Jones, a Mary L.Jones. Adroddiad doniol gan Mr D. Lloyd, I- Nacw," ac hefyd, Meindied pawb ei fusnes ei hun," yr hyn a adroddodd yn rhagorol iawn, ac yn hynod o addysg- iadol. Deuawd, Arthur a Rosina." gan Miss Edwards, a Mr J. R. Jones, yn swynol iawn. Yna rhanwyd y gwobrau am fod yn ffyddlawn i'r cyfar- fodydd, a chafodd Miss Susie Davies y wobr gyntaf- nid oedd wedi colli un cyfarfod. Rhoddwyd gwobr neillduol i Miss C. Davies, Tynycae, am ei gwasan- aeth fel cyfeilyddes, ac ar ei ymadawiad o'r lie. Hefyd i Miss Maggie Jones, Manchester House, am ei gwasauaeth fel llyfrgellydd y Gymdeithas. Pas- iwyd diolchgarwch i bawb, heb enwi neb, am eu cyn- orthwy a'i caredirwydd er cael y te a'r cyfarfod mor hwylus. Hefyd diolchwyd i'r llywydd am ei wasan- aeth yn y cyfarfod Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu "Hen wlad ty Nhadau," wedi mwynhau diwrnod difyrus a chyfarfod rhagorol dros ben, gyda llon'd yr ysgoldy o bobl. Casglwyd at y te gan Misses Edwards, Evans, S. C. Price, a Mrs Roberts, Berwyn House.

Advertising