Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORWEN. Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol gyntaf y ganrif yn Nghorwen ddydd Llun diweddaf-fel arfer mewn pabell helaeth yn ymyl y dref, ac o dan yr amgylchiadau mwyaf ffafriol. Nid oedd y pwyllgor wedi arbed unrhyw lafur na chost gyda'r wyl, a chawsant yr hyfrydwch o weled eu hymdrech- ion wedi eu coroni gyda llwyddiant anghyffredin. Tybiwyd amryw weith- iau yn flaenorol fod y marc uchaf wedi ei gyrhaedd, ond erbyn hyn cyd- nebydd pawb fod yr Eisteddiod eleni, yn mhob ystyr, yn mhell iawn ar y blaen i'r rhai mwyaf Ilwyddianus gynhaliwyd erioed o'r blaen yn y dref. Trwy fod ein gofod yn brin y tro hwn, yr ydym yn gadael heibio luaws o nodiadau hyd ein rhifyn nesaf. Llywyddwyd y cyfarfodydd yn ddeheuig gan Mr. Leif Jones, Mr. A. Osmond Williams, A.S, a'r Anrh. C. H. Wynn, Rug, ac arweiniwyd ar hyd y dydd gan y medrus, doniol, a byd-enwog Llifon. Y beirniaid oeddynt— Barddoniaeth (Poeti-y),- TAFOLOG A GWILI. Rhyddiaith (Prose),- 1. J. ROBERTS, Ysw., H.M.I., RHYL, PROFF. J. E. LLOYD, M.A., BANGOR, ANRHYD. C. H. WYNN, RAG, a'r PARCH. H. CERNYW WILLIAMS. Cyfieithu (Tg-aiislation),- L. J. ROBERTS, Ysw., H.M.I., RHYL. Adroddiad (Recitatioit),- PARCH. L. DA VIES a MR. H. MORRIS (RHUDDFRYN). Cerddoriaeth (Music),— TOM PRICE, Ysw., MERTHYR, ac E. D. LLOYD, Ysw., BETHESDA. Cystadleuaethau Rhagarweiniol (Prelim. Tests),- E. D. LLOYD, Ysw., a MR. IVOR FOSTER. Celfyddyd (Art ), MR. H. JONES, Printer & Publisher, LLANGOLLEN, Mr. E. EDWARDS, GLYXDYKRDWY, MR. GRIFFITH JONES, DOLGELLAU, MRS. WYNN, RAG, MISS WALKER, R. S. WAYNE, Ysw., BRYNLLWYN, MRS. PUGH, BANK HOUSE, a Miss APPLETON. Ysgoloriaeth (Scholarship),- Mr. F. P. DODD, Ysgol Ganolraddol, BLAENAU FFESTINIOG. Trefnusrwydd y Corau-Mr Horatio E. Walker a Mr Dan Thomas. Gwasanaethwyd fel arfer yn fedrus fel Trysorydd gan Mr. J. O. Pugh,' Bank, ac fel Ysgrifenydd gan Mr. H. Morris (ieu.), Cesail y Berwyn. Am 8.30 o'r gloch, ffurfiwyd gorymdaith yn ymyl Neuadd y Farchnad, yr hon a gerddodd yn drefnus oddiyno hyd at yr Orsaf ac yn ol, yn cael ei blaenori gan Seindorf enwog Glynceiriog, ac aelodau o'r pwyllgor yn cario y Faner ardderchog a bwrcaswyd at wasanaeth yr Eisteddfod. Am 9 o'r gloch, yn "Ngwyneb Haul, Llygad Goleuni." agorwyd YR ORSEDD yn ol Braint a Defawd Beirdd Ynys Prydain ar Petryal y Farchnadfa. Ymgynullodd torf anferth o gylch y meini, ac yr oedd pob calon yn llawn o serch a brwdfrydedd at yr hen ddefion, Gweinyddwyd fel Archdder- wydd gan Llifon, yn cael ei gynorthwyo gan Rhuddfryn, ac Eryr Alwen yn geidwad y cledd. Wedi cyhoeddi "heddwch" dairgwaith agorwyd yr Orsedd yn ffurfiol. Darllenwyd y weddi gan y Parch D. Griffith, Rheithior, Corwen, ac yna galwyd ar y beirdd yn mlaen, pryd y cafwyd, anerchiadau gwresog gan Rhuddfryn, Llifon, Dewi Ffraid, Caerwyn, Gwilym Ceiriog, a Huw Meirion Wele rai o'r anerchiadau:— Mae myrdd o sefydiiadau Fu'n ncbel iawn eu hri, Yn gorwedd heddyw'n ddino t, Onli sai'n Heisteddfod ni Mae wedi gwneud gwrhydri Trwy'r nesau ar ei tbnith- Mae maes llenvddiaeth heddyw'n 0 dystion gawn o'i gwaith. lllawn Mae'n edryeh boreu heddyw Mor werdd a-dail y coed, Ond rhitb n ol ganrifoeild raid I wylied ro'lint ei hoed. A tbra bo tafod Cymro Yn ysgwyd yn ei ben, Yr hen Eisteddfod ddeil yn lan, A chin hen Walia wen. Delw fach o deulu fu—a'u banes Yn hynod yn Nghymru Ydyw hon, a lion y llu O'i pherchen ddo'nt i'w pharchu. Hen orsedd yn cadw hirlsain-ei thelyn A'i thalent arwyrain, A'i hen gled^, a'i wed'n y wain, H eb achos i neb ochain. DEWI FFHAID. Eisteddfod Corwen wele wyl Gyforiog 0 gvfaredd y r, A chalon eenedl f:¡]¡'h mewn bwyl D iyrchafa'i brid slodforbdd Mae'r Berwyn ban a'r bryniau derch Yn gaerau izylch ei gorsedd, A sftlmfu swynol gwladgar serch Yn suo clod i'w mawredd. Eisteddfod Corwen nid oes rhwd Ar h\d ei hines idoew, M e'r vsbryd cenedlaethol brwd Yn cidw'i Dais yn groew Athylilb goeth a hvnaws hedd Sy'n ysbiydoli'i bywyd, Ei Gorsedd sy'n cael grym heb gledd, Na gwaed yn gwrido'r gweryd I Eisteddfod Corwen ynddi hi Mae calon Cymru'n euro, Ei gobaith goreu'n enill bri A'i thalent yn blodeuo Ei Gorsedd erys yn ddi-gryn Dan nawdd y bryniau tirion, Cyn gwelir ei gogoniant gwyn Rhaid darnio creig Edeyrnion. CAERWYN. Bywyd i holl feib awen-a gwersi Rydd ein gorscdd drylen, A byth ni ddaw i Walia wen 'Run gura'r hen Gorwen. Huw MEIRION. Yna galwyd ar y Parch.J.R.Ellis, a chaed anerchiad rhagoro! ganddo, yr hwn a ymddengys yn ein rhifyn nesaf. Yn nesaf cafwyd ychydig eiriau calonogol a thra phwrpasol i'r am- gylchiad gan y Parch. L Davies (A), a diweddodd gyda'r llinellau hyn- Fe basia'r canrifoedd o hyd, Defion pob gwlad sy'n cyfnewid, Trigolion y fro yr un pryd Syrthiant yn gyson i'r gweryd; Ond llifo wnft'r Dyfrdwy 0 hvd, o hyd, Erys y Berwyn trwy'r newid i gyd. Cedyrn orseddau ddymchwelwyd, Eu mawredd ddisgynwyd i'r llawl, Yn meddau'r gorphenol y claddwyd Bron bobpeth fu unwaith yn fawr; Ond Gorsedd y Beirdd sy'n gadarn 0 hyd, A'r 'Steddfod a'i chfin sy'n ieuanc eu pryd Beddau i'r Orsedd a'i Defion A gloddiodd gelynion cyn hyn, Ond cle(idir o h,(i y gelyi-lion, Tra'r Orsedd sy'n fyw a digryn Mae Gorsedd y Beirdd a'i svlfaen ddiwall Y'nghalon ein cenedl-syrthio nis gall. Gorsedd y Beirdd sydd yn noddi Er's oesoedd, lenyddiaeth a chfin, Dyageidiaeth a thalent y Cymry Mae'n bywyd a hi'n ridiwahan Gorsedd y Beirdd y canrifau sv'n dod, Fo'n nawdd i'n cenedl wrth enill uwch clod s I;essie io," Wedi'r anerchiadau, cafwyd cainc ar y delyn gan Miss I Y, coglo phenillion gan Mr. G. Tegid Davies. Adroddodd Rhyd ry canlynoi i'r Haul Haul Awst i'n gwyl-a estyn Ei groesaw gwresog dros Ferwyn Ni all gwlaw erchyll y Glyn Gymylu ei olwg melyn. Yna cauwyd yr Orsedd yn y dull defodol, trwy gyhoeda1 d drlUhir flwyddyn nesaf, a galwyd deirgwaith am heddwch. 'fynwy. a \ert ) ysblenydd o'r Orsedd gan Mr. D. P. Davies, Corwen, pa ra1 ganddo am y prisiau arferol.

Advertising