Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

BAIJA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BAIJA. Y PARCH, R. ROBERTS, RHOS, fydd yn llanw pulpud yr Annibynwyr y Sabboth nesaf. Y mae Mr Roberts yn un o brif bregethwyr yr enwad, ac yn tynu tyrfaoedd ar ei ol. Y mae hefyd yn hynod ofalus am i bawb ddod i'r gwasanaeth mor brydlon ag sydd bosibl. Yn awr, chwi sydd yn arfer codi am chwarter wedi deg ar fore Sul, dyma bedwar diwrnod o rybudd i ddod i'r capei yn brydlon y Sul nesaf. 0 FAES Y GWAED, -Y mae Private Wm, Humphreys, Castle St., wedi dychwelyd ad- ref yn glwyfedig o faes rhyfel De Affrica. CYFARFODYDD CYHOEDDUS.—Cynhelir cy- farfod cyhoeddus o drethdalwyr y Bala am 8 o'r gloch nos Wener, yn Ysgol y Bwrdd, i drefnu gogyfer a chael ysgol newydd i'r dref. Ynyrunlle, am dri o'r gloch prydnawn Sadwrn, cynhelir cyfarfod cyhoeddus o dreth- dalwyr y Bala a Llanycil i'r un amcan. ARDDANGOSFA'R SIR.-Cynhelir hon yn y Bala yfory (lau), ac y mae argoelion y bydd y Show eleni yn well na'r un gynhaliwyd yma erioed, ac y bydd yma filoedd o bobl. CYNGHERDD.— Cynhaliwyd y cyngherdd blynyddol at dreuliau organ y Capel Mawr, yn y Victoria Hall nos Wener diweddaf, ac nid gormod yw dweyd ei fod yn gyngherdd ardderchog yn mhob ystyr. Yr oedd y llwy- fan wedi ei addurno yn hynod chwaethus a phlanhigion amryliw, ac yr oedd y cantorion yn eu canol yn ymddangos fel hud-fodau melusleisiol. Dechreuwyd y cyfarfod i'r eiliad am 8 o'r gloch, fel y rhaghysbysid ar y tocyn- au, &c.; ac oherwydd y cann rhagorol a'r encores cadwyd y gynuileidfa luosog a pharch- us yn eu lleoedd, megis gan gyfaredd, nes oedd hi yn haner awr wedi deg. Y cantorion oeddynt Miss Maggie Davies, Madam Juanita Jones, Mr Tom Thomas, a Mr Emlyn Davies; cyfeiliwyd i'r oil gan Madam Evans-Parry, a chwareuai Mr Ollerhead, o Lerpwl, ar y crwth. Lie yr oedd cymaint o ragoroldeb, anmhosibl yw dweyd pwy a ragorai. Yr oedd pob un yn wirioneddol dda, ond er hyny y mae gan pawb eu ffafryn hyd yn od mewn cyngherdd. Gofynodd Gwrtheyrn ar y dechreu am i ni beidio edrych yn feirniadol ar y cantorion. Wei, ddaru niddim. Ond temtir ni i sylwi yn fyr ar un o'r cantorion, sef, Miss Maggie Davies. Canai y foneddiges hon fel yr eos, a hyny heb i neb wybod ei bod yn canu. Bobol anwyl, mae ganddi lais melus. Ciyw- som Madame Melba a Madame Albani, can- torion enwocaf y byd cerddorol (ag eithrio Madame Patti) yu canu, ond rhaid i ni ddweyd, a chyda phob dytedus barch i'r can- torion swynol hyn, fod Maggie Davies yn canu yn fwy swynol na hwy. Hwyrach mai yn croes i ni y dywed y Saeson, ond rhydd i bob dyn ei farn, ynte ? Cafwyd nos Wener ganeuon Cymreig, Seisnig, Ffrengig, ac Eid- alaidd, a derbynid y ddau fath diweddaf yn llawn gwell na'r rhai a ddeallid oreu. Mae genym air at ddau neu dri o lanciau y dref, sydd yn ymorchestu mewn curo eu dwylaw, gwaeddi a chwibianu mewn cyngher- ddau fel hyn pan yn ail-alw y cantorion. Mae hon yn gwyn gyffredinol. Chwibienir fel pe mai cwn yw y cantorion, a gwaeddir fel pe baent fyddtri..id. Apeliodd Gwrtheyrn yn barchus at y bechgyn hyn ar ddechreu y cyn- gherdd, am iddynt encorio yn rhesymol a boneddigaidd, fel ag i ddyrchafu y Bala yn syniad y cantorion dieithr hyn. Tybiasom ar y cynta t fod yr apel wedi bod yn effeithiol, canys ymddygwyd yn ganmoladwy yn yr en- cores cyntaf; ond toe gwelsom glamp o lane safurwth yn rhoddi holl ru-rth ei ysgyfaint i groch-floeddio yn hagr, u encooooor! ac yn curo ei ddwylaw, y rhai oeddynt gyffelyb i es- gyll melin wynt, gyda nerth cawr. Temtir ni i enwi y llanc, a hyny wnawn hefyd y tro nesaf yr ymddyga fel hyn, fel y gallo pawb droi i edrych arno ac i'w ffieiddio. Yr ydym wedi bod mewn llawer o gyngerddau mewn lleoedd eraill, ond erioed nis blinwyd ni yn unlle gan y pethau hyn fel y gwneir yn y Bala. Cofiwch, mechgyn i, fod modd i beth fel hyn fynd yn rhy bell, sef yn aflonyddwch i'r cyfarfod, ac felly yn beth y gellir ei gosbi yn llym. Gresyn mawr os bydd rhaid gwneyd esiampl o rai ohonoch cyn y peidiwch. Hefyd, mae gormod o encorio yn greulondeb at y cantorion. Yr oedd amryw o'r darnau a ganwyd nos Wener yn rhai celyd ac anhawdd, ac yn tasgu y peir- iauau lleisiol i'r eithaf; er hyny mynai y bech- gyn digydwybod hyn i'r cantorion ail ymddan gos ac ail-ganu. Sylwasom fod llais un o'r cantorion wedi amharu yn fawr yn ystod y cyngherdd, a chlywsom ei fod yn ofni nas gallai o'r herwydd gymeryd ei ran yn y cyn- gherdd yr oedd i fod ynddo nos dranoeth. Yr ydym yn disgwyl y bydd hyn o sylw yn ddigon i gael gwelliant yn y peth hwn. Er gwaethaf yr ychydig anrhefn hwn, tystiolaeth unfrydol pawb ydoedd fod y cyngherdd hwn gyda'r goreu a gafwyd erioed yn y dref. Hyd- erwn fod elw sylweddol wedi ei gael at dreul- iau yr organ. Llongyfarchwn y pwyllgor a'r swyddogion ar y llwyddiant mawr a goronodd eu llafur.—E.W.E.

Cyngor Dinesig y Bala.

LLANDRIUO awrtb)

AT EIN GOHEBWYR.

LLANDDERFEL.

CYNWYD. berth,

Advertising