Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YSMYGU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSMYGU. GAN Y PROFF. T. RHYS, B.A., BANGOR. Y mae'r arferiad o ysmygu wedi myned ar y fath gynydd yn mhlith plant a bechgyn ieuainc fel y mae yn bryd i gymeryd y mater dan ein sylw mwyaf difrifol. Y mae rhai o wledydd Ewrop eisoes wedi cymeryd mesurau i roddi atalfa ar yr arferiad niweidiol, a chospir bob un dan ryw oed neillduol geir yn euog o ysmygu mewn lleoedd cy- hoeddus. Y mae yn hen bryd i'r wlad hon ddllyn yr un camrau. Os na wna Prydain ddeddfu yn yr un cyfeiriad ar fyrder mae Ile i arswydo am y niwed ofnadwy mae'r arferiad o ysmygu yn debyg o wneyd i iechyd corph a meddwl ein bechgyn ieuainc a'n plani. Y mae Bwrdd Ysgol Bangor wedi cyhoeddi pamphledyn, yn yr hon y gosodir allan mewn iaith groyw y drwg mawr ga ysmygu ar gyrph plant yn tyfu. Hona fod myglys yn atal tyfiant y plant, ei fod yn pylu eu meddwl, ac yn anwydo eu moesau. Nid yw'r sigarets ddefnyddiant ond gwenwyn parod, ac y mae llawer o fechgyn wedi marw o herwydd ys- mocio yn ol tystiolaeth y meddygon weinenr arnynt. Dyna eiriau cryf gan y Bwrdd Ys- gol. Y m le'r pamphledyn wedi ei arwyddo gan Gadeirydd y Bwrdd, sef Mr. John Price, Prifathraw Coleg Normalaidd Bangor. Y mae croesydd yn erbyn ysmygu ar gael ei hagor yn Mangor, a Chymaeithas Wrtli- ysmygol ar gael ei sefydlu. Gobeithio nad yw ond ernes o ugeiniau o rai cyffelyb yn Nghymru. Ceisir deffro dynion i ymfyddino ac i ymdrechu llethu'r arferiad drwg drwy bob moddion cyfreithlawn. Os yw bwyd yn rhwystro 'fy mrawd, ni fwytaf fi gig bvth -1 Cor. viii. 13. ApeSir at gydwybodau dynion i roddi'r esiampl ddnvg i'r plant heibio rhag iddynt i rwystro rhai o'r rhai bychain a'u harwain efeallai at bethau gwaeth. Cydwybod dyn sydd yn ei wahaniaethu oddi- wrth bob creadur arall. Galli} i ddewis yn wahanol, neu ewyllys Tvd, i ddewis y drwg neu y da. Crewyd dyn ar lun a delw Duw, a hyn yw'r ilui a'r ddehv, set gallu i ddewis y drwg neu y da, Fe ddewisa'r cread- uriaid dircswm, ond yn hanfodol wahaiv 01 i ddyn. Gall y ci a'r ceffyi a'r fuwch a'r mochyn ddewis ond y maent yn hanfodol wahanol i ddyn mewn gallu i ddewis Fe dora'r fuwch drwy'r ciawdd am rod gwell porfa yn y cae nesaf. Fe ruthraV mochgyn drwy'r gwrych "r cae haidd neu'r cae tatws am fod yno damaid biasus i roi yn y cylla Chwilio y maent am fwyniant anianoi. Felly y dewisa creadur direswm boh amser, ac felly y parha i wneyd byth. Mae dyn weithiau yn dewis fel creadur direswm. Dewisa'r hyn a ddaw a mwyniant corph; dewisa borthi'i flys yn unig lei y fuwch a'r mochyn. Ond nid dyn ddim o hono pan yn dewis felly, ond peth neu greadur direswm. Pan dewisa dyn fel dyn, ac nid fel creadur direswm, dewisa yr hyn sydd dda neu'r hyn sydd ddrwg. Hyn wahaniaetha ddyn oddiwrth greaduriaid eraill, gwyr pa peth Sydd dda a pha beth sydd ddrwg, a gall ddewis yr un ewyllysia o'r ddau. Y mae yn berchen c-yd- wybod. Os ydym Gristionogion, yr ydym i ddewis pob peth ercha'r gydwybod—yr hyn sydd iawn neu dda. Cyn cyflawui unrhyw weithred nid gofyn sydd i fod pa faint o bleser geir ynddi, end gofyn a yw yn iawn ? a yw yn dda ? Arferid dweyd am y gydwy- bod mai ilais Duw yn yrenaid yw. Os ydym yn anwybyddu gorchymyn y cydwybod ynte, yr ydym yn anwybyddu llais Duw bhnwyd yn yr enaid. Yr ydym yn herio Duw. yr ydym yn cau dwrn yn ei erbyti yr ydym yn gwatwar ein Gwaredwr, yn sigio pen arno fel y luddewon gynt pan yr cedd dan yr hoelion. Yr ydym yn dweyd yn ein calon "Nid oes un Duw." Dewis fel y creadur direswm wna'r meddwyn, yr haip-chwareuwr. y puteiniwr, y chwareuwr pel-droed weithiau, ac yr wyfyn ofni y rhaid ychwanagu'r vstiieciar myglys. Ond drwg mawr yr ysmociwr yw rhoddi esiampl drwg i'r rhai bychain. Cy- tunai pawb fod yr arferiad yn ddrwg mawr i'r plant. Sut y gellir cynghori'r plentyn i beidio ysmygu, os ydym yn euog o'r un peth ? Pa rym sydd mewn cynghor felly ? Onid yw'r esiampl yn dinystrio'r cynghor ? Y mae'r ysmygwr ynte yn euog o rwystro y rhai bych- ain trwy roddi esiampl ddrwg. Gwell na rhwystro'r bychain fyddai crogi maen melin am wddf, a'i ymdaflu i'r mor rhag ychwanegu drwg at yr hyn gyflawnwyd. Nid dibwys celiwair a pheth mor gysegredig a diniweid- rwydd calon plentyn bach. Gosodwyd un yn Mangor yn medd y meddwyn yr wythnos ddiweddaf, a chlywais un fu yn byw am wyth mlynedd yn yteulu pan oedd y truan gladdwyd yn fachgen bach, yn dweyd ei farn, mai dech- reu'r drwg oedd.cellwair a chwerthin ar yr aeiwyd am ben y diweddar D.S.D.

"A New Lease of Life."!

Advertising