Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

0 ADGOFION

CYNGOR DOSBARTH EDEYRNION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DOSBARTH EDEYRNION. Dydd Gwener, Rhag. 19, dan lywyddiaeth Mr. E. P. Jones (Is-gadeirydd). Carthion Corwen.-Darllenwyd Ilythyr o Fwrdd y Llywodraeth Leol yn dymuno cael gwybod sut yr oedd pethau yn sefyll erbyn hyn yn nglyn a phuro carthion tref Corwen. Cyfarwyddwyd y Clerc i ateb y cymerir y mater dan ystyried yn y cyfarfod nesaf. Prif Ffordd Caergybi.- Y sgrifenodd Mr. E. Vaughton, peirlanydd dan Gyngor Sirol Meirionydd, i ddweyd fod rrif-ffordd Caer- gybi dan sylw Pwyllgor y Prif-ffyrdd, ac y rhoddir 1,000 o latheni cubaidd o gerrig i lawr ar y darn drwg yr ochr draw i'r Ddwyryd. Cyfarwyddwyd y Clerc i alw sylw pellach y peirianydd a Pwyllgor y Prif-ffyrdd at gyflwr drwg y darn ffordd o'r orsaf hyd at bont Corwen, a'r llwybr ar hyd y darn hwn, gan wasgu arnynt ei adgyweirio yn drwyadi yn ddioed. Carthion Llctnsantffraid. Darllenwyd IIythyr oddiwrth Misses Dower a Sheppard, Tycoch, Carrog, yn protestio yn gryf yn erbyn i r Cyngor arllwys carthion pentref Llansantffraid i'r afon Ddyfrdwy, Yn eu llythyr dywedant: Mai rhodd ddaionus Duw i ddyn ydyw dwfr, ac ni ddylai dyn gamarfer y rhodd. Nid ydyw y Prydeiniaid lawer uwchlaw yr Hindwaid—taflant hwy eu meirw i'r afon. tra y tafla y Cristionogion eu holl fudreddi i'r dwfr, ac nid yw y canlyniad ond bron yr un peth hefyd, nid oes gan dref Caer end y Ddyfrdwy i ddibynu ami am gyflenwad dwfr, ac y mae yn syndod fod neb yn gallu meddwl am lygru y dwfr hyd yn nod i wasanaethu eu dibenion hunanol ac afler eu hunain." Gan nad ydyw y mater o wneud carthffos- ydd yn Llansantffraid wedi bod o gwbl o dan ystyriaeth y Cyngor, ni chymerwyd rhagor o sylw o'r llythyr na'j ddarllen. Prydles Penpigin.Cyflwynwyd biliau yn gwneud cyfanswm o 24P 8s am wnend y brydles yn rhoddi hav/1 i'r cyhoedd rodiana trwy goed Penpigin, Corwen, a phasiwyd i'w talu.

______......-.-:._--...,.......-;:;::;&------..-"…

Advertising

Advertising