Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ARp°^ CHWAETEROL d c Yn b…

CARROG.

CYNGOR PLWYF CORWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR PLWYF CORWEN. Nos Wener diweddaf cynhaliwyd eyfarfod misol y cyngor uchod: Yn bresenol:—Mri T. Evans (is-gadeirydd), T. Griffiths, J. Williams, T. Edmunds, E. Williams, Salem S. Jones, T. Jones, Tre'rddolj W. Jones, Glyndyfrdwy, a L. Lloyd John. Yn absenoldeb y cadeirydd, llan- wyd y gadair gan yr is-gadeirydd. Cofnod ion.Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol gan Mr Lloyd John, a phasiwyd hwv. Cyfrifon.—Arwyddwyd cheque i daiu am gy- hoeddiadau y Reading Room a'r Library. Lle mwy cyfleus i drucio anifeiliaid yn ngorsaf Glyndyfrdivy.—Gan nad oedd y cynygydd (Mr. H. Jones, Carrog) yn bresenol, gohiriwyd y mater hwn am fis yn mhellach. Llwybr Cilgwri,-Tynodd Mr E. Williams, Salem, sylw at gyflwr anfoddhaol y llwybr hwn. Penderfynwyd ar Mri E. Williams, T. Evans, a T. Jones i fyned i olwg y lie, a threfnu bethoreu i wneyd iddo. Ty yr Elorgerbyd.—Rhoddwyd gorchymyn i Mr Rees Williams gael glo tuag at wasanaeth yr adeilad, gau fod tan yn angeriheidiol yn achlys- urol i gadw yr hag-ness, &c., mewn cywair da. Y ffordd neu \wybr drwy goed Colornendy.—lip peth ymdrafodaeth ar y mater hwn. Pasiwyd is-bwyllgor (cynwyaedig o Miri S. Jones, T. Griffiths, a T. Edmunds) i fyned i edrych y fan, a dod ag adroddiad i'r pwyllgor penodedig i ym drafod a'r mater, ac amlygwyd dymuniad ar i'r pwyllgor hwnw ymgyfarfod mor fuan ag sydd bosibl. Jury List y Plwyf -Cwynai Mr J, Williams, Dee View, fod camgymeriadau lied bwysig yn y List hon. Ar ran yr Assistant Overseer rhododd Mr Lloyd John egiurhad ar y mater; ond gan nad oedd Mr Williams yn foddlawn ar hyn pasiwyd fod i Miss H. Evans ddanfon llythyr egiurhad,—GOHEB.

Family Notices

Advertising