Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

$$>» -^!FBEWN0L.

LLAWDDEN JHT EI FEDD!

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLAWDDEN JHT EI FEDD! Ganwyd Llawdden yn mhlwyf Llangan yn 1831, a bu farw Isfed o'r mis hwn yn Neondy Ty Ddewi. Gadawaf i'r wasg draethu am ei gymeriad dysglaer, ond caniatewch i mi ad- rodd un hanesyn byr anhysbys i'r byd o'ch tref am ei ddylanwad nerthol ar ei wrandawyr, hyd nes torodd cawg ei waed trwy orlafur pregethu ar hyd a lied y wlad. Yn y flwyddyn 1860 neu 1861, daeth Mr Howell yn ei gylch- dro dros y Gymdeithas Fugeiliol i bregethu yn Eglwys Llanfor, ger y Pala. Y boreu Sul hwnw yr oedd morwyn Ysgoldy Gram- adegol y Bala yn brysur iawn yn gofyn i bawb trwy y ty a fedrent newid swllt, ac mai dernyn gwyn tair ceiniog yn unig yr oedd hi wedi fwriadu ei roddi tuag at ei genadaeth. "Ellen," meddai ei meistres, beth sydd arnoch chwi ei eisiau-nis gwnaiff neb eich gorfodi i roddi dim yn y eesgliad." Na," ebe Ellen, yr wyf wedi clywed llawer o son am ddyfodiad y curadyn hwn o'r De i'r Bala, ad y mae efe heddyw boreu yn Llanfor. Mynaf ei glywed pe gorfodid i mi fadael a'r swllt hwn sydd yn fy nwrn I Llanfor yr aeth, a chafodd le i eistedd yn ffrynt yr oriel. Wedi dyfod adref, dyma oedd adolygiad y forwyn dan sylw am bregeth y Curad Howell o Gastell Nedd. Aeth teulu Ysgoldy Ty tan domen i Eglwys y dref fel arferol, gan ddysgwyl Llawdden yno yn y prydnawn a'r hwyr. Meistres," ebe Ellen, buan wedi iddo ddechreu pregethu yr oeddwn yn foddfa, a buasai yn dda genyf pe bawn ar ben mynydd Berwyn i dori allan i nadu. Ni chafodd neb erioed y fath ddyl- anwad mor effeithiol anoaf o'r blaen. Pan yn edrych ar y casglyddion yn dynesu, buasai yn dda genyf pe yn feddianol ar siswrn i dori ffwrdd fy llogell a'r oil oedd ynddi, a'i hestyn i lawr dros yr oriel i ddysgl y casglwr," c, Wedyn nid oedd Ellen am newid ei swllt, ond yn chwenych rhoddi y cwbl a feddai tuag at ei genhadaeth. Pan ofynodd ei meistres iddi pa fath ddyn mewn pryd a gwedd oedd ? Ateb parod Ellen oedd, pe buasai allan o'r pulpud, buaswn yn ei gymeryd yn dipyn, o chap, ond O! mor nefolaidd yn ei buipud Tua'r adeg hwnw yr oedd Ellen yn edrych fel 35, ac yn un o ddilynwyr y diweddar Hy- barch Michael Jones. Yr oedd y forwyn hoo, fel ei gweinidog galluog, yn ddynes blaen a dirodres. Mae hithau, hefyd, yn ei bedd er's blynyddau. Dygwyddais fod yn bresenol yn clywed y stori uchod. Son yr oeddwn am effaith dylanwad angherddol y diweddar Deon Howell yn more ei oes, ac nid cyn gymaint am gasgliadau diddiwedd yr oes hon, y rhai a edrychir arnynt fel pethau uwchlaw gwir gref- ydd ei hun. ODDIWRTH EICH GOHEBYDD ARBENIG. Llyn Creini.. [Dysgwyliwn allu cyhoeddi ysgrif alluog olaf y Deon Howell yn ein rhifyn nesaf. Diau y bydd ein darllenwyr yn darllen yr hanesyn dyddorol uchod gyda bias.—Gol.]

Advertising