Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BALA. CRONFA GYNORTHWYOL.—Dywenydd gen ym ddeall fod y swm anrhydeddus o £ J °7 wedi ei dderbyn at gynorrhwyo Mr J. Jones, Rhydlechog, yn ngwyneb y tan a dorodd allan yn ddiweddar ar ei fferm. Cyfiwynwyd y swm hwn i Mr John Jones mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Ysgol y Bwrdd ddydd Sadwrn diweddaf. Talwyd diolch i'r swyddogion, ac yn arbenig i'r ysgrifenyddion, Mri Jordan, Bala, a Roberts, Brynmelyn, am eu gwaith rhagorol yn nglyn a'r mudiad. MR. LLOYD GEORGE.—Hysbyswvd genym yn ein nodion lleol dro yn ol fod yr aelod an- rhydeddus dros fwrdeisdrefi Caernarfon i an- erch etholwyr Rhyddfrydol y Bala ddechreu y flwyddyn. Bydd Mr George yn anerch etholwyr Caemarfon ddydd Iau, a chan ei fod mor agos atom dyma gyfle rhagorol i ofyn iddo ddyfod i'r Bala. LLENYDDOL.—Nos lau, yn nghymdeithas lenyddol yr Annibynwyr, bu Mrs Talwyn Phillips a Mr Jordan yn dadlu yn ddyddorol ar A ddylai merched gael addysg canol- raddol." Dylent, ar bob cyfrif, meddai Mrs Phillips; na ddylent, ar gyfrif yn y byd, meddai Mr Jordan. Ar ymraniad catwyd fod yr un nifer wedi pleidleisio bob ochr. Llywyddwyd gan Mr John Evans, Berwyn St. DIRWEST.-Nos yfory (Iau) bydd Miss Pritchard, Birmingham, yn traddodi anerch- lad dirwestol yd festri y Capel Mawr. Dech reuir am 7 o'r gloch, a rhoddir gwahoddiad cynhes i bawb. DARLITH.—Gwelir mewn colofn arall hys- bysiad am ddarlith a draddodir gan Mr Parry, Glantegid, nos Wener yt wythnos nesaf. Y mae y testyn yn un dyddorol, Tro yn y Dwyrain," y darlithydd yn hyddysg yn y gwaith, a'r elw yn myned at amcan teilwng, sef i'r tlodion.

. Nurse Penllyn.

CORWEN.

LLANDRILLO. I

<-. GLAN'BAFON.

Advertising