Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

. Nurse Penllyn.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nurse Penllyn. Dydd Sadwrn, yn y Neuadd Sirol, cynhal- iwyd cyfarfod blynyddol pwyllgor Nurse Pen- llyn. Llywyddwyd gan Syr Henry B. Rob- ertson, Pale. Cyflwynwyd y seithfpd adrodd- iad blynyddol gan yr Ysgrifenyddes ffyddlon, Mrs Burton, Eryl Arran. Yn ei hadroddiad sylwai Mrs Burton fod II7 o achosion wedi eu cofrestru yn ystod y flwyddyn a 2,097 o ymweliadau nyrsiol wedi eu talu. Yrndrin- iwyd a rhai achosion lied ddifrifol. Yn ych- wanegol at y 117 uchod ymdriniodd Nurse Lloyd a 12 o achosion mamol, gyda pha rai y rhoddodd foddlonrwydd mawr. Hefyd, ym- driniodd a rhai o achosion y dosparth yn ystod absenoldeb Nurse Jones. Ymwelwyd a'r Bala ddwywaith yn ystod y flwyddyn gan Ar- olygwyr y Nyrsio, ac adroddent fod y gwaith a wneid yma yn gymeradwy iawn. Gofidiai y pwyllgor yn herwydd ymddi- swyddiad Nurse Jones ar 01 7 mlynedd o wasanaeth fel nurse y dosparth, a dymunent ddwyn tystiolaeth i'w gwasanaeth rhagorol a'i gofal caredig yn ystod y cyfnod hwnw. Hyd- erant yn Nurse Hughes y cant olynydd teil- wng iddi. Tra yn diolch i bawb am eu cynorthwy caredig dymunai y pwyllgor adgoffa trigolion Penllyn fod y gwaith o nyrsio y cleifion tlod- ion yn dibynu yn gyfangwbl ar roddion lleol gwirfoddol. Y mae y tanysgrifiadau am y flwyddyn ddyfodol yn awr yn ddyledus. Wrth gynyg mabwysiad yr adroddiad sylwai Mr Evan Jones, Y.H., fod cynydd eleni yn nghasgliadau yr eglwysi a'r capeli. Gofidiai yntau oherwydd ymadawiad Nurse Jones. Eiliwyd y cynygiad gan Mr Robert Thomas, Llandderfel. Cynygiwyd a chefnogwyd y diolchiadau arferol gan Dr Hughes, y Parch L. 1)1. Jenkins, Mri J. LI. Owen, J. C. Evans, a John Williams, Bala; L. J. Davies, Llan, uwchllyn; Simon Roberts a William Richards, Llandderfel. v

CORWEN.

LLANDRILLO. I

<-. GLAN'BAFON.

Advertising