Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

AT EIN GOHEBWYR.

Y BALA.

;CORWEN:

COLLFARNU ARTHUR LYNCH.

-----Ymadawiad Iiwfa Mon.

ERCHYLLWAITH PEASENHALL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ERCHYLLWAITH PEASENHALL. PRAWF SEITHUG ETO. Dechreuodd ail brawf William Gardiner ar gyhuddiad o ladd morwyn o'r enw Harsent, yn Peasenhali, Mehefin diweddaf, yn Mrawd- lys Suffolk, ddydd Mercher, gerbron y Barn- wr Lawrence Yn y prawf cyntaf methodd y rheithwyr a chytuno. Seiiid yr achos yn hollol ar dystiolaeth am- gylchiadau, Parhawyd y prawf ddydd Iau, Darllenwyd amryw lythyrau di-enw anfonwyd at olygydd newyddiadur o Ipswich, ac at yr heddlu. Honid eu bod yn gyfaddefiadau o'r trosedd ar ran rhyw berson sydd eto'n rhydd. Ddydd Gwener, wedi gorphen yr achos dros y Goron, anerchodd Mr Wild y rheith- wyr dros yr amddiffyniad. Galwodd ar Mrs Gardiner, gwraig y carch- aron, a rhoes dystiolaeth fod y carcharor ar noson y cymerodd y Hofruddiad le gyda hi mewn ty cyn-,ydog hyd haner awr wedi un ac nac aeth o'i dy ei hun ar ol yr awr hono, hyd haner awr wedi wyth yn y boreu. Rhoes Gardiner dystiolaeth ar ei ran ei hun, a dywedodd fod amryw dystion dros yr erlyniad yn dyweyd apwiredd. Terfynwyd y prawf ddydd Sadwrn. An- erchwyd y rheithwyr gan Mr Wild a Mr Dickens (dros y Goron), Ymneillduodd y rheithwyr, ac wedi absenoldeb maith, dych- welasant, a hysbyswyd na chytunasant. Anfonwyd Gardiner yn ol i'w gell i ddisgwyl trydydd prawf yn Bury St. Edmunds yn Me- hefin nesaf.

Family Notices

-

'"CERRIG-Y- wydd i

j FFEIRIAU GOGLEDD ' I

[No title]

Advertising