Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

<¡,'me's suffering Ended

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN DDIRWESTOL. DAMEG Y LLYGOD. Cynaliodd y Ilygod un tro gyfarfod mewn seler eang, er tynu allan rhyw gynllun diogel i gael y bwyd o'r fagl oedd yn gorwedd gerHaw. Yr oedd y llygod wedi gweled amryw o'u cyf- eillion a'u perthynasau anwylaf yn cael ei cipio ymaith o dro i dro gan ei safn annrhugarog. Traddodwyd llawer araeth faith yn y cyfarfod, a chynygiwyd llawer cynllun gorchestlol ond diffrwyth. O'r diwedd, cododd un i fyny, a dywedodd: Fy marn i yw, os gosodwn ni un bawen i gadw y gliced i lawr, y gallwn ni yn ddiogel ac yn hawdd gymeryd y bwyd a'r llall." Cydsyniodd y Ileill oil, a chymeradwy- wyd y cynllun yn unfryd unfan. Gohiriwyd y cyfarfod, ac ymneillduodd yr oil o honynt i'w cartrefi ond parhau i gael eu maglu a'u lladd yr oedd y llygod o hyd. Bu raid iddynt alw cyfarfod a rail. Nid oedd y cyfarfod ond newydd ddechreu, pryd y daeth llygoden gloff i fewn ar ei thair troed. Cododd i fyny i anerch y cyfarfod. Lledodd allan o'u blaen weddillion ei throed, a dywedodd: "Anwyl Gyfeillion, rhoddais brawf ar y cynllun y cyt- unwyd arno tnor unfrydol yn y cyfarfod diw- eddaf, ac fe welwch y canlyniad. Nawr, 'rwy'n cynyg cynllun diogel i ddianc rhag y fagl-' Do not touch it'—Peidiwch cyffwrdd ag ef. Mae dynion ar eu goreu yn ceisio darganfod rhyw gynllun effeithioi i ddianc rhag canlyn- iadau meddwdod. Ceisient ddod o hyd i ryw ddyfais i osgoi drygau anghymedroldeb. Awgryma rhai nad oes perygl o gwbl mewn diodydd meddwol ond eu cymeryd yn gy- medrol. Dywedant mai nid da rhy o ddim- fod bara yn niweidiol wrth gymeryd gormod o hono-mai yn y gormodedd y mae y drwg, ac nid yn y diodydd eu hunain—mai ar y dynion mae y bai, ac nid ar y ddiod. Y mae o'r goreu i ddynion blysig gredu hyny, ond gwyddom ni yn amgen gwyddom fod gwenwyn yn llechu yn ddirgelaidd ymhob math o ddiodydd meddwol; gwyddom fod y ddiod feddwol yn y diwedd ynbrathu fel sarph, ac yn pigo fel neidr. Y mae llawer, drwy gredu yn niniweidrwydd diod gadarn, wedi syrthio yn ysglyfaeth iddi-wedi syrthio i brofedigaeth a magi, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dyn- ion i ddinystr a cholledlgaeth. Na, os ydych am gael eich cadw rhag magi diod gadarn, fy ngyngor i yw-" Do not touch it (Peidiwch cyffwrdd ag ef.) Na chyffwrdd, na archwaetha, ac na theimla. (Touch not, taste not, handle not.) Dyma gyngor a chyfarwyddyd y Beibl hefyd: Nac edrych ar y gwin." Paid mynd i olwg y ddiod feddwol. Cadw o sawr diod gadarn. Llwyrymwrtbodiad yw cyfarwyddyd syml y Beibl i osgoi drygau diod gadarn. Condemnia y BeibI bob cysylltiad, ie, y cysylltiad lleiaf a'r ddiod feddwol. Do not touch it."

Advertising