Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

. Cydnabyddiaeth Nurse Jones.

Concert yr Organ.

. ESGOB LLANELWY.

Cofadail T. E. Ellis. j

. CYNGHOR DINESIG Y BALA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGHOR DINESIG Y BALA. Cynhaliwyd cyfarfod arferol o'r Cynghor nos Wener, Mr J. W. Roberts, Y.H., yn y gadair. Tai yn Plasey Alley.-Bu y Cynghor am amser maith yn trafod adroddiad y Swyddog Meddygol Iechydol a'r Arolygydd parthed sefyllfa dau dy, perthynol i ymddiriedolwyr y diweddar Mr Edward Edwards, cigydd, yn Plasey Alley. Adroddai y swyddogion fod y ddau dy hyn yn hollol anghymwys i neb fyw ynddynt, gan nad oedd bron ddim goleu yn dyfod iddynt, a'u sefyllfa gyffredinol yn dru- enus. Os na fydd i'r gwelliantau angenrheid- iol gael eu gwneyd penderfynwyd gofyn i'r Ustusiaid am archeb i'w gau. Parthed tai a berchenogir gan Mr H.Evans, Swyddfa'r Wythnos a'r Eryr," yn yr un lie, hysbysodd y swyddogion fod y rhai hyn, cyn belled a'u sefyllfa gyffredinol, yn well o lawer na'r ddau dy arall, eto yr oedd angen gwneyd rhai gwelliantau, a'r prif angen ydoedd gwella y llwybr o flaen y tai. Bu y Cadeirydd a Mr R. Lloyd Jones yn ymgynghori a Mr Evans yn eu cylch, a chawsant dderbyniad tywysog- aidd Addawai ef ei barodrwydd i wneyd ei ran ei hun o'r gwelliantau ond i'r Cynghor wneyd ei ran. Hawliai Mr Evans mai per- thynol i'r cyhoedd ydoedd y llwybr drwy yr Alley, ac oherwydd hyny mai gwaith y Cyn- ghor ydoedd ei adgyweirio neu ei wella. Yr oedd yn barod i wneyd drain ond i'r Cynghor wneyd y llwybr. Penderfynwyd fod yr Arol- ygydd i weled Mr Evans yn nghylch y drain.

. BWRDD UNDEB Y BALA.

CYNGHOR DOSPARTH PENLLYN,

CERRIG-Y-DRU.1^0^ 0

Advertising