Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ER COF AM

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ER COF AM John Hugh Jones, anwyl fab Hugh a Doro- thy Jones, Hafod fadog, yr hwn a fu farw Awst 27ain, 1902, yn 17 mlwydd oed. Anhawdd awn i mi yw canu Pan fo prudd-der ar fy ngwedd, Am fod JOHN HUGH JONES fy nghyfaill Heddyw 'n ddistaw yn ei fedd Os yw teulu Hafod fadog Bellach wedi myn'd yn l!ai, Mae y Nef yn gyfoethocach 0 un anwyl a di fai. Magwyd JOHN yn dra gofalus, Eilun ei rieni oedd Nid oes arnaf ofn llefaru 'r. Geiriau hyn i chwi ar g'oedd Fe fu'n hir cyn dysgu cerdded,— Y pryd hyn ni chafodd gam Ai yn fynych iawn i'r capel I addoli 'n llaw ei fam. Dweyd ei adnod byddai'n bwyllog, 1 Fel un dan arddeliad mawr; Adrodd hefyd ran o'r bregeth Heb ei hysgrifenu i lawr Galwyd e' i ddiweddu'r seiat Yn ei dro, pan ar y llawr: i Nid oes angen byth ddiweddu'r Seiat lie mae John yn awr, i Addurn fu i achos crefydd, Er mai ber iawn fu ei oes Nis gall amser na chlo'r beddrod Byth ddifodi'r argraff roes Anhawdd iawn i'r fam anghofio Swn ei droed yn dod i'r ty- Hiraeth fel yn sibrwd wrthi, Ddoist ti'n ol, fy machgen eu ?" Hoffus oedd o'r ysgol ddyddiol, Er fod ganddo ffordd go faith ¡ Cerddodd yno'n benderlyro:, j Drwy ddrychinoedd, Jawer gwaith Canai'n lion wrth fyn'd a dyfod, Gyda'i ffon o dan ei law Jrlawdd oedd deall pwy oedd yno Cyn ei weled ef o draw. Trist yw cael yr aelwyd hebddo} 3 Gwag yw'r gadair yma'n awr, Nis gad mwyach einddyru Fel y gwnaeth am lawer awr i LJawn oedd JOHN 0 ddawn prydyddu, O 'rwy'n temdo heddyw'n chwith Am ei glywed ef yn adrodd Ei ganeuon yn em piilh. Anedd glyd oedd bwth rhieni Am flynyddoedd iddo ef, Ond ni ddeil hwn i'w gydmaru A thragwyddol Dy y Nef Gaddr byd a'i demtasiynau 'N ieuanc ga'dd fy anwyi JOHN, Cyn i stormydd yr amalwch Guro ar ei dyner fron. Rhyfedd gweled cyfarfodydd Ein hardaloedd hebddo ef, Ar eu liwyfan fel adroddwr, Nen i roddi araeth gref; Pan gyfodai JOHN i fyny Fe s:rioiai'r dorf i gyd— 'Roedd yn siarad yn naturiol A donioldeb ar ei bryd. Cerddai'n rohel! i wrandaw pregetb- Ni choleddai ysbryd cul; Ffyddlon hefyd yn ei egiwys, Ffyddion iawn i'r Ysgo; SuI; Wedi treulio oriau'r Sabbath Yn nghwmpeini dyniot3 da,— Y pregethwr a'r blaenoriaid, Cofio eu cynghonon na. i5Rwyf yn teimlo ihyvv ddystawrwydd Byth er pan y daddwyd JOHN Byth er pan y daddwyd JOHN Hiraeih &ydd yn lianw'rn oslon Am ei gwirtni'r funnd hon Nid yw'r Sabbath, dydd yr Arglwydd, I mi'u edrycn yr un wedd, Er pan roddwyd JOHN i orphwys Yn y glyn mewn tawel fedd. Dad a mam a brawd na wylwch, Er eich bod mewn gofid dwys, Am fod angau wedi gyru Un o'r teulu dan y gwys Mae anfarwol ran ein cyfaill Heddyw'n hapus uwch y ser, Gan hyderu deuwch chwithau Oil gerbron gorseddfainc Ner. Hawdd oedd deall ddydd ei angladd, Er mai marw yw yn awr, Fod ei enw yn anfarwol Yn nghalonau tyrfa fawr; Araf gerddant tua'r fynwent Lie gorweddai daid a'i nain, Rhoddwyd yntau mewn distawrwydd Yno i orphwys gyda'r rhai'n. CELYNFAB.

MORDAITH BYWYD.

YSGOL Y BWRDD, LLANDDERFEL.

Advertising