Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
Y BALA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y BALA. HARLIONUS.-Cawsom yr hyfrydwch beth amser yn ol o gyhoeddi yn ein colofnau am garedigrwydd ac haelioni y meddyg Dafydd ap Simon, mab i'r diweddar Simon Jones o'r Bala, yn anfon y swm o /,ioo yn rhodd i eglwys Annibynol y Bala at ddiddyledu festri y capel. Y mae y meddyg wedi anfon eto rodd o Z50 arall i gario allan ddymuniadau ei ddiweddar dad. Wedi derbyn y rhai hyn hyderwn y bydd i ymdrech deg gael ei gwneyd gan yr eglwys i glirio yr holl ddyled, fel y gall y boneddigesau gael eu llestri te a ninau addoli gyda chydwybod dawel. LLYS TRWYDDEDOL —Ddydd Sadwrn, ger- bron E..GJones,Ysw., a mainc lawn o ynadon. -Bu yr ynadon am haner awr yn ystyried yn breifat ddeiseb i leihau nifer y tafarndai yn y dref. Wedi dod i'r Llys hysbysodd y Cad- eirydd fod yr ynadon wedi rhoddi ystyriaeth fanw! i'r ddeiseb ac wedi dyiod i'r pender- fyniad, pan ddaw adeg cyfaddas, i leihau y tafarndai. Ymddangosodd Mr J. R. Jordan, Bala, i ofyn am adnewyddiad trwyddedau y Bull a'r Ship Hotels, Bala, yr hyn a ganiata- wyd, yn nghyda'r trwyddedau eraill. GWLEDD.-Nos Iau ymgynullodd oddeutu 200 i Lyfrgell y Coleg. i fwynhau gwledd flasus a baratowyd ar eu cyfer gan amryw foneddigesau. Amcan y wledd ydoedd cael elw at yr achos Seisnig a gynelir yn y Coleg ar y Sul ac i dreulio ychydig oriau yn ddifyr yn nghwmni y naill a'r llall. Wedi gwledda cynhaliwyd cyfarfod difyr o dan lywyddiaeth yr Athro Hugh Williams, M.A., gan yr hwn y cafwyd ychydig sylwadau doeth ar y cychwyn. Wedi hyny aed trwy-y rhaglen fel y canlyn:— Deuawd ar y berdoneg gan Misses Blodwen Hughes ac Annie Roberts. Pedwarawd gan Misses Kitty a H. A, Roberts a Mri Ap Gwrtheyrn a Thomas. Can gan Mr R. W. Roberts, B,A. Anerchiad gan yr Athro Ellis Edwards, M.A., Dywedodd eu bod wedi ymgynuH heno o amryw eglwysi, a thrwy hyny gwelai fod rhywbeth cryfach yn bodoli wedi'r cwbl rhwng y naill a'r llall nag enwad. aeth, Wedi cael can gan Mrs Ingham cafwyd ychydig sylwadau gan yr Athro W, B. Steven- son, M.A. Credai y dylid gael cyfarfodydd o'r natur yma yn fwy ami, fel y galler ymgydnabyddu yn well a'u gilydd. Yr oedd rhagor o gyfeillgarwch yn ffynu rhwng y naill a'r llall ohonom wedi i ni ddod at ein gilydd | fel hyn. Yna cafwyd caneuon Miss Kitty Roberts, Mri H. D. Lloyd, H. R. Davies (encoriwyd), Miss Roberts, County School, a darlleniad gan Mr B. Scott Williams, B.A. Ar gynygiad Mr D. G. Lewis, B.A., yn cael ei eilio gan Mr John Hughes, B.A., talwyd diolch cynes i bawb am eu cynorthwy ac i'r Athro Williams am lywyddu. Cyfeiliwyd yn ystod y cyfarfod gan Misses Blodwen Hughes, Tryweryn View; Jennie Roberts, Gwylfa, a Jennie Jones, Derwynfa. AM AETH YDDI AETH.—Fel y gwelir oddiwrth hysbysiad mewn colofn arall traddodir cyfres o ddarlithiau ar amaethyddiaeth yn y Bala yn mis Mawrth gan Mr W. Edwards, Aberyst- wyth. Hyderwn y rhydd amaethwyr y cylch eu cefnogaeth trwyadl i'r mater hwn.
mJ Duwinyddiaeth Gogledd Cymru.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
m J Duwinyddiaeth Gogledd Cymru. Cynhelir Ysgol Haf Dduwinyddol Gogledd Cymru yn y Bala Gorphenaf 2iain, yr 22ain, 23ain, y flwyddyn hon. Y prif siaradwyr fyddant y Prifathrawon Marshall a Silas Mor- ris, o Golegau y Bedyddwyr, Manceinion a Bangor; yr Athro J. M. Davies, Athrofa Bala-Bangor; Dr Hugh Jones, Bangor; Parch J. Puleston Tones, Dinorwig Parch Caenog Jones, Tregarth, ac eraill. Bydd yn y Bala gynulliad lluosog yn nglyn a'r Ysgol hon, yn cynwys o ddau i dri chant o fyfyrwyr. Yn y capel mawr y cynhelir y cyfarfodydd, a thra- ddodir amryw bregethau.
Y BALA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y BALA. Nos Iau, yn nghymdeithas lenyddol yr An- nibynwyr, cymerodd dadl le rhwng Mr H. Evans a Mr John Edwards ar "Pa un ai dyl- anwad y cymedrolwr ynte y meddwyn sydd fwyaf o niwed ?" Barnodd y mwyafrif o blaid Mr Edwards, mai y cymedrolwr. Mr Morris Jones a lywyddai.
CARROG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CARROG. Band of Hope y -Af C.- Cyiihallwyd cyfar- fod o'r uchod nos Fercher, y 11 cyf., dan lywyddiaeth Mr John O. Jones, Park Shop. Cafwyd cyfarfod gwir dda yn y drefn gan- lynol:—Dechrenwyd trwy ganu a chyd adrodd Gweddi'r Arglwydd. Yna cafwyd adroddiad, "0 na bawn fel aderyn bach," gan Tryphena Jones. Deuawd, Gwaith i bob un," gan May Jones a J. LI Williams. Cystadleuaeth adrodd Salm xliii., cydradd iaf, Emily Jones, Maggie Edwards a John Hughes 21I, Nellie Jones. Yna cafwyd anerchiad gan y Llywydd yn anog ychwaneg o weddeidd-dra wrth fyned I y adref o'r cyfarfadydd. Can, "Geir fy enw i lawr," gan K. Howard. Cystadleuaeth ar- eithio'n ddifyfyr ar y testyn Anuftidd-dod," cyfyngedig i ferched. mewn oed, cydradd, Mrs Howell a Mrs Jones. Cystadleuaeth areithio ar y testyn "Y Ffair Fawrth, iaf, T. L1. Mathews cydradd 2il, J. T. Hughes a Caradog Jones. Adroddiad "A, B, C," gan M. E. Owen. Adroddiad, "Pat a'r MuI," gan E. Davies. Cystadleuaeth cyfieithu geiriau, iaf, G. Howell cydradd 2il, Pollie Jones a Nellie Jones. Can, Hen wlad fy nhadau," gan Miss G. Howell, ac unwyd yn y cydgan. Yna terfynwyd trwy ganu ton ac ymadawyd wedi mwynhau cyfarfod dyddorol iawn..
j LLANDDERFEL,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANDDERFEL, Cvfarfod Pobi Ieuainc yr Annibynivyr.— Cynhaliwyd y cyfasfod wythnosol nos Lun diweddaf yn nghapel Rama o dan lywyddiaeth Mr Evan Roberts (Eos Gwenol). Y peth cyntaf ar y rhaglen ydoedd darlleniad. "Bug- eilgerdd Alun Mabon (Ceiriog), gan Gwilym Dertel, Yna cafwyd can, "CJychau Aberdy- fi," gan Eos Gwenol. Wedyn aed at brif waith y cyfarfod, sef papur gan Miss Edwards, Rama Terrace, ar Hunan-ddiwylliant." Caf- wyd papur rhagorol yn mhob ystyr, ac yr oedd yn amlwg fod Miss Edwards wedi cym- eryd trafiferth fawr wrth ei baratoi. Cafwyd sylwadau pellach arno gan amryw o'r rhai oedd yn bresenol.
LLANUWCHLLYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANUWCHLLYN. Cynhaliwyd cyfarfod wythnosol cyrndeithas gwyr ieuainc yr Annibynwyr neithiwr (ncs Fawrth). Y mater gerbron ydoedd dadl, "A ddylai yr eglwysi ddarparu chwareuon ar gyfer yr ieuenctyd ?" Agorwyd ar y cadarnhaol gan R. L. Morgan, ac ar y nacaol gan John Jones, Coedladur. Pan aed i bleidlais, caf- wyd fod y mwyafrif yn pleidio R. L. Morgan.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETHAU. Chwef. 2, yn 67 mlwydd oed, Mrs. Catherine Jones, (chwaer M. G. Griffiths, Crydd,) Uwchydon, Bettws. Chwef. 4, yn 19 mis oed, Robert, anwyl blentyn Mr. a Mrs. Robert Jones, Hafotty Newydd, Bettws. Chwef, 5, yn 71 mlwydd oed, Mr. Humphrey Lloyd, Coedyfron, Corwen. Chwef. 7, yn 49 mlwydd oed (ar ol ychydig ddyddiau o gystudd trwin), Mr. Robert Joups--boili yn Trevor Hall, Llangollen. Slab i Mr. a Mrs. Jones, gynt o Moelfre Newydd, Cerrigydruidion, ydoedd yr vmadawedig. Cymerodd y gladdedig- aeth le yn mynwent Llanycil, pryd y daeth llawer yn nghyd o Llangwm, Cerrigydruidion, a chyfeir. iadau eraill i arddangos eu parch a'u eydymdeim- lad a'r teulu trallodedig a hoffus. Chwef. 12, yn 39 mlwydd oed, Mr. T. C. Hughes. Crown, Llanfihahgel G.M.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
C ollwyd DDECHREU y mis hwn, o Pencoed Canol, JL/ Corwen, CI du defaid, yn ateb i'r enw Black." Pwy bynag a ddaw a'i hanes i'r perchenog (John Roberts) a gaiff ei wobrwyo. Dan Nawdd Corpli Sir FeirioDydd. _x- DASLIIHOEDD gt WAE4M4!TH GAN W. EDVTAE Coleg Prifysgol Cyf™ —hodynC<J Traddodir y darlithoedduC j ci<[}^Ls, yn Ysgoldy y Bwrdd, Bala. gfg&lp ar nosweithiau Llan,^ f t 23ain, y cyfarfodydd 1 dde(L ^oll g)'fre y S'r! P' is i un ddarlith, oc ,$ Dyma gyfle rhagorol pet^a uydd ddod i gyffyrddiad a rba 0beit^L# pwysig lddynt fel dosha* dra- ^^1# i ;;ifer fawr ddai ar y -^jj^eddP0 cael ynigom adeiladol ar EHBSTE O'B £ 5^1 1. Chwyn Cyffredina GIa fodd i'w dinystrio, &c., f cyv1xC 2. Magwraeth Gwartheg; aChig. • ■ ,,th C^r 3. Magwraeth a Thrmiaettt iDiad 4 Gwrteithiad Diwastrafl a Tir Porfa. Gellir cael g;i" g.01^; renig Thomas, J«m WSl-ii. Caergai; E. Gwledd y CApeTmaC Concert yp Prvdnawn ddvdd yr Ilea1 o ^<1 | DR. Organydd bydenwog ORGAN R c yn Nghapel Mawr ? 1 bydd Cor y Dref yn P (pAfgj^ "ST. PEDR, rssjfrfesFi Plan and Specifica arse^# Derwendeg, Cynwyd. j tnxQ Sealed Tenders, endorse to be delivered to m day of April next.. t The Council do ^eodsr" jno}' accept the lowest or Dated this 2T»i! £ w*5> Y Ddeddt A_ddy?S Noa Lun, Cynhelir cyf^r^Cf R. rjde^ ^f Bwrdd, pryd y byd'?;adaU 1 Xc o^:Af Bala, yn egluro darp»r „ chyd^ f. ydd, Hefyd, rhoddu. ymdrechion 0 jf ystod y ganrif aa DAVIES. VSRF-.0' Cadeirydd-T. Y^wdd,rP Dechreuir am 7-