Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BEIRDD. Y FLWYDDYN NEWYDD. Mae'r Flwyddyn Newydd wedi dod, A gwen y nefoedd gyda hi ? A'r hen a giliodd yn y man Pan welodd wawr y '93; Pa 1. yr asth y flwyddyn hen? Mor f.an hedodd ffwrdd A ddaw y Flwyddyn '92 A ni ryw adeg eto i gwrdd ? Mae'r Flwyddyn Newydd wedi dod Fel geneth ieuanc, hoew, chwim, Ond cofiwch, meddai wrth y byd- Nid wyf yn dod i aros dim Myn'd heibio wnaf, mewn dydd a nos, Heb aros munud ar fy nhaith- Bydd aros i mi'n fwy na gwyrth, Mae Duw yn galw am fy ngwaith. Mae'r Flwyddyn Newydd wedi dod Pwy welodd tybed ar ei thaith ? A welodd hi yr hen yn myn'd Yn ol at Dduw a'i chyfrif maith ? Fe laddwyd yr hen flwyddyn gan Bechodau mawr fu'n herio Duw, Mae'r Flwyddyn bellach yn ei bedd, Ond daw i'r farn yo eithaf byw. Mae'r Flwyddyn Newydd wedi dod, Ond buan iawn a hi yn hen Ei gwanwyn ieuanc, heibio a, A ehyll ei hoender iach a'i gwen Nis gall ieuangrwydd aros dim, Mae fel y cysgod ar y mur, Yn myn'd o hyd. a myn'd yn hen, Heneiddir ef gan boen a chur. Mae'r Flwyddyn Newydd wedi dod, Ond rhyfedd fyth mor debyg yw, Ei gwynt, ei gwlaw, ei dydd a'i nos, Ei barug llwyd a'i hoerni byw, I'r flwyddyn hen sydd wedi myn'd I gysgn nes a'r byd yn sarn. Pan eilw angel gwyn y nef Ar oesau'r byd i gyd i'r farn.

PENOD 0 ADGOFION-III.

Advertising