Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BEIRDD.

PENOD 0 ADGOFION-III.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENOD 0 ADGOFION-III. Addewais yn y benod o'r blaen alw heibio Llwynithel y tro hwn. Coffeir yn yr "hanes" am Edward Jones fel un o gymwynaswyr goreu yr achos yn Glan'rafon ar ei gychwyn- iad. Nid wyf yn ei gofio ef, ond credaf i'w ferch ymbriodi a Mr. Shem Roberts. Gwr oedd ef o dueddau Sir Flint, a merch iddynt hwy drachefn ydoedd y ddiweddar Mrs. Will- iams, priod yr Hybrach Richard Williams gwraig gall, garedig, a lietygar ydoedd. Mae un brawd iddi yn aros, sef Mr. Edward Roberts gwr cymwynasgar iawn oedd yntau, llawer diwrnod o droi gafodd man ddyddyn- wyr Cwmysgadwy ganddo, ond am ei dad, Mr. Shem Roberts, yr oeddwn yn meddwl .son yn benaf yn y benod hon. 0 ran ei ymddangosiad allanol, gwr cydnerth o gorff ydoedd, canolig ei daldra, chwim ei ysgog- iadau, gyda llais clir, braidd yn glochaidd wedi ei gyweirio rhyw ddau nodyn yn uwch na'r cyffredin, gellid ei glywed yn siarad gryn bellder cyn dod ato; dywedai rywbeth yn sydyn ac yn hollol ddifeddwl weithiau, er engraifft,-Marchogai ef a chymydog iddo adref o'r Bala o'r farchnad rhyw brydnawn Sadwrn, troes ef ei wyneb yn ol i'r Gorllewin a gwelai yr haul yn myn'd i lawr yn goch a mawr, a meddai yn sydyn-" Hould, hould, ydi y lleuad yn llawn deudwch ?" Diwrnod mawr i ni y plant fyddai mynd i Lwynithel i ddigarega, Byddai gwr y ty yn wastad yn commander-in-chief arnom, ac fel cymhelliad i ddiwydrwydd hefo'r gwaith, byddai yn addaw pwdin i swper. Byddai bara a chaws a llaeth yn cael ei anfon i'r cae weithiau taflodd un hogyn ei laeth gweddlll i'r gtaswellt-" Hel di hwna," meddai y meistr yn sydyn. Hen gymeriad rhagorol oedd Shem Roberts, ac mae yn bleser a hyfrydwch meddwl am dano. Cyrneriadau fel efe sydd ya werthfawr mewn mydogaeth. Yr oeddwn wedi meddwl galw heibio Penisa'rmynydd yn y benod hon, oad gwelaf y bydd raid gadael hyny hyd y tro nesaf -YSGADWY.

Advertising