Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BALA. CYDNABOD GWROLDEB.—Beth amser yn ol digwyddcdd damwain i ddwy wasanaeth- yddes Maesyrhedydd. Bu agos iddynt gyf- arfod a'u diwedd trwy fygu, ac onibai am gyn- orthwy parod ac arnserol yr Arolygydd Mor- gans, Bala, diameu y buasai y canlyniadau yn ddifrifol. Oherwydd ryw resymau, a bai mawr ydoedd hyny, hefyd, gomeddwyd i gynrycbiolwyr y Wasg gyhoeddi hanes yr an- ffawd, ond y mae pawb yn nhref y Bala yn gwybod yr hanes mor dda fel nad oes angen i ni ymhelaethu. Ymddangosodd ychydig o'r hanes yn y Daily Mail," Llundain, a bydd yn dda gan ein darllenwyr ddeall fod sylw y Royai Humane Society (Cymdeithas Gwobrwyo Achubiad Bywydau) wedi ei dynu j at wroldeb yr Arolygydd Morgans yn achub bywyd y ddwy ferch, a bwriedir cyftwyno iddo dystysnrif achubiad bywyd. Nid ydyw hyn oDd ei haeddiarit. DY' GWYL DEWI,-Dathlir gwyl nawdd Sant y Cymry gan fyfyrwyr gwladgarol y Bala yn Neuadd Buddug nos Wener nesaf. Per- fformir drama newydd ragorol, Owen Glyn- dwr." o waith un o'r myfyrwyr athrylithgar, Mr Morgan, Aberdyfi. Y FElBL GYMDEITHAS.-Cy,-)helir y cyfar- fod blynyddol yn Ysgol y Bwrdd, Bala, nos Fawrth nesaf am 7 o'r gloch, Anerchir y cyfarfod gan y Parch D. Charles Edwards, M.A., Llanbedr, ac eraill. Gwahoddir pawb. HYD'NES DAW MEDDYG.-Bydd tymhr)r y dosparthiadau ambulance yn dibema ar y 13eg o'r mis nesaf, pryd y cynhelir cyfarfod a gwledd. P mae oddeutu 50 wedi ymgeisio yr arholiad ac amryw feibion a merched yn ymdrechu am y tlysau aur ac arian a gynygir i'r goreuon. Cyflwynir y tystysgrifau a'r tlys- au yn y cyfarfod ar y ipeg. Nis gall neb wadu y ffaith fod y dosparthiadau hyn wedi ac yn gwneyd anrhaethol les i bob dosparth o bobl, ac y mae y ffaith fod cynifer a 50 wedi myned drwy yr arholiad yn brawf eglur o boblogrwydd y dosparthiadau yn y Bala. Nos Lun bu rhai o'r aeiodau yn Nolgellau yn ceisio am wobr, ond methiant fu eu hymgais y tro hwn, gan i wyrPorthmadog, hen stagers,' chwedl Mr J. B. Parry, gipio'r wobr. If at first you don't succeed, Try, try again." FFUG-EISTEDDFOD. Y dydd o'r blaen gwelsom restr testyoau ffug-eisteddfod myfyr- wyr yr Adran Ragbaratoawl. Y mae eu cyn- hwysiad yn ddoniol dros ben, ac os bydd rhywun yn dioddef oddiwrth iselder yspryd cymhellwn ef i ddarllen a myfyrio y testynau dair gwaith ar ol bob pryd o fwyd, a sicrheir adferiad llwyr ac uniongyrchol. Nid oes ond diniweidrwydd didramgwydd ynddynt, fel y myfyrwyr eu hunain, ac nis gallwn weled dim niwed ynddynt. Y mae llawer gwaeth drwg wedi ac yn cael ei wneuthur na chynal ffug-eisteddfod, ac er mai myfyrwyr ydynt awduron y testynau rhaid iddynt hwythau, fel pawb arall sydd yn meddu synwyrau priodol, gael eu hwyl diniwed. WEDI GLAN.-O.-Da genym ddeall oddi- wrth y newyddiaduron Americanaidd fod y Parch James Jones a'i briod, gynt o Finafon, y Bala, wedi cyrhaedd yn ddiogel i dy eu mab hynaf, y Parch William Jones, yo Cleve- land, Ohio, U.D.A. Pryderus ddisgwylir yn y Wladfa Gymreig am ddychweliad y ddirprwyaeth a benodwyd i gyfarfod Mr Chamberlain yn Ne Affrica gyda golwg ar ddewis lie i ymfudo iddo. Y tri cynrychiolwyr ydynt y peirianydd Llwyd ap Iwan, mab hynaf y diweddar genedlgarwr diledryw, M. D. Jones y Bala-sylfaenydd y Wladfa David S. Jones, Rhymni, gwr hirben a chyfrifol yn mysg y gwladfawyr a Robert Roberts, o dueddau Llanuwchllyn, ffermwr mawr a llwyddianas a dyn ag y teimla y Wladfa yr yraddiriedaeth lwyraf yn ei farn a'i air bob amser.

CYMDEITHASAU LLENYDDOL.

. LLANDDERFEL. 'j

CORWEN.

. DOLGELLAU.

Family Notices

Advertising