Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

t>Md5*fADWS T BALA.

CORWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORWEN. Tren Rhad.-Dymutiir adgoffa trigolion Cotwen y bydd tren arbenig yn rhedeg i'r Bala am 1.30 prydnawn dydd Mercher nesaf, gan alw yn Nghynwyd, Llandrillo, a Llan- dderfeL Y pris fydd 1/3 o Gorwen, a'r pris- iau arferol o'r gorsafoedd eraill. Dychwelir am 5 30 neu 8-10. Cyfle rhagorol i wrando Dr. Peace. Llys yr Ynadon-Yn Llys yr Ynadon ddydd Gwener gwnaeth Mr. G, Hughes, Cyfreithiwr, Rhuthyn, y trydydd cais am drosglwyddiad trwydded Blue Bell, Gwydd- elwern, i denant newydd. Gwrthwynebid ar ran y plwyfolion gan Mr. J. R. Jordan, Cyf- reithiwr, Bala, ac yn y diwedd gwrthododd yr Ynadon adnewyddu y drwydded. Cyngherdd—Nos Wener, cynhaliwyd cyn- gherdd yn yr Assembly Rooms, dan lywydd- iaeth Mr. W, Foulkes Jones, Colomendy, er budd cronfa y Coronation Arch. Gwasan- aethwyd gan Miss Katie Pugh, Miss Nancy Robetts, Mrs. Churn, Mri. Did Thomas, H. Ninnis, T. H. Jones, Gwilym Jones, a Dick Thomas. Llwyddiant Llawenydd mawr genym ydyw clywed am lwyddiant plant Corwen yn mhob rhan o'r byd, a gwr ieuanc sydd wedi dringo i safle nchel mewn byr amser ydyw Mr. James Davies, mab Mrs. Davies, Druid Farm. Yn ddiweddar dewiswyd ef i'r swydd bwysig o brynwr gan firm enwog y Mri. Russell & Allen, Bond Street, Llundain. Nid ces ond 13 mlynedd er pan aeth i Lundain, ac nid yw ond 31 mlwydd oed. Mae y swydd hon yn werth ^500 yn y flwyddyn i'n cyfaill, gyda gobaith am godiad sylweddol yn y dyfodol agos. Dymunwn ei I iatit. longyfarch ar ei lwyddiant.

Advertising