Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BEIRDD. Llcngyfarchiad i'r Parch. T. OGWEN GRIFFITH Ar ei ddyfodiad yn weinidog eglwys Salem, Rhos- llanerchrngog. Buddugol yn Eisteddfod y Rhos, Chwefror 23ain, 1903.. Henffych iti, Ogwen Griffith, Ydyw iaith ein calou lawn, Teimlo r'ym yn deula dedwydd Dan effeithiau gwres dy ddawn Blodau Salem wenant groesaw I'th sirioli yn mhob man, Pob dymuniad sydd yn addaw Gwneyd ei goreu ar dy ran. Doed gweniadau'r Yspryd Dwyfol I I oleuo'n llwybrau ni, Fel cawn wel'd y Oennad Nefol BeuDydd, Ogwen, ynot ti Dyddiau eirian llwyddiant fyddo'n Ddisglaer goron ar dy waith, Gras a rhinwedd yn addurno Muriau Salem flwyddi maith. Mae athrylith bur yn hawlio Byw 'nghymdeithas parch a bri, Dyna palm y teimlwn ninau Awydd mawr i'th barchu di; Ti enynaist obaitb ynom, Wedi iti dd'od i'n plith, Y cawn weled Salem dirion Dan effeithiau'r nefol wlith. Credu ry'm i'r goelbren ddisgyu Yn ei phryd ac yn ei lie, Credu'n llwyr y daw i'w dilyn Ddylanwadau pur y ne'; Da ewyllys y Goruchaf Fo ith arwain drwy y daith, Disgwyl 'y'm cawn wel'd cynhauaf Cyn terfyno'th ddydd o waith. Glesni hyfryd hafddydd llwyddiant Fyddo'n aros uwch dy ben, Dwfn aiddgarwc-h dros ogoniant Bwriad uwcha'r nefoedd wen; Cydymdrechu mewn addfwynder Gostyngedig, wnawn yn nghyd I arddangos mewn eglurder Nerth y Groes i gadw'r byd. Llongyfarchiad llwyr, diragrith, GlAn fel ffrwd y mynydd mawr, Gweddi ffydd am rym y fendith I dy noddi sydd yn awr Perarogledd Gardd yr Arglwydd Fyddo'n gwasgar pur fwynhad, Ac yn dweyd yn iaith sancteiddrwydd Hanes Ogwen wrth y wlad. Llangollen. THOMAS OWEX.

* Y WAWR.

Poteli Sampl yn Rhad o Veno's…

Draw ar Cornet.I

Advertising