Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

....... Ta^vL^rg'lwvdd Penrhyn…

Trvchineb erchyll vn Llandudno

CYNWYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNWYD. Y Cyfarfod Llenyddol.-Y mae y cyfarfod llenyddol uchod erbyn hyn wrth y drws. Y mae y rhagolygon yn rbagorol yn mhob ystyr, yn gerddorol a cbelfydd- ydol. Rhif yr ymgeiswyr ar y gerddoriaeth ydyw, Parti 20, 4 parti 8, 9 Pedwarawd, 9 Unawd S. neu T., 7; Unawd Bass, 11 Unawd i rai heb enill o'r blaen, 15; Unawd ar offeryn bres, 4 Her unawd, 21; adrodd, 10. Gwelir oddiwrth y nifer yna fod golwg am gyfarfod hwyliog. Gofaled y rhai sydd yn cystadlu ar yr unawdau S. neu T Bass, Her unawd. a'r rhai sydd heb enill o'r blaen, a'r adrodd, fod yn y Prelim am bedwar o'r gloch. Anfonwyd y farddoniaeth yma i ni gan Rhywun yn ddienw. Cofiwch, cofiwch, am nos Wener ymhob lie, Bydd Hugh Meirion yn y gadair, Maer y dref, Hen lane ifanc, doniol, hynod, Wyr i'r blewyn beth yw 'Steddfod, Ac un difyr ar ei dafod yw efe. loan Phillips yw'r arweinydd, mae ei glod Ef yn hysbys trwy y gwledydd am ei fod Yn wr ieuanc, llawn o awen Ac athrylith, er yn fachgen, Y cywira trwy'r ddaearen yn ei nod. Dewi Ffraid, hen daid rhagorol, hefyd ddaw, Gyda'r glorian fawr farddonol yn ei law; Hefyd caria wyntyll ryfedd, Gyda gogor o gynghanedd, Bydd yn bwrw beirdd di sylwedd yn y baw. 0 Langollen, Griffiths dirion, gwr y gan Sydd i farnu y cantorion, fawr, a mAn, Mae ei glust yn deneu hynod, Clyw bob nodyn o'i gyweimod, Hwn 0 bawb a ga ei osod yn y tfin. Ein g6f celfydd, Zachariah, y mae o, Yn yr efail er's rhai dyddiau bron o'i go, Gyda'r pegia moch ugeiniau Gludir gyda'r tren bob borau, Pwy reolai ei dymherau fel y fo? Cofiwch, cofiwch, am nos Wener, os am Ie, Dowch i'r pentref ddigon prydlon, cyn eich te; Gwell yw colli trwyth yr India, A chael ymborth i'ch meddylia Erys ynoch am flynydda, onide ? Dowch i'r clyw, os byw y boch,— nos Wener Os oes yni ynoch. Ffermwyr call dowch os gallwch I bigo mil 0 began moch.