Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

CYNGHOR DINESIG Y BALA.

CYNGHOR DOSPARTHPENLLYN.

,BISTED DFO:) YR ADRAN."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BISTED DFO:) YR ADRAN." "Rhydd i bawb ei farn. ac i bob barn ei llafar." Nid oes angen esbonio i'r deallus ys- tyr y ddwy linell uchod. Y mae y gyntaf yn newydd a'r ail yn hen, Brawddeg ydyw un, diarheb ydyw y Hall. Y mae cryn dipyn o feio myfyrwyr yr Adran Ragbaratoawl yn y Baia am eu gwaith yn cyhoeddi rhestr o des- tynau ffug-eisteddfod. Yr ydym eisoes wedi datgan ein barn ar y mater ac am wneyd eto, sef, ar 01 rhoddi ystyriaeth fanwl i'r peth, ein bod wedi dyfod i'r penderfyniad nad ydym yn canfod unrhyw fath o bechod na drygioni yn y testynau. Diameu genym y cydnebydd llawer hyn, ac yr ydym yr un mor sicr y beir ni gan eraill am fynegi ein barn. Gan fod ychydig helynt wedi codi mewn canlyniad i lythyr enllibns un "John Elias" yn y Glor- ian am yr wythnos cyn y ddiweddaf, efallai y caniateir i ni geisio argyhoeddi y cyhoedd nad yw pechodau myfyrwyr yr Adran mor ddu ag y paentir hwy gan yr ysgrifenydd hwnw. Y mae John Elias" yn canfod yn y testynau ryw fynyddau o becbodau, tra nad ydynt mewn gwirionedd yn ddigon mawr i wneyd bryniau bychain. Ond nid dyna ei fai mwyaf. Pe buasai "John Elias" wedi ymgadw at y testynau yn lie galw y myfyrwyr wrth enwau enllibus ac anheilwng, ni fuasem, hwyrach, yn beio cymaint arno; ond tra y bvcld dyn yn ceisio glanhau ei bechodau ei hun ar draul baeddu eraill nid oes rhyw lawer o grefydd yn ei enaid gwan. Byddai yn llawer mwy anrhydeddus iddo gadw it ei destyn nag ymostwng i alw ei. gyd-ddynion wrth enwau anbei'wng. Gallesid tybied oddiwrth ysgrif "John Elias fod y myfyrwyr wedi cyflawni pechod- au mwy na dwyn alian restr o destynau ffug- eisteddfod a chan ein bod yn cydymdeimlo yn ddwfn a hwynt yn ngwyneb yr ymosodiad beiddgar, brwnt, a di-angen, a'n cydwybod yn gwaeddi am gyfiawcder, yr ydym wedi ym- gymeryd a'r gorchwyl presenol o hysbysu y cyhoedd yr hyn a deimlwn ar y mater, Gwyddom fod llawer mwy heb weled y tes- tynau nag sydd wedi eu gweled, ac i'r dos- parth cyntaf y bwriedir, yn benaf, gyflwyno yr ysgrii hon, Gallwn ddychmygu gweled rhai o'r cyhoedd sydd yn teimlo dyddordeb yn yr Athrofa, ar ol clywed am y testynau, ond heb eu gweled, yn ofni yn bryderus fod y myfyrwyr wedi anghofio eu galwedigaeth ac yn taflu eu hunain i bleserau y byd hwn yn hytrach na pharatoi pobl gogyfer a byd arall. Ond ceisiwn dawelu yr ofnau hyn. Yn ol ein hadnabyddiaeth o'r myfyrwyr,'yn y Coleg a'r Adran, da genym ddyweyd eu bod oil fel eu gilydd yn fyw i'r achos da sydd wedi ei dori allan ar eu cyfer, a chredwn eu bod yn egniol iawn gyda gwaith eu Harglwydd. Y mae dyddordeb yr ysgrifenydd yn ddwfn yn Nghol- eg a myfyrwyr y Bala, ac nid oes neb yn gof- idio cymaint a ni fod ein cyfeillion ieuainc yn { destyn ysgrif afiach fel eiddo John Elias." Gresyn garw fod cyfle wedi ei roddi i'r fath un i greu ofn ac arswyd yn y cyhoedd nad yw y myfyrwyr yn ystyried difrifoldeb eu gwaith. Tra y mae rhai pobl yn llawenychu wrth weled cynifer o wyr ieuainc Cymru yn ymbaratoi gogyfer a'r weinidogaeth, y mae eraill yn gofidio, a chredwn fod gohebydd y Glorian" yn mysg y dosparth olaf. Er gwaethaf ysgrif John Elias a'i bwriad ni- weidiol y mae genym gymaiat o ffydd yn ein myfyrwyr ag erioed, ac yr ydym yn ymfalchio yn y ffaith fod gyrfa ddysglaer o'u blaen. Y mae genym y parch dyfnaf iddynt a'r edmyg- edd mwyaf ohonynt, a drwg genym fuasai clywed fod cymeriad yr un ohonynt wedi ei anurddo oherwydd ysgrif fel eiddo "John Elias." Os digwydd i'r ysgrif hon fyned i ddwylaw golygydd newyddiadur hyderwn y bydd iddo arfer ei ddylanwad i nacau cyhoe- ddi ysgrifau fel un John Elias." Y mae gwaith rhagorol wedi ei dori allan ar gyfer bob un o'r myfyrwyr, a hyderwn mai hwy sydd i fod yn ser i ddisgleirio yn ffurfafen y weinidogaeth yn Nghymru, ac yr estynir ein dyddiau i weled rhai ohonynt yn cyfarch y miloedd oddiar dwr uwchaf pinacl anrhydedd. —— '■ ~^yr#yr f I fyny fo'r nod," ac y raje jjfod f I cofio ac yn ystyried hyny. & Q Bala heddyw ryw ddyfodo* J ar0 i s^y gvvreiddiol), neu John J«neS v gorphe cynulleidfaoedd y dyfodol fei y ragor Pwy wyr? Gobeithiwn na fy .oeddi» t. grifau drwg dybus gael eu cy .,f y bydd y cyhoedd mor fawr eu P wyr ag erioed. Teyrnased rhyfel diangenrhaid. E.W.EJ Y Bala.

UWCHALE'DRTnUl®181 COUNCIL.'…

Advertising