Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Ailbrisio Union Corwen.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ailbrisio Union Corwen. Mr, Gol.Gwelaf oddiwrth y papyrau fod y Guard- ians ar fedr pennodi rhywun i ailbrisio yr holl Union ac y mae yn sicr fod anwastadrwydd mawr yn bodoli ac y dylid gwneud pob ymdrech i'w wastadhau. Yr wyf yn credu y dyiid cael Cymro, beth bynag, i vraeyd y gwaith. Nid oes genyf ddim yn erbyn neb o genedl arall, ond yn sier dylai y prisiwr fod yn ddyn y gall y Cymro uniaith ddweyd wrtho os clyw ar ei galon beth yw anfanteision y He y mae yn byw ynddo, gallwn ni, ffarmwyr, fod yn sicr na fydd y Landlords ddim yn ol o osod eu hochor hwy yn bur glir, a dylai yr hen Gymro sydd yn talu y rhenti gael pob mantais i sefyll tros ei ochor yntau, ac fel y gwyr y Guardians yn dda, y mae y rhan fwyaf o lawer o drigolion yr Union yn bobl heb fedru ond ychydig iawn o Saesneg. Yr wyf yn gobeithio y bydd i bob Cymro ar y Bwrdd beth bynag, bleid- leisio "tros Gymro yn medru siarad Cymraeg, os bydd y cymhwysderau eraill yno hefyd, a pbaham na allant fod ? HEN FFABMWE GWLEDIG.

Cyfarfod Llenyddol Ty'nybont.…

Ceirig-y-druidion a'r Amgylehoedd.

Advertising