Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

CANU YN Y GWLAW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CANU YN Y GWLAW. 'Rocdd Ifan Brynycelyn Yn fachgen gwrol braf, Yn gwenu'n gwyneb gelyn Fel rhosyn gwyn yr haf; Ac fel aderyn bychan Y canai yn ddi-daw, A dyma dda, 'roedd Ifan Yn canu yn y gwlaw. Mi welais lawer wenai Yn ngyvyneb cyfaill chweg, A gwelais lawer ganai Pan fyddai'n dywydd teg, A myrdd a mwy a welais Fan yma a'r fan draw, Ond 'obydig iawn a glywais Yn canu yn y gwlaw. Peth digon hawdd yw canu Tan fydd pob peth yn lion, Yr awel fwyn yn ehwythu Yn esmwyth dros y don, A'r haul a'i wenau eirian Yn gloewir nefoedd draw, Ond anhawdd byw fel Ifan A chanu yn y gwlaw. 'Roedd If an er ya blentyn Yn gariad pur i gyd, Ac nid oedd ganddo elyn Am wn i yn y byd, Os nad oedd gwas y fagddu A rodiai yma a thraw f Yn ddigllawn am ei allu I ganu yn y gwlaw, 'Roedd ganddo lais melodaidd, Fel eos yn y gwydd, Yn troi y storm yn falmaidd A'r dywell nos yn ddydd; 'Roedd ef fel telyn arian 4 Heb yn ei hanes daw, A thelyn ydoedd Ifan Yn canu yn y gwlaw. Gofynais i athronydd A wyddai bobpeth bron Pa fodd 'roedd Ifan beunydd Yn gallu byw mor lion ? A d'wedai'r brawd mai tarfu Gofidiau blin a braw, Wnai ef wrth ddifyr wenu A chanu yn y gwlaw. Ond fel pob Ifan arall A dreuliodd einioes lan Yn nghwrrmi'r doeth a'r anghall Distewi wnaetli ei gan; A nid oes ond hanes Yn aros Jrna a thraw, Am Ifan Ion ddirodres Yn canu yn y gwlaw. Corwen. R. E. J. EDNAHT,

A'N ERC HI AD AUj

I'R PLANT.i

ADFER1AD IECHYD,

PENILLION TELYN (PEN RHAW)

---__----BRON YN GYFLAFAN.

Advertising