Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

At Aelodau Cymdeithas Lenyddol…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

At Aelodau Cymdeithas Lenyddol Annib- ynwyr y Bala. Anwyl gyfeillion,—Teimlaf y gallaf yn fwy effeithiol eich cyfarch trwy lythyr agored fel hyn na phe y cymerwn dudalenau i wneyd nodiadau i ddilyn fy adroddiad wythnosol o gyfarfodydd y gymdeithas. Er mwyn dech- reu yn y dechreu efallai y caniateir i ni sylwi yn fyr ar ei sefydliad. Gwnaed hyny oddeutu tair neu bedair blynedd yn ol, ac yn sicr ni fu yr un gymdeithas mor flodeuog a liwydd- ianus a. hon pan nad oedd eto ond yn ei bab- andod. Ei hamcan ydoedd diwyllio y medd- wl, hyrwyddo purdeb a sobrwydd, meithrin cyfeillgarwch, ac enyn yspryd cyhoeddus a gweithgarwch crefyddol yn mhlith pobl ieu- ainc yr eglwys. A gyrhaeddwyd yr amcan- ion uchod ? Do, lawer o honynt. A fu ffrwyth y gwaith yn fendithiawl i rai o'r ael- odau ? Do. Gan fod y gymdeithas yn beth newydd yn hanes yr eglwys yr oedd dyddor- deb a brwdfrydedd yr ieuenctyd yn fawr iawn ynddi, mor fawr fel yr oedd cynifer a 80 yn aelodau ohoni. Yr oedd gweled nifer o wyr ieuainc yn codi ar eu traed i siarad yn gy- hoeddus am y waith gyntaf erioed yn galon- did o'r mwyaf i'r rhai oedd wedi arfer siarad yn gyhoeddus ac yr oedd gweled y rhai ieu- ainc hyn yn myned yn fwy gwrol wythnos ar ol wythnos yn rhoddi yspryd newydd yn y gwaith. Dychymygem weled eto ambell i gawr o areithiwr, ambell i wleidyddwr dirag- farn, neu ambell i bregethwr dylanwadol yn codi o blith yr aelodau; ond cyn hir dryil- iwyd ein gobeithion yn yfflon .difodwyd yr yspryd cyhoeddus gwrol a phenderfynol daeth rhai o'r aelodau yn ddifater o'r cyfar- fodydd; ymdaenodd niwl drostynt, fel o'r diwedd nid oedd ond rhyw ddyrnaid o ffydd- loniaid yn eu mynychu. 0 dipyn i beth daeth rhif yr aelodau yn llai, y cyfarfodydd yn wan- ach a nifer ac hyawdledd yr areithwyr yn brin. Dyna, yn fyr, hanes y gymdeithas hyd y tym- hor sydd newydd derfynu. Yn awr dymunwn ganiatad yr aelodau i apelio at eu cariad at lenyddiaeth a chrefydd y genedl. Nrd oes angen dyweyd fod llawer cymdeithas lenyddol fel yr uchod wedi cyflwyno mwy nag un arwr cenedlaethol i Gymru, a rhag ofn ¡'n gwlad golli cyfle rhagorol i fagu rhagor o gewri ar- eithyddol, pregethwrol neu wleidyddol y dy- munwn apelio yn daer ac mewn pryd am i'r aelodau fod yn fwy gweithgar gyda gwaith y gymdeithas y flwyddyn nesaf. Wrth hyn nid ydym yn y modd lleiaf yn diystyru y gwaith rhagorol a wnaed gan yr ychydig ffyddloniaid yn ystod y tymhor diweddaf; ond i'r gwrth- wyneb. Diolch o galon iddynt am eu ffydd- londeb a'u gwasanaeth gwerthfawr. Onibai am danynt hwy efallai y buasem wedi ein hamddifadu o'r gwleddoedd llenyddol a gaw- som. Y mae cyfarfod i gael ei gynhal pryd nawn Sul nesaf i ddewis swyddogion a gwneyd trefniadau at y flwyddyn nesaf. Os oes rhyw- rai o'r aelodau yn gwybod am foddion mwy effeithiol i wella'r cyfarfodydd, i'w gwneyd yn fwy deniadol a dyddorol, hyderwn y rhydd y cyfryw fynegiant i'w teimlad y Sul nesaf ac y dywedant hyny yn eglur a chroew. Hyderwn hefyd na wehr neb yn ceisio dianc o'u heis- teddleoedd er mwyn osgei y cyfarfod ond y bydd i bawb wneyd ei oreu dr°s J eU bod Wrth eu mynychu cofied yr aelo 0gystala yn dyrchafu eu hunain ac erail, y grefyddi gwneyd gwasanaeth anmhrisiadwy £ yflwyflir moesoldeb, a llenyddiaeth CytnrU" gypd#1*1' hyn o lythyr agored i bob aelo'd ° cyfr)^ as, gyda thaer ddymuniad y xfr yn wneyd y goreu o'r manteision s; cjs' yn eu cyrhaedd: Efallai na chei cen- tal cyfle i fod o wasanaeth i'n gwla edl.-E.W.E.

Advertising

Y BALA.