Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BALA. CYNGHERDD.Afreidiol dyweyd mai llwydd- iant perffaith yn mhob ystyr ydoedd cyn- gherdd genethod yr Ysgol or Ganolraddol nos Fercher diweddaf. Amlwg ydoedd fod Miss Owen, y brif-athrawes, a'i chyd-athrawesau wedi cymeryd trafferth neillduol i'w addysgu a'u paratoi gogyfer a'r cyngherdd, ac y mae y clod uwchaf yn bosibl yn deihvng iddynt hwy a'r genethod am droi y cyngherdd mor boblog- aidd a llwyddianus. Yr oedd yr arddangos- fa goginio, gwniadwaith, &c., yn y prydnawn, hefyd, yn ddangosiad eglur y deil Ysgol Gan- olraddol y merched yn y Bala i'w chyimaru ag unrhyw ysgol yn Nghymru am ddiwyd- rwydd a ragoriaeth eu gwaith. DYRCHAFIAD.—Da genym ddeall fod Cor- poral G. E. Roberts, "B." Co., 3rd V.B., R.W.F., Porthmadog (gynt o'r Bala). wedi ei ddyrchafu yn Rhingyll. Dymunwn yn galon- og longyfarch Sergeant Roberts. Y MASNACHWYR.—O hyn allan bydd mas- nachdai y Bala yn gauedig am 7 o'r gloch yn yr hwyr, gyda'r eithriad o dri mis yn y flwyddyn, Gorphenaf, Awst, a Medi, pryd yr agorir hyd 8. Rhyw gau go drwsdan, onide ? PRIODAS.- Ddydd Llun, yn nghapel yr Annibynwyr, unwyd mewn glan briodas Miss Evangeline Jones, merch ieuengaf Mr a Mrs Jones, Gwernyrewig, Bala, a. Mr G. Davies- Hughes, mab hynaf Mr D. E. Hughes, Draper, Queen's Square, Dolgellau. Gwein- yddwyd y seremoni gan y Parch T. Talwyn Phillips, B.B., Bala, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch David Eyans, M.A., Abermaw (ewythr y priodfab). Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei brawd, Mr Morris Jones, a gwasanaethwyd fel morwynion priodasol gan Misses Miriam, Annie, a Sarah Jones (chwior- ydd) Y gwas ydoedd Mr D. R. Williams (cefnder y priodfab). Daeth llu i'r capel i fod yn dystion o'r amgylchiad dyddorol, a derbyniwyd y par ieuanc ar eu dyfodiad allan gyda chawodydd o reis a confetti. Gwisgai y briodferch grey dress a white hat. Wedi'r seremoni cynhaliwyd y wledd briodasol yn Gwesty y Plascoch, ac yr oedd yn bresenol yn mhlith eraill, Mrs Morris a Miss Hughes (chwiorydd y priodfab), Parch a Mrs Evans, Abermaw Mr H. Jones, Minydon, Towyn Parch a Mrs T. T. Phillips, Bala, &c. Y mae yr anrhegion priodasol yn lluosog a chostus. Eiddunwn i'r par ieuanc fywyd priodasol hafaidd a dedwydd, ac y bydd iddynt gael estyniad hirhoedledd i'w fwynhau.

CYFLWYNEDIG

Marwolaeth Mr. William Hughes,…

HELPU MR. W. J. PARRY.

CYNWYD,-

Advertising