Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYFABFOD OEWAETEEOL MBIEION.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFABFOD OEWAETEEOL MBIEION. Cynaliwyd y diweddaf yn Dolgellau, ar y dyddiau Mawrth a Mereher, Mawrth 3iain, ac Ebrill iaf. Cynaliwyd y gwahanol bwyll- gorau yn y boreu; a'r Gynhadledd am 2 o'r gloch, dan lywyddiaeth y Parch. W. P. Puws, B.D, Dolgellau. Wedi dechreu trwy weddi gan Mr Morris, Dyffryn, i. Darllenwyd a cbadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diweddaf. 2. Y Gymanfa i'w chynal yn Maentwrog a'r cyfarfod chwarter nesaf i'w gynal yn Aber- gynolwyn yn Medi, y Parch. Gwilym S. Rees, B.A., Jerusalem, i bregethu ar y pwnc. 3. Adroddiad Pwyllgor y Genhadaeth Gar- trefol. (a) Fod Pwyllgor i'w gynal yn nglyn a'r Gymanfa i gymeryd i ystyriaeth y ceisiadau, ac i ranu yr arian. (b) Fod ymdrech i gael ei gwneud i gael y casgliadau i law erbyn diwedd Mai. Rhodd- ir anogaeth i'r casglyddion a'r eglwysi wneud eu goreu i wneud y gwaith. (c) Gan fod Mr Hughes, Tanygrisiau, yn ymddiswyddo o fod yn Ysgrifenydd y Genhadaeth Gartrefol, fod y Pwyllgor yn aw- grymu un i gymeryd ei le, i sylw cynadledd y Gymanfa. 4. Hanes yr Enwad yn y Sir.—Rhoddir anogaeth wresog i'r gwahanol bwyllgorau yn y Sir sydd wedi ymgymeryd a chasglu defn- j yddiau yr hanes i barhau yn ei ymchwiliad am fod y rhagolygon mor addawol am ffeith- iau dyddorol a gwerthfawr, gan obeithio y daw cyfle cyn hir i grynhoi y ffeithiau i gyfrol ddestlus. 5. Cofgolofn Hugh Owen.—Cafwyd ad-! roddiad yr Ysgrifenydd, a dangosodd Mr Mather ddarlun o'r gofgolofn, yr hwn a dyn- j wyd yn rhad gan Mr Morgan, adeiladydd, Towyn, yr hwn a gymeradwywyd yn fawr gan y cyfarfod. (a) Dewiswyd Mr Morgan yn aelod o'r Pwyllgor. (b) Gwnaed cais at Mr Talwyn Phillips, Bala, i ymweled ag amryw o hen eghvysi pwysig tu allan i'r Sir, ac yr oedd Hugh Owen wedi bod yn dal cysylltiad a hwy, a bod yr Ysgrifenydd i ohebu a'r cyfryw. (c) Ac fod Mr Thomas, Arthog, i wneud cais at yr eglwysi sydd heb gasglu yn y Sir, i alw eu sylw at y mater. 6. Pwyllgor Addysg.—(a) Ein bod yn cymeradwyo yr awgrym o gael cyd-bwyllgor o'r gwahanol enwadau i wylio y "ddeddf." Dewiswyd y personau a ganlyn i fod ar y pwyllgor,—Parchn. D. Miall Edwards, B.A.; Ivan T. Davies. Llandrillo; a Dr Lloyd, Towyn, (b) Ein bod yn awgrymu i'r Cyngor Sirol nad doeth fyddai dtwis aelodau o Gym-! deithas yr Ysgolion Gwirfoddol, nac unrhyw gymdeithas enwadol arall i fod ar Pwyllgor Addysg y Sir. 7. Dewiswyd W. Foulkes Jones, Ysw.,Y.H., yn gyfarwyddwr Gymdeithas Genhadol ilundain. 8. Arian y Caniedydd.—Fod Bryncrug i gael £ 7 ar yr amod i gasglu 420 Salem, Corns, i gael £10 ar yr amod í gasglu ^160, sef Jhyyr ddileu y ddyled a Giyndyfrdwy i gael ^20 ar yr amod fed Mr Foulkes Jones i gasglu ^,90, sef dileu y ddyled. 9. Fod agenda y cyfarfod chwarterol i gael ei argraffu. 10. Cyflwynwyd Mr Williams, Dyffryn, i sylw y cyfarfod, a bydd ei bapur wedi dod i 1aw i'w ddarlien yn y Gymanfa. Cyflwynwyd achos eglwys Seisnig Abermaw i sylw gan Mr Henderson, Dolgellau, yr hwn a ddywedai fod y ddyled yn £ 2,800, a'r llogau yn £"so yn flynyddol, ac felly fod y baich yn llethol i eglwys o'l maint. Dywedai fod ymdrech neillduol yn cael ei wneud gan Undeb Seisnig Gogledd Cymru. Wedi cael gair gan Mr Mather, pasiwyd a ganlyn- 12. Ein bod fel aelodau Cyfarfod Chwar- terol Meirion yn cymeradwyo yn galonog achos eglwys Seisnig Annibynwyr Abermaw, a'n bod yn cefnogi eu hapel i gael help i dalu eu dyled, a'n bod yn dymuno galw sylw arbenig holl eglwysi y Sir at yr aches teilwng yma.&Hefyd, fod anogaeth i Mr Mather alw ei hun gyda eglwysi y Sir i wneud apel am eu cymorth. 13. Adroddiad Pwyllgor yr Ysgol Sul.-(a) Fod Holwyddoreg Porth yr Eglwys gan Mr Pari Huws, i gael ei fabwysiadu gydag ychydig o gyfnewidiadau. (b) Fod cais yn cael ei wneud at y Gynadledd am 30s i'w rhanu yn wobrwyon i'r ddau dosbarth hynaf, a'r dos- barth yn hanes Josuah, sef 55 i'r goreu; 3s i'r ail, a 2S i'r trydydd yn mhob dosbarth. An- ogwyd fod yr arholiadau i gael eu cynal yr un adeg ag arholiad yr Unneb Cymreig. Datganwyd ein hyfrydwch o weled Dr David ap Simon, mab yr enwog Simon Jones, y Bala, gyda deall ei fod mor ffyddlon i dra- ddodiadau ei dadau. Rhybudd.—Fod Robert H. Davies, Har- lech, i gael ei dderbyn fel pregethwr yn y gynadledd nesaf. Diolchwyd yn gynes i'r cyfeillion yn Nol- gellau, yn enwedig i'r boneddigesau am eu darpariaeth helaeth a rhagorol ar gyfer y cyfarfod. Caed cynadledd a gwnaed gwaith rhagorol. Terfynwyd trwy weddi gan Mr Davies, Llandrillo. Pregethwyd fel y canlyn—Nos Fawrth, yn y Brithdir, gan y Parchn. Davies, Dinas, a Davies, Hyfrydfa; Islawrdref, Parch J. Hughes, Tanygrisiau; yn Nolgellau, gan y Parchn. G. Davies, B.A., B1. Ffestiniog, ac R. T. Phillips, Ffestiniog. Dydd Mercher; yn Nolgellau, gan y Parchn. Evans, Lianegryn; Roberts, Llanuwchllyn; G. Rees, B.A., Jeru- salem, ac Evans, Aberdyfi Gwion Jones, Bethel, a Philllps, B.A. Hefyd yn nghapel yr Annibynwyr Seisnig, gan y Parch. W. D, Evans, Aberdyfi. Caed cynulliadau Huosog ar yr oedd nerth ac arddeliad ar y weinidogaeth. Bydded i'r had da gael dyfnder daear. J. PRITCHARD, Ysg.

Advertising