Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BEIRDD. YR ENETH FACH GYMREIG. Aeth geneth fach grefyddol 0 odrau'r Berwyn draw I aros i Fanceinion, Hen dref y mwg a'r gwlaw 'Roedd wedi blino dringo Ysgwyddau'r llechwedd llwm, A gwrando murmur rowyn y nant Yn nwfn y tywyll gwm. 'Roedd wedi blino hefyd Ar swn yr awel lan, A'r dwyrain wynt yn erlid, Y gwlaw a'r cenllysg man 'Roedd wedi blino sylln Ar wen y boreu gwyn Yn ymJirl hugan liwyd y nos Yn garpian dros y bryu. Daeth liuaws o gyfeillion I'w hebrwng hi i ffwrdd, A phawb o'r rbai'n ddymunai Na ddoi 'run loes i'w chwrdd Ond beth yw dymuniadau CdeiJlion pur di loes Os bydd rhagluniaeth fawr y nef A'i hamcan oil yn groes ? Nid segur fu yr aelwyd Tra 'roedd yc mhell o'i gwlad, Gweddiau yrwyd trosti I'r nefoedd gan ei thad Doi toriad gwawr y dwyrain A'r borau gwridog iach, A lleni y gorllewin pell I gofio'r eneth fach. Bu awyr y mynyddoedd Am ugain blwyddyn rydd Yn brysur hwyr a borau Yn gwrido ei dwy rudd 'Roedd ei gwynebpryd swynol A'r haul oleuai 'i phen Yn canfi molawd hapus ber I iechyd Cymru Wen." Tra'n disgwyl yn yr orsaf Am y gerbydres fad, Fe fynai gofid dynu Ei lun ar rudd ei thad, A cbysur wedi 'hedeg 0 aelwyd ddedwydd wiw, A theimlad wedi codi'r lien I ddangos ealon friw. Ar ol bod rai blynyddoedd Yn nhwrf y ddinas fawr, A golau haul celfyddyd Mewn stafell yn y llawr Daeth pryder a gofalon Ac ing ufiechyd prudd, I dynu darlun gwelw oer O'r fynwent ar ei grudd Fe giliodd gwrid hen awyr Mynyddoedd -1 Gwlad y gan," Oedd ar ei boclian tlysion I ffwrdd i rywle'n lan Tywyllodd y ddwy seren Oedd yn ei llygaid chweg, Daeth edau arian rhwng yr aur Cyn dyfod ei thri deg Yr eneth fach ddychwelodd Yn ol dan glwyf a chlais, Yn rhyhudd o effeithiau Caledwaith gwlad y Sais A heddyw Ywen wylaidd Yn Mynwent Min y Lli, A chareg las o dir ei gwlad A noda 'i hanes hi! Ccatwen. B. E. J. l'i N;vr.

--------"-_"---__-"-----.…

Advertising