Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

-". HEN GYMERIADAU ARDAL PY…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HEN GYMERIADAU ARDAL PY NGENEDIGAETH. THE UNIVERSAL PREACHER. » Yr ydym wedi dewis y przgcthwr i gych- wyn ein cyfres fach ysgrifau-ar gyfrif ei swydd efe ydyw y dyn pwysicaf, ac y mae pob oes wedi bod yn unfryd yn rhoddi y flaenoriaeth iddo,—ac nid yw yr ysgrifenydd am eithrio yn ei farn am dano, nac yn ei barch tuag ato. Dyma fo ar ben ein rhestr, ac yn mhlith ei frodyr yn y weinidogaerh fu o'i flaen ac ar ei ol, nid y lleiaf yn sicr oedd yr universal preacher. Ni welodd neb ei enw ar brint gydag eithrio tystysgrifau ei enedigaeth a'i farwolaeth, ac o bosibl hen feibl y teulu. Ni fu ei enw yn agos i flwyddiadur y Methodistiaid, na dydd- iadur yr Annibynwyr, &c. Ni chyhoeddwyd ei enw gymaint ag unwaith i bregethu mewn cwrdd mawr," ac ni ddisgynodd ei lygad ar ei Rev., ac am a wyr neb yn amgen ni chlybu- wyd am ei gyfarch yn jifr. tra fu byw! Druan o hono; ni wyddis yn iawn pa un ai dyfod o hyd i adgof am dano, neu ddyfod o hyd i'r llecyn sydd yn dynodi ei feddrod ydyw y ddwy daitb anhawddaf i'w cerdded. Pa bryd. a pha le, a pha fodd y codwyd ef i'r weinido- gaeth, a phaham y galwyd ef wrtb yr enw universal preacher nid oes llais na neb yn ateb. Nid oes yna rith o chwedl na thradd- odiad wedi ymdreiglo i dystiolaethu. Mae cychwyniad ei yrfa bregethwrol yn mynu llechu yn y caddug a'r niwl hyd heddyw. Y tebygolrwydd yw na chafodd ei ddynol- ordeinio na'i ffurfiol eneinio i'r weinidogaeth 0 du'r ddaear. Arbedodd Duw hyn o ffwdan i ddynion o leiaf. Bradychai nodwedd aniwylliedig ei bregethau ei hanes boreuol di- addysg yn enbyd i'w wrandawyr. Hwyrach mai am ei fod yn bregethwr di-bwlpud a di- enwad y galwyd ef yn unirer sal preacher. Pen y twmpathyn, coryn y bryn, llethr y mynydd, canol y meusydd, ochr yr heol, a chanol yr ystryd neu'r groesffordd oecJdent ei hoff bulpudau ac ni waeth ganddo pwy fu- asai ei gynulleidfa, pa un ai twr o blantos, cylch o ferched, neu ddyrnaid o wragedd. Nid oedd ganddo reol ar ei amserau i gy- hoeddi ei genadwri, Weithiau pan ddeuai y plant o'u hysgolion, neu y gweithwyr o'u gwaith, neu pan ddychwelai y saint o'u cap eli. Ni chaffai oed na gradd benderfynu na chyfnewid dim ar ansawdd ac iaith ei weini- dogaeth. Yr un fath y pregethai ef i'r Ilanciau a'r genethod dengmlwydd oed ac i'r henafgwyr penwyn. Ychydig "feddyliai fod amrywiaeth yn nodweddu angenion rneddy!- iol ac ysbrydol dynion, a bod y gwahaniaeth sydd rhwng y termau byd ac eglwys yn hawlio darpariaeth wahanol iddynt yn ei weinidogaetb. Ni roddai fyth hanes ei fwr- iadau fel rhagwybodaeth i neb hyd yn nod am un diwrnod; a hyn fu y rheswm na chywsid neb yn son ei fod i fod, yma neu acw, yr adeg hyn neu adeg arall. Hen gar- ictor yn byw yn y gorphenol, heb fyth yn gwthio ei hun i'r dyfodo], Clywed ei fod wedi bod, ac wedi bod oedd ei hanes trwy gydol ei oes. Ni ddanfonai ei enw na'i addewid o'i flaen i ragredegu ei ddyfodiad ar unrhyw achlysur. Pan ddeailai fod rhyw bwlpud yn wag y Sabbath nesaf, waeth pwJpud i ba enwad fyddai, ai ef yno yn foreu i grefu ar y diaconiaid am ganiatad i bregethu iddynt, a gwnai hyny pan gaffai gyfle, heb geisio clod na p^bres. Apostolaidd iu ei gredo byd y diwedd am gynhaliaeth pregeth- wyr. Fe gyfrifai ef eglwys a dalai gyflog i bregethwr yn anysgrythyrol, a galwai bob gweinidog fuasai yn ddigon di-gyd-wybod a digwilydu i fyw ar adnoddau arianoi ei eg-j lwys wtth enw salach na segurddyn. Lbfur- iodd ei hun yn galed a diwyd, cs r.ad yn ddi-, ddeddf am ei fara, er nad oedd ganddo yr un alwedigaeih sefydlog. Rhyw handy labourer, yn troi ei Jaw at bob gorchwyl anghelfydd yn ei dro oedd ef. Torodd garneddi o gerrig ar ochrau y ffoidd, a phaentiodd vigeiniau o "weithiau ddrysau ta« ci aiuai. Troai yn ar- ddwr yn y gwanwyn, ac yn dorwr eithyn, brwyn a rhedyn yn misoedd yr haf. Ni fedrai ddygymod a'r syniad o wneud cytundeb blaenllaw am gyflog, neu i lynu am dymor wrth orchwyl. Ni fedrodd oddef i amodau i'w lyfetheirio, ac ni ymaflai mewn dim a at- aliodd ei gyfle i bregethu. Ni chadd yntau druan mwy na llawer o rai eraill fod yn blen- tyn ffawd bob cam o'i daith. Anmharodd ei synbwyrau, a phylodd ei farn a'i ddeall i ra- ddau a'i gwnaeth yn wrthrycb anffodus iawn. Fe'i ceid wedi ei lethu yn llwyr weithiau gan iselder ysbryd, ac effaith gyffredin y cyflwr hwnw yn ei hanes oedd y ffoai fel gwallgof- ddyn am ei einioes am ddyddiau lawer i ryw guddfanau na wyddai dewin ar wyneb daear i ba le. Ond pan y dychwelai o'i deithiau gwrthgiliadol, cymerai ei sefle, a chyfarchai ei gydnabod, ac ymaflai yn y pregethu neu rywbeth arall, mor esmwyth a disgyniad pluen ar lawr wedi bod am dro yn yr awyr. Pryd arall ymneillduai yn raddol a llechwraidd fel lleidr cyfrwysgall ac hamddenol wedi dyfod o hyd i'w yspail. Yn y cyflwr hwn nid a'i yn mhell ar ddisperod-allan i'r meusydd cyf- agos, gan gerdded i fyny ag i lawr ac ar draws y caeau, a'i ben yn goblygu i gyfeiriad y ddaear fel pe yn chwilio am fwyd-y-barcud. Ond ei deithiau fynychaf yo yr adegau meud- wyol hyn ar ei yspryd oedd glanau'r afonydd. Yno y treuliai ei fywyd am ddyddiau lawer, a cherddai am filldiroedd ar y glanau hyny o godiad yr haul hyd ei fachludiad fel rhyw hen water bailiff didrugaredd ei ddrych. Sylwid y byddai cryn lawer o fan gyfnewidiadau yn cymeryd He weithiau yn nglyn ar arferion, yn neillduol gyda'i fwydydd! (I'w orphen yn y nesaf.)

Advertising