Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BALA. PERSONOL.—Bu y Bonwr Llwyd ap I wan, mab y diweddar Brifathro M. D. Jones, o'r Bala, yn cael ymgom ddifyr y dydd o'r blaen gyda'r Cadfridog Botha yn nghylch Boeriaid Deheudir America. Ifor Wyn ydyw teitl ffug-chwedl ddifyr a darllenadwy a ymddengys yn y Genedl yr wvthnosau hyn. Yr awdwr ydyw ein cyfaill Glan Cymerig, o'r Bala, ac y mae yn deilwng o hono. COFADAIL MR. T. E. ELLIs.-Cynhaliwyd cyfarfod arbenig o'r Cynghor Trefol neithiwr (nos Fawrth), Mr Evan Jones, Y.H., yn y gadair. Penodwyd Mri R. Lloyd Jones ac R. W. Roberts yn drefnwyr yn nglyn a chas- glu arian at pedestal cofadail Mr Tom Ellis. Penderfynwyd hefyd fod yr holl gynghorwyr, os bydd galw am hvny, i gasglu ato. PLESERDAITH- Y mae Methodistiaid y dref wedi penderfynu cael pleserdaith i Aber- ystwyth yn ystod Mehefin. Ai nid priodol fuasai i eglwysi eraill y dref ymuno a hwnt ? "Mewn undeb y mae nerth." YR EISTEDDFOD.- Y mae pwyllgor yr Eis- teddfod eleni wedi anturio yn hyf iawn, ac oherwydd hyny disgwylir Eisteddfod boblog- aidd a llwyddianus. Y mae lliaws o gorau Cymreig a Seisnig yn paratoi, yn eu mysg Blackpool, Rhayadr, Dolgellau, Llangollen, &c. Gwasanaethir yn y cyngherdd gan brif Soprano Cymru, Miss Maggie Davies (" Yr Eos Fach,") Mr Maldwyn Humphreys, Mr Dan Price, prif Faritone Mynachlog West- minster, a'r corau buddugol. Y cyfansodd- iadauigyrhaeddyr Ysgrifenydd erb'yn Mai Sfed; enwau'r cerddorion a'r adroddwyr erbyn Mai iofed. CYNGHERDD.—Troi allan yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr wnaeth cyngherdd y Church House nos Wener diweddaf. Cyn- nlliad da, plant yr ysgol yn gwneyd eu rhan yn rhagorol, ac actio naturiol. Ysgrifenydd y cyngherdd ydoedd Mr J. D. Guest, a gwnaeth ei waith yn ardderchog. DAMWAIN.-Fel yr oedd Mr Cadwaladr Jones, Moelygarnedd, yn dychwelyd adref o'r Bala nos Sadwrn diweddaf, rhedodd olwyn- farch iddo ger Brynygroes, gan ei daflu i lawr ac anafu ei wyneb a'i ben yn bur dost. Cyr- chwyd Dr Price, yrhwn a ddaeth ar unwaith, ac wedi iddo adgyweirio y briwiau cludwyd Mr Jones adref. Da genym ddeall ei fod yn I gwella yn rhagorol o dan ofal medrus Dr Price. YSGRYTHYROL,—,Bu y Parch J. Hamer Lewis yn arolygu plant yr Ysgo! Genedlaeth- 01 mewn gwybodaeth Feiblaidd ar y 26ain o Fawrth, ac adroddai fel hyn—Pasiwyd arhol- iad dda iawn mewn gwybodaeth Ysgrythyrol. Yr oedd y plant ieuengaf yn ddeallus iawn, a'r llaw-ysgrif yn nodedig o dda. Enillwyd 36 o dystysgrifau teilyngdod, a chafodd 4 dystysgrif anrhydedd, sef, Johnny Jones, Bessie Roberts, Edith ac Emily Speake.

- CORWEN.

I Er Cof am y diweddar Mr.…

Family Notices

Advertising