Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.I

- CORWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORWEN. LLYS YR YNADON.—Dydd Gwener, ger- bron yr Anrh. C. H. Wynn, Edward O. V. Lloyd, ac Horatio E. Lloyd, Ysweiniaid. Caniatawyd trosglwyddiad Hawn o drwydd- ed y Railway Refreshment Rooms oddiwrth Mr John Roberts, i Mr W.J. Martin, Dudley. Gwnaeth yr Ynadon gyfeiriad at Hedd- geidwad Hughes, yr hwn, yn fuan, fydd yn ymneillduo o'i swydd ar 01 37 mlynedd o wasanaeth. Gwasanaethodd Mr Hughes yu hynod o ffyddlon ar hyd yr holl flynyddoedd, a chafodd ei longyfarch laweroedd o weithiau yn y gwahanol fanau y bu am ei ymroddiad ffyddlon i'w ddyledswyddau, a thystiolaeth Ynadon Corwen ydoedd ddarfod iddo roddi pob boddionrwydd yn nghyflawniad ei ddyl- edswyddau. Medda Mr Hughes allu a dawn neullduol ar gyfer yr anhawsderau sydd yn aglyn a swydd heddgeidwad. Dywedodd Mr L. Lloyd John, y Clerc, fod yn hawdd iawn cydweithio ag Hughes, a gallai gadarnhau yr oil a ddywedwyd gan yr Ynadon. Dymunai i Mr a Mrs Hughes lawer o flynyddoedd i fwynhau y seibiant sydd mor deilwng iddynt. Llwyddiant.- Da genym ddeall fod Mr. John Meirion Owen (mab Mr Morgan Owen, Fronhyfryd), a Mr John Ellis Edwards (mab Mr John Edwards, Carriwr), myfyrwyr yn Ngholeg Normalaidd Bangor, wedi llwyddo i gael lleoedd da o dan Fwrdd Ysgol Llundain. Dymunwn i'r ddau bqb llwyddiant. Cydnabod Gwasanaeth.-Nos Fercher di- weddaf, yn Festri Eglwys Corwen, cyflwynwyd anerchiad oreuredig a Writing Case lledr i Miss Cragg, Cefn, Corwen, Rhyw dair blynedd sydd er pan ddaeth Miss Cragg i breswylio i'r ardal, ac yn ystod yr amser hwnw cymerodd ddyddordeb neullduol ynglyn ag Ysgol Sul yr Eglwys, a'r Band of Hope. Cyflwynwyd y rhoddion gan y Parch. D. Griffith, Rheithor, a siaradwyd ar ran y Band of Hope gan Mr J. Davies Hughes, ac ar ran yr Ysgol Sul gan Mr Kerruish. Yr oedd yr anerchiad wedi ei gwneud yn brydferth dros ben gan Mr Morgan Owen, Corwen, a cheisiwyd y Writing Case gan Mr. R, H. Morris, Caxton House.

I Er Cof am y diweddar Mr.…

Family Notices

Advertising