Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

CYNGHOR DOSPARTH PENLLYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGHOR DOSPARTH PENLLYN. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Cynghor uchod ddydd Sadwrn diweddaf. Y GADAIR.-Ar gynygiad Mr L. J. Davies, yn cael ei gefnogi gan Mr Evan Jones, dewis- wyd Mr Robert Thomas, Llandderfel, yn gadeirydd am y flwyddyn ddyfodoL Ar gyn- ygiad Mrs Morris, yn cael ei chefnogi gan Mr L. J. Davies, etholwyd Mr Robert Hughes, Rhyducha, yn is-gadeirydd. Y FFYRDD.—Rhoddodd Mr Robert Tho- mas rybudd o gynygiad yn y cyfarfod blaen- orol eu bod i dderbyn ac adgyweirio ffordd Cynlas am yr ystyrid hi yn brif-ffordd. Barnai Mr W. T. Rowlands nad oedd y cynygiad yn gyfreithlon oherwydd penderfyniad a basiwyd gan y Cynghor dro yn ol nad oeddynt i dder- byn unrhyw ffordd heb iddi, yn gyntaf, fyned o dan ystyriaeth cynghor y plwyf a sait ynddi. Penderfynwyd anfon pwyllgor o bump i fyned i'w golwg a dwyn adroddiad i'r cyfarfod nesaf Daeth cais o Gynghor Plwyf Llanuwchllyn am drwsio ffyrdd Boritnewydd, Cwm Croes, a Thanybwlch at Dynyfron. Penodwyd Mri W. T. Rowlands, Morris Evans, .a D. Jones i fyned i'w golwg. Gofynai Cynghor Plwyf Lianfor am i'r Cynghor Dosbarth adgyweirio ffordd Llech- weddfigin. Penodwyd Mri Evan Jones, R. Jones, a Wm. Richards i gyflwyno adroddiad ami. PRESENOLDEB.—Cynhaliwyd 12 o gyfar- fodydd yn ystod y flwyddyn. ac fel y canlyn y rhoddodd yr aelodau eu presenoldeb ynddynt —Mri L.J. Davies, R. Hughes, Evan Jones, R. Jones, W. Richards, n D. Jones, R. Davies, R. Thomas, Mrs Morris, 10; Mrs Price, 9: MriJ. J. Edwards a J. Roberts, 8 W, T. Rowlands, 7 Morris Evans, 5. MAN-DDEDDFAu,-Penodwyd' y rhai can- lynol i ystyried cynygiad Mr L. J. Davies an fan-ddeddfau (byelaws) i'r Cvnghor- Y cad- eirydd, is-gadeirydd, Mri R. J Davies, L. J. Davies, W. T. Rowlands, Evan Jones, Mrs Price a Mrs Morris. C'Ii!WJ:IiII'j,r:2I:m'œ;¡:ln'

Ysgol Dcfowinyddol Gogledd…

DIRGELWCH MOAT FARM.

DOLGELLAU.

LLANDDERFEL- b( yo

Advertising