Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
« AO NI BYDD NOS YNO."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
« AO NI BYDD NOS YNO." 0 ddedwydd ddydd, heb nos Yn dilyn ar ei ol, A'r wybren wyrddlas dlos Heb gwmwl yn ei ch61; Heb arwydd storm i'w chanfod mwy I roddi braw i neb na chlwy. Goleuni perffaith fydd 0 amgylch yn mhob man, Heb derfyn ar y dydd, Na chwaith oleuni gwan; Ond cyfnod clir fel haner dydd Heb gyfnod yn ei hanes fydd. Heb!brofedigaeth ddu I'w hofni byth yn mlaen, Pob tristwch draw a ffy O'r wlad yn berffaith Ifin; Ni bydd o fewn i wlad y dydd Un galon drom na gwyneb prudd. Dim siomiant mwy ni cheir I'w gwneud yn dywyll nos, Yn ngoleu'r dydd yr eir Yn mlaen heb unrhyw Ioes; Yn llewyrch clir goleuni'r Oen, A phawb yn ddedwydd a diboen. Ni welir noson ddu Marwolaeth yno chwaith, Hon vn ein rhanbarth ni Sy'n dysgu pob ryw waith; Arboddi terfyn ar y dydd, A gwneuthur Ilawer mynwes brudd. Un diwrnod yno fydd Heb fyned yn brydnawn, Tanbeidrwydd canol dydd Yn ymddisgleirio'n Ilawn; Heb gwmwl du goruwch y lie Yn hofran yn eangder ne'. Bydd t'wilwch Aiphtaidd fyd I'w ganfod o'r tu ol, Yn ddigon pell o hyd, A'i hen arferion ffol; Yn methu dod o fewn i'r tir Lie nad oes ond goleuni pur. Nid oes yn ngwlad y dydd Elynion o un rhyw, Tangnefedd hyfryd sydd, A chariad, yno'n byw; Ni chlvwir son am drais a brad Yn duo'r dydd o fewn i'r wlad. ABERYDD.
"BOREU'R TRYDYDD DYDD."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"BOREU'R TRYDYDD DYDD." Boreu tawel digymylau, Gobaith gafwyd yn ei wawr, 'Roedd sirioideb yn ei wenau Ar ol ncs o d'wllwch mawr; Ar y byd y cyd-belydrai, Cariad a chyfiawnder Duw, Nef a daear a gyd-dystiai, 'R lawn a roddwyd—" Digon yw." Boreu ddaeth a gwir lawenydd I'r disgyblion yn y byd. Nid y bedd yw lie eu Harglwydd, 'R lesu synd yn fyw o hyd; Gristion gwan, wrth deithio'r anial, Ni raid i ti fod yn brudd, Paid a gado'r groes dy atal, Cofia foreu'r trydydd dydd. Boreu bery tra bo nefoedd Gan y sant mewn uchel fri, 0 law uffern a'i galluoedd Rhydd y daeth ein Hiesu ni; Cyfaill bellach ydyw angeu, Ei hen golyn mwy nid yw, Sicrwydd gaed y trydydd fore a. Caiff y Cristion fythol fyw. Cynfal. W.T.W.
"BLAWD LLOI MELIN Y DDOL."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"BLAWD LLOI MELIN Y DDOL." Mae blawd yn Melin Ddwyryd Na welwyd 'rioed ei fath, I'w gael am bris rhesymol At fagu Lloiau bach; Fe wyddoch yn mhen dwyawr Fod hwn yn gwneuthur lies, Mae hon yn ffordd fanteisiol I ffermwyr enill pres. Fe gofir am y m'linydd Wrth werthu'r 'nifel hwn, Manteisiant dair a chweugain 'R'ol talu am y pwn; Gwneweh ddal ar y cyfleusdra Cyn iddi fynd rhy hwyr, Bydd digon yn y Felin Tra deil yr olwyn ddwr. DANIEL JONES.
CORWEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CORWEN. Cyfarfod Blynyddol y Lighting Inspector.- Nos Wener diweddaf, yn y Board Room, cyn haliwyd cyfarfod blynyddoi y Lighting Ins- pector o dan lywyddiaeth Mr T. Evans (cad- eirydd y Cynghor Plwyf). CYFRIFON.—Darllenwyd y cyfrifon, a chan nad oedd gan neb yr un gwrthwynebiad idd- ynt pasiwyd hwy yn unfrydol. Inspectors Arbenig,—Penodwyd Mri H. Hughes a J. Watkin Jones. Ymadawiad.—Gan fod Mr T. Edmunds yn ymadael a'r gymydogaeth dewiswyd Mr J. Salisbury Roberts i lanw ei le. Datganai y cadeirydd ac eraili ddiolchgarwch i Mr Ed- munds am ei ffvddlondeb fel Inspector ar hyd y blynyddau, a gofidient oherwydd ei ymad- awiad. Diolchodd yntau am yr amlygiad hwn o deimlad da tuag ato. Penodi Lamplighter.— Cadarnhawyd pen- derfyniad y Pwyllgor, sef fod Mr E. Williams i gael ei ail henodi am yr un cyflog a'r flwy- ddyn ddiweddaf. Lampan a Pillars newyddion.—Pender- fynwyd fod dwy lamp newydd, o leiaf, i gael eu gosod i fyny, a bod yr Inspectors i ymgyf- arfod i benderfynu eu safleoedd. Ydreth am y flwyddyn nesaf—Fod 5c y bunt o dreth i gael ei chodi ar gyfer treuliau y flwyddyn nesaf. Ar ol pasio pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd ymwahanwyd.—Gohebydd.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
ELLIS'S FOOD Y ddarpariaeth oreu a ddarganfvddwyd erioed i'w rhoddi gyda'r ymborth i GELLYLAU, GWARTHEG, LLOIAU, MOCH, &c 25 MLYNEDD 0 BROFIAD. Rhybudd Pwysig I Amaethwyr a Pherchenogion Anifeiliaid yn gyffredinol. Gwyliwch ac ystyriwch pa fodd i BORTHI a PHESGI eich Anifeiliaid yn ddiogei, buan a llwyddianus. £10U o wobr os y gellir gwrth-brofi dilysrwydd y llythyr canlynol. Garreglandeg, Pentraeth, Anglesey. Anwyl Syr, Dymunaf eich hysbysu fy mod wedi defnyddio Ellis's Hrrse and Cattle Food" am ugaia mlynedd, ac nid wyf yn cofio i mi golli yr un anifail erioed mewn janlyniad i hyny ond ya anffodus y llvuedd fe gymerais trwy daerni anorchfygol bron fy mher- swadio i dreio ymborth arall sydd yn llawer uwch ei bris, ac yn cael ei ddarparu gan gwmni adnabydd- us iawn, a bu deuddeg 0 Loi farw genyf. Eleni yr oeddwn wedi periderlynu dyfod yn ol at yr hen ddarparaeth ardderchog, Ellis's Food," ond gyda gofid yr wyf yn gorfod dweud i'r un taerni yn nghyd a sicrwydd diamheuol nad oedd a wnelo yr ymborth a dreiois y llynedd ddim a'r golled a gefais, dylanwadwyd arnaf i'w dreio drachefn, gyda hoanlyniad cyffelyb eleni eto i mi golli deuddeg o Loi, pryd, fel y dywedwyd eisoes, nad wyf yu cofio i mi golli gymaint ag un yn nghorph ugain mlynedd o amser y bum yn defnyddio Ellis's Horse and Cattle Food," ac fel y gellwch feddwl y mae y profiad chwerw a gefais ddwy flynedd yn olyDol wedi a llwyr argyboeddi nad oes yr un ddarpametli aralyil ddeil gydmariaeth ag "Ellis's Food." Y mae ein h(n anileiliaid, yn geffylau, gwartheg, Hoi, a moch, y,j ei hofti, yn dod yn mlaen yn rhyfeddol wrth ei gaeil a chyflwr eu hiechyd yn ardderchog. Yr eiddoch yn gywir, WILLIAM JONES. Y mse y llythyr uchod yn liefaru drosto ei hun, a gellir gweleli y copi gwreiddiol unrhyw adeg ond gal w yn ELLIS'S FOOD WORKS, ABERGELE Y mae Eliis's Food i'w gael mewn bagiau fel y canlyu 112 pwys 24/ 56 pwys 12/6; 28 pwys 6/6. Telerau arbenig am symiau mawrion. Telir citidiad 112 pwys ac uchod i unrhyw Oisaf Rheiltfordd yn Mhrydain. Ellis's Food' Works, Abergele. POB MATH 0 WAITH ARGRAFFU YN Y SWYDDFA HON. Dyma'r adeg i ddcfnyddio Powdrau CeffylaU ENWOG SALMON. 1. Y POWDWR coab At y Dwfr, y Croen, a'r i gadw'r aaifail mewn cyfl trwy'r gauaf. 2. YPowdwr leiyj At wellau Ceffylau fydd°nt & cyflwr isel, ac i'w p^r° gwerthu. Hefyd, gelwir sylw at PHYSIG SALIO,, ,0 I Wartheg, Lloi, Moch, &C-t to hefyd i lei# i'w gycays^u f bwyd. Profwyd y PowaW yn dra efteithiol i ychwmeg o wyau. • 3/6, Gwerthir yr oil mewn tins i/-» gan y Perchenog, ,a D.S.—Os bydd unrhyw anhawsder grf gael y Powdrau mewn unrhyw ardali gyfeir1^ 5/- yn daidal gan y Perchenog i unr^y dderbyniad blaendal. Gelwir sylw hefyd at y .jff GENUINE BLACK 8Turr Hen Ddarpariaeth Nodedig i 1/ 1/6, a 2/- y botel-i ———— '1) PEE-OLEW Hudol (Cl»arml0g^ u.»»! I ddeuu a dofi Ceffylau, Own, I'w cael gan T. SALMON, c A chan y goruchwylwyr a ganlyQ qonS, ^r°eerS Cerrigydruidion—Roberts « rrh0BiaS Bettws a Llanfihangel— John Maerdy—D. E. Davies Tynant-ii. Roberts & Co Cynfal-J. Williams Llandrilla-Y Stores. Cynwyd—W. Davies. Llanelidan-J. Parry, Grocer. Y spytty Ifan-J. H. Hughes, Gof. Gwyddelwern—W. Davies. r<o0er- Cefn'dd-.vysarti Mrs Roberts, Rbewl—B.iji fryd. Bryneglwys —J. Jones, ary Glyndyfrdwy-T. Davies. Llanuvvchilyn—L. J- l Llangwm—J. E. Hughes,P10 -e. owinmain-Jollu Jones, IIeadre. T. SALMON, CHGMlSr, COB*