Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y BALA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BALA. PREGETHU —Llanwyd pulpud capel y Bed- yddwyr yn y dref hon y Sul diweddaf gan y bardd-bregethwr adnabyddus a phoblogaidd Llifon, ac yr oedd y weinidogaeth yn felus a nerthol. Diameu genym y buasai llawer o edmygwyr Llifon yn falch o'i glywed yn preg- ethu pe bai y frawdohaeth wedi rhoddi cy- hoeddusrwydd i'r ffaith mai efe oedd yn gweinidogaethu ar y pryd. RHYDDFRYDIAETH.- Y mae Rhyddfrydwyr y Bala mewn penbleth yn nglyisa a chael cyf- arfod politicaidd adeg dadorchuddiad cofadail Tom Ellis, ar y 7fed o Hydref. Nid ydynt yn foddlon ar yr hyn a geir gan Mr. John Morley a Mr. Lloyd George wrth ddadorch- uddio y gofadail. Y maent eisieu rhagor- eisieu cyfarfod politicaidd ar ol y seremoni. Y maent wedi penderfynu gadael y mater ar hyn o bryd yn Haw Mr. Osmond Williams, A.S a sicr genym y bydd i Mr Williams wneud cyfiawnder ag ef, a threfnu y ffordd oreu allan o'r dyryswch. Cofier mai dyn cenedi, ac nid dyn plaid; ydoedd Tom Ellis, a chofier hefyd fod llawer o Geidwadwyr wedi tanysgrifio at ei gofadail, a gresyn fuasai eu hanwybyddu at ddydd mawr y dadorchuddio. Gellir trefnu eto i gael siarad ar y Mesur Addysg, toll yr yd, &c., wedi i hyn fyned heibio Paham na chynhaliwyd cyfarfod o'r natur yma cyn hyn ? CYNGHOR DiNEsiG.-Pr;n haner awr fu eisteddiad y Cynghor yn eu cyfarfod misol nos Wener diweddaf, ac o angenrheidrwydd prin hefyd ydoedd y gwaith (a'r siarad, y tro hwn.)

COFADAIL TOM ELLIS.

Arddangosfa Amaethyddol Edeyrnion.…

MASNACHWYR CORWEN.

Masnachwyr Cerrigvdruidion.I

Family Notices

Advertising