Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
"COFADAIL THOMAS E. ELLIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"COFADAIL THOMAS E. ELLIS. Dydd claddu Thomas E. Ellis, A.S., pen- derfynwyd codi rhyw Gofadail Genedlaetho! deilwng iddo. Apwyntiwyd Pwyligor Cyffred- inol, gyda Mr. Lloyd George, A S., yn Gad- eirydd, a Syr Aifred Thomas, A.S. yn Drys- orydd, a chasglwyd £1960. Or arian hyn rhoddwyd £ 1200 at amcanion yngiyn a'r brifysgol gadwai Mr. Ellis mewn cof. Tros- glwyddwyd y gweddill, yn nghyda'r addewid- ion, i Bwyllgor Lleol i godi Cofgolofn yn y Bala. n Y mae y Cerflunydd, W. Goscombe John, bellach wedi gorphen yGofgoIofn. Rhoddirhi i fyny yn Stryd Fawr y Bala. Daw Mr John Morley, i lawr i'w Dadorchuddio ar y 7fed o Hydref nesaf. Bydd yn bresenol hefyd amryw o wyr blaenaf y Deyrnas. Dywedir fod ar hyd a lied y wlad amryw symiau wedi eu casglu tuagat y Gofadail Genedlaethol, ond heb eu hanfon i fewn i'r Trysorydd Cyffredinol. Hefyd, tybir fod nifer fawr o edmygwyr Mr. Ellis, heb gael cyfbustra Z, o gwbi i gyfranu at y mudiad. Os felly taer ddyaumir ar i'r arian sydd wedi eu casglu neu eu haddaw gael eu hanfon i fewn yn ddioed. Hefyd, os oes rhai heb gael cyfle i roi dim, neu eraill yn bwriadu ychwanegu at yr hyn a ro'sant, i anfon eu rhoddion, pa mor fychan bynag y b'ont, i'r Ysgrifenydd, neu ynte i'r North &' South Waies Bank, Bala. Mae y Pwyllgor yn awyddus iawn 11 Ddadorchuddio y Gofgolofn yn ddiddyled. GWYNORO DAVIES, Ysgrifenydd y Pwyllgor. Barmouth, Medi, 1903.
NODION 0 LERPWL.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 LERPWL. Yr ydym yn diolch am y waredigaeth gyf- yng a gawsom trwy ymadael a thref y Bala nos Fawrth diweddaf, neu buasaj raid i ni nofio oddiyno neu gyflogi rhyw Arch Noah i'n cludo dros y dilyw cyffrous. Y mae Cymry Lerpwl yn deffro o ddifrif at waith y gauaf dyfodol. Clywir'ar bobjllaw am gyfarfodydd o bob math ac yn mhob man. Y mae Cymanfa yr Annibynwyr^ wedi myned heibio unwaith eto. Gobeithio y bydd yr effaith yn hir ar ol pregethau mor rymus a rhagorol. Yr oedd y gyfeiilach grefyddol yn arbenig o wresog. Gwelsom rai cyfeillion wedi dyfod yr holl ffordd o Llanuwchllyn i'r cyfarfodydd. Dengys hyn ffyddlondeb mawr i i Sassiwn y Sentars." Gobeithio na siom- wyd hwy Ar ol awgrymiadau Mr. Lloyd George, A.S. yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ac ar ol j hynny yn Eisteddfod Llanelli, y mae Cym- deithas Ddramayddol Gymreig wedi ei set-! ydlu yma o dan ddisgyblaeth Mr. Llew Wynn, j yr Eisteddfodwr enwog. Y mae ei Ilwyddiant I bron wedi ei sicrhau. Y bardd a'r Cerddor (Elphin) yw y gwaith y maent yn ymgynyg i ddechreu. Y mae y Methodistiaid wedi penderfyou cynal"cyfarfodydd gweddi yn yr holl gapeli i weddio am dywydd teg i'ramaethwyr gasglu y cynhauaf sydd mewn perygl o gael ei ddin- ystrio. Dyma esiampl gwerth ei hefelychu gau yr holl enwadau. Y mae disgwyliad pryderus yn mysg Cymry Lerpwl am drens rhad i ddod i ddinas yr "Wythnos a'r Eryr ar y 7fed o Hydref i weled dadorchuddiad cofadail yr anwyl T. E. Ellis. Mae Dr. Torrey a Mr Alexander, yr efeng- ylwyr Ameticanaidd enwog, olyngwyr Mri. S mker a Moody, wedi dechreu cenhadaeth yma yn Philarmonic Hall, 3 mawr fu y son am effaith eu hareithiau gwresog a hyawdl. Rhagor yr wythnos nesaf. 1 CARN DOCHAN.
LLANDDERFELe
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANDDERFELe Sassiwn Plant y Methodistiaid.—Cynhaliwyd hon ddydd Unn diweddaf o dan lywyddiaeth Mr John Ellis, Wernol. Dech>-euw,yd gan y Parch. R. Will- iams, M.A., Bala. Anerchiad gan y llywydd. Hoi. wyd y Rhodd Mam gan Mr R. N. Jones, a'r Holwydd- wyddoreg gan y Piirch Isaac Jones-Williams. Gair gan y Parchn. J. Evans a Richard Williams. Te am 3-30 yn y Festri. Cyfarfod yr hwyr sm 5-30. Llywydd, Mr William Evans, Tanffordd. Dechreuwyd gan y Parch. J. Evans. Adroddodd y pi ant y Deg Gorchymyn. Holwvd yr 11 ben. o'r Rhodd Mam gan Mr Williams, a'r 2il ben. o'r Holwyddoreg gan Mr Ieuan R. Jones, Maesywaen. Rhanwyd gwobrwyon am lafur ssfonol i'r oil o'r plant Ysgol Sul y Caletwr gan Miss M. J. Ellis, Wernol, ac i'r ddau oreu yn mhob dosbarth yn Ysgol Sroron gan y Llywydd. Cyflwyno anerchiad i Mr Hugh Ellis. Gdir gan y Llywydd. Darllen yr anerchiad gan Mr R. N. Jones. Cyflwyno yr anerchiad gan Mrs. Elizabeth ■Ti-ne?, Church St. Gair gan Mr E. Ffoulkes Evans, Mr Robert Thomas, Parch. L Jones-Williams, a Mr J. Llewelyn Jones. Diolchiadau. Cafwyd holi ac ateb da iawn yn y ddau gyfarfod. Canwyd tonau o Lyfr Sankey. Arweiniwyd gan Mr J. Llewelyn Jones. Cyfeiliwyd gan Mr Willie Jones, Church St.
ANERCHIAD I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ANERCHIAD I MR. HUGH ELLIS, Pale Lodge, Llandd&fel. Anwyl Frawd- Dymunwn, fel aelodau Ysgol Sabbothol capel Saron, gyflwyno yr Anerchiad hwn i chwi f81 amlyg- iad o'n gwerthfawrogiad o'ch gwasanaeth ffyddlawn fel Arolygwr Ysgol y Plant am ddwy flynedd ar hug- ain Yn-ystod y tymor hwn cawsoch y fraint 0 gych- wyn 11 u mawr o blant vr ardal ar lwybrau moesoldeb a chrefydd, a llawenydd i ni ydyw gwybod fod nifer luosog 0 honynt yn weithwyr da yn ngwinllan Iesu Grist mewn gwahanol leoedd, ac yn eu plith ddau wedi myned allan yn genhadon i'r India. Gwnaethoch eich rhan i ddwyn i mewn act weithio a.lan gynllun y Safonau, yr hwn sydd wedi profi mor fendithiol i'r Ysgol, a gwasanaetbasoch yn gyson fel athraw yn y cyfarfod darllen. Cafodd dirwest ynoch bob cefnogaeth ar drai a llanw, a buoch yn Llywydd ein Cymdeithas Ddir- west,)l amryw weithiau, Gwerthfawrogir hefyd yn fawr eich presenoldeb cyson a phrydlon, yn nghyd a'ch gwasanaeth cyhoe- ddus, yn holl gyfarfodydd yr eglwys. Ein dymuniad ydyw ar i chwi gael blynyddoedd lawer eto i wasanaethu Duw mewn gwabanol gys- sylltiadsu, ac yn y diwedd fynediad i mewn i drag- wyddol deyrnas ein Hargiwydd lesu Grist. Ydym, yr eiddoch dros yr Ysgol, Isaac Jones Williams, Evan F. Evans, Llywydd y Pwyllgor, J. Llewelyn Jones. William Evans, Trys- orydd, Robert N. Jones, Ysgrifenydd. Athrawon ac athrawesau y festri am 1902—Elizabeth Jones, Gwen Davies, a William Evans, Safon VI, Jane Owen a Mary Jones, Safon V, Susie Jones a Maggie Ed- wards, Safon IV, Mary C. Owens, Safon III, Esther Evans a Maggie Hughes, Safon IT, anny Evans, Dosbarth Rhagbaratoawl, Jane Evans ac ,iinie Rob- erts, Safon f. Gorphenaf 31ain, 1903.
. CORWEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CORWEN. Ffair.—Cynaliwyd y ffair fisol ddoe (Mawrth). Nid oedd cymaint ac arfer 0 foch yn cael eu cynyg, ac araf oedd y farchnad, ond oedd y prisiau yn dal i fynu yn dda, Ychydig o alw oedd am wartheg, yn enwedig dinewaid, a'r prisiau ychydig yn is. Yr oedd prynu rhwydd ar wartheg tewion a'r prisiau yn dal i fynu. Yr un modd gwerthai defaid yn rhwydd am brisiau da. Ychydig geffylau ddangoswyd. Pris ymenyu ffres lId y pwys, ac wyau 13 a 14 am swllt.
LLANLRILLO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANLRILLO. Y Tywydd.—Neillduwyd ddydd Llun yma fel dyddo ymostyngiad a gweddio am dywydd braf. Daeth yr ardalwyr yn bur gryoo i'r cyfarfodydd, pa rai a gynelid yn y gwahanol addoldai ar gylch. Yr oedd yn amlwg fod arddeliad y nefoedd ar y gwaith.
. CYNGHORAU PLWYFI EDEYRNION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYNGHORAU PLWYFI EDEYRNION. Fel dywedail Nelson gynt, ddydd mawr Trafalgar, Disgwylia Lloegr i chwi wneud eich dyledswydd heddyw felly y gellir dweyd wrth aelodau Cynghorau Edeyrnion, y disgwylir iddynt fod yn feddylgar er dewis personau teilwng a chymwys at y rhai sydd eisioes wedi el nodi. Rhyddfrydwyr Ymneillduol dyma ein hawr byddwn yn wyliadwrus pa beth a wnawn. Derbynia gweinvddiad Addysg ein hardal- oedd ar yr hyn a wnawn ni y dyddiau hyn. Byddwn bur i'n hegwyddorion.
t3tob,cuatwnt
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
t3tob,cuatwnt AR FEDD ERNEST R. THEODORE, Mab Mr a Mrs. Theodore, Tegid St., Y Dsle" Fy mebyn tlws, paham Y (leiiaist ti, I wyddfod tad a mam, I'n daear ni ? Gadewaist aelwyd glyd Heb wg erioed, Gwynebaist arall fyd Yn ddwy-flwydd oed. Myg angel ddaeth i lawr I'th arwain trwy Y g!yn i loewach gwawr I Uwchlaw bob clwy; Daeth engyl glan yn llu At ddrws y nef I dy gusanu di Yn dvrfa gref. O. Ernest, febYD tlws, Fe'tli wc-ittist di Yn chwarea wrth y drws Yn lion a ffri; Ond heno daear oer Sy'n cuddio'th wedd, Ah gwylio wna y lloer Dy ddistaw fedd. Mae dy deganau bach Oll yn y ty Yn ngofal Jenny fach, Y chwaer fwyn, ga; Teg delyn aur y ne' Bydd genyt ti Yn chwarea yn eu lie Mewn dwyfol fri. M or unig yw y fan Heb Ernest bach, Mor ddedwydd yw ei ran, Mae'n canu'n iach; Na wylwch, deulu mad, Mae erbyn hyn Uwch poen mewn nefol wlad Yn angel gwyn. Mor agos yw y nef I'w riaint en Er pan ehedodd ef I'r ddinas fry; Nid oes ond teimlad mam All ddweyd yn iawn Am golled un ddinam A mynwes lawn. Mae Mynwent Min y Llyn Yn anwyi gan Y teulu erbyn hyn, Henafol Lan; Af yno'n min y dydd, I'w dawel hedd, I ollwng deigryn prudd Ar gwr ei fedd. iQ. Y Bala. GLAN
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
SMITHFIELD, LLANGOLLEj (Marchnadfa Ganolig Da Byw Gogledd Cyura). Arddangosfa Fawreddog 0 Dda B'IVV. DYMUNA Mri. JONES a'i FAB entries vchwanegol i'w 9fed Ar Fawr Wobrwyol, yr hon a gynheiir yo ? field uchod Ddydd Mawrth, Medi Godro a 200 i 250 theg Tewjou. Wyn Tewl01" 1200 i 1400 WynTewion" 5°° i 600^ „ £ 8 0 Wobrau mewn Deg Dosbai"^ Disgwylir Gwerthiant rhagorol. yr luosog o Brynwyr yn bresenol. \QfiO' arwerthiant gyda Gwartheg a Mocn a AAn' &rbenig Cynhelir y 6ed Arwerthiant •#gQ$, O DDEFAID CADW, Hydref 3, 3000 i 4000 Swyddfeydd—Gwrecaam a