Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

ROUND AND ABOUT TOWYN.

LLINELLAU COFFADWRIAETHOL

" HEB LE I RODDI EI BEN I…

CYFARFOD CYSTADLEUOL DIRWESTOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CYSTADLEUOL DIRWESTOL YN MRYNCRUG. Da gan lawer fydd deall fod dirwest yn flodeuog yu mhentref Bryncrug. Nos Fercher cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol, o dan lywyddiaeth Mr D. Lewis, T.B.D., pryd yr aed drwy raglen dyddorol; yn wir ystyrir y cyfarfod yn un da iawrs, serch fod un neu ddau o'r pethau ar y rhaglen heb ddod i fynu a'n disgwyliadau. Cafwyd can gan Mr G. O. Lloyd ac wedyn adroddiad gan Mr Robt. P. Evans; anerchiad gan Mr John Morgan; can, Hiraetli," Mr Lewis L. Owen; unawd soprano, Miss Jane Evans, Ty'nyreithin adroddiad, Y dyn meddw," Mr Hugh Lewis. Os oedd yn yr ystafell feddwyn mae'n gwestiwn genyf a barha felly gan mor druenus yn ol y desgrifiad yr oedd ei gyflwr. Cys- tadleuaeth unawd alto, ni ddaeth ond un ymlaen, sef Mr John Jones, Trem Fathew, a dyfarnwyd iddo y wobr. Deuawd, Mr Hugh Davies a'i gyfaill; cystadleuaeth areithio yn ddifyfyr am bum' munyd o amser. Aeth saith o gyfeillion i'r ymgyrch, ac wedi eu clorianu cafwyd mai y goreu ydoedd Mr G. O. Lloyd, rhai o'r cystadleuwyryn gwneyd ymdrech pur salw. Can, Mr Hugh Davies, Towyn; can, Miss Jane Evans; adroddiad, Ymson y Llofrudd," Mr Hugh Lewis; cystadleuaeth unawd baritone, daeth dau ymlaen, sef Mri. G. O. Lloyd a Hugh Davies, a dyfarnwyd yr olaf yn fuddugol; cystad- leuaeth desgrifio gwrthddrych heb ei enwi, y testyn oedd Y Gog," ac allan o ddeg o ymgeiswyr dy- farnwyd Mr Evan Jones yn oreu. Can, Mr Hugh Davies; adroddiad, Mr Hugh Lewis; deuawd, Mri. Griffith Jones a Richard Hughes. Daeth dau barti ymlaen i gystadlu ar y pedwarawd, sef parti o'r lie a pharti o Glan Fathew, a rhoddwyd y wobr i'r diwecldaf. Can, Mr John Jones; adroddiad, Mr Morris Roberts can, Mr Hugh Davies, Towyn. Y beirniad cerddorol oedd Mr D. O. Jones, Frondeg, Towyn. — —«-

THE BEVERAGE OF THE PEOPLE.

CORRESPONDENCE.

TOWYN: WHERE IT IS AND WHAT…