Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL DEAFNESS.—A -NEW HOME TREATMENT.—Sufferers are not generally aware that these diseases are contagious, or that they are due to the presence of living parasites in the lining mem- brane of the nose and eustachian tubes. Microscopic research, however, has proved this to be a fact, and the result is that a simple remedy has been formulated whereby these distress- ing diseases are rapidly and permanently cured by a few simple applications made at home by the patient once in two weeks. A pamphlet explaining this new treatment is sent on receipt of 2d stamp by A. HUTTON DIXON, 43 & 45 lias Bloor-st., TORONTO, Canada Scientific Anerica¡¡"
ESBONIADAU CYMREIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ESBONIADAU CYMREIG. NODIADAU HANESYDDOL. GAN Y PARCH J. THOMAS, MEETHYB. YSGRIF IV. Y BEIBL TEULTTAIDD. YCHYDIG a wyddom am hwn. Rhoddwn y wyneb-ddalen yma i siarad drosti ei hunan, ae nid oes genym ddim i ychwanegu ati. Dyma hi:—'Y Beibl Teuluaidd, sef yr Hen Desta- ment a'r Newydd, gydag adfyfyriadau helaeth ar bob penod, gan y Parch John Brown, yn nghyda nodau ymyl-ddalenol. Hefyd, pigion o'r pethau mwyaf nodedig a rhagorol yn esbon- iad y Parch Mathew Henry, a nodiadau achlys- urol gan y Parch W. Davies. Argraffedig yn y Bala, gan R. Saunderson, 2 gyfrol 4 plyg.' Nid ydym ar hyn o bryd yn gwybod dim am y Parch John Brown, nag am y Parch W. Davies. Os medr rhywun gynorthwyo, bydd yn dda genym. ESBONIAD Y PARCH JAMES HUGHES, LLUNDAIN. Mewn lie o'r enw y Neuadd-ddu, yn mhlwyf Ciliau Aeron, yn sir Aberteifi, y ganwyd Mr Hughes, yn y flwyddyn 1779. Cyfyng fu ei fanteision addysg. Dygwyd ef i fyny yn ôf. Ymunodd ar Methodistiaid yn ieuanc, a bu yn byw am dymhor byr yn Llangeitho. Yn fuan wedi pasio ugain oed, symudodd i Lundain i weithio wrth ei grefft. Yn ystod yr amser hwnw ymunodd a chynulleidfa Seisonig er mwyn ymberflfeithio yn yr iaith hono. Bu hyny, yn nghyda'r dyddordeb a gymerai yn nghystadleuaethau y Cymrodorion, yn foddion i berffeithio ei wybodaeth o iaith ein cymydog- ion, yr hyn a drodd yn fantais fawr i'r Cymry yn ol Ilaw. Wedi dychwelyd at y Methodist- iaiel Cymreig, dechreuodd bregethu pan yn 30 oed, acordeiniwyd ef yn 37. Parhaodd gyda'r Methodistiaid hyd ei farwolaeth yn Rotherhithe, pan yn 65 oed, ar ol treulio oes lafurus dros ben. Ysgrifenodd Mr Hughes ar yr oil o'r Beibl. Dethol o weithiau Saesoneg a broffesai yn benaf. Ei Destament Newydd a gyhoeddwyd gyntaf yn 1835. Mae ei wyneb ddilen yr un ag eiddo yr Hen Destament, yr hon sydd fel y canlyn :—' Yr Hen Destament, gyda Nodau Egluriadol ar bob adno 1, wedi eu dethol a'u cyfieithu i'r Gymraeg, gan y Parch fames Hughes, gweinidog yr Efengyl yn Llundain. Allanowaith amrywiol o'r awduron enwocaf, yn nghyda holl nodau cyfeiriol y Parch T. Scott. Treffynon Gyhoeddwyd gan Lloyd ac Evans.' Mae dyddiad Rhagymadrodd y Detholydd yn nglyn a'r Hen Destament dair blynedd yn ddiweddarach na'r un ar y Testament Newydd, sef 1838. Yn yr un yn nglyn a'r Testament Newydd, ceir y sylwadau canlynol, yn mysg ereill I blant tlodion ac athrawon uniaith y bwriadwyd ef ar y cyntaf, ac nid i uchel raddau mewn dysgeidiaeth ac ieithoedd, y rhai a ddar. Ilenant ac a ddeallant awduron dysgedig yn y Saesoneg ac ieithoedd ereill.' Sut bynag, dywed ar hyn yn ne.3 yn mlaen, gyda thipyn o watwareg, gellid rneddwl: Os na bydd y syhuadau yn werth gan ddynion dysgedig a gweinidogion eu darllen, mae yn sicr y gall y rhai hyny gael lies mawr o ddefnyddio y cyfeir- iadau y quotations, wrth gwrs. Gyda golwg ar ei faiutioli, ceir y sylwadau canlynol:—' Ar y cyntaf yr oeddid yn bwriadu eynwys y cwbl ar y Testament Newydd mewn un ar bymtheg o rifynau chwecheiniog; ond gwelwyd braidd cyn dechreu nad oedd dichon gwneuthur dim a fuasai yn fuddiol mewn can lleied cylch a hyny a phanderfynwyd, ar anogaeth rhai brodyr parchus ac enwog, ei estyn i ugain o rifynau. Gyda golwg ar y terfynau hyny, aeth y dethol- ydd yn fras a byr iawn dros y tri efengylwr cyntaf, gan adael aneirif bethau yn sylwadau ei awdwyr heb eu cyfieithu, rhag ofn myned dros y terfyn; ond erbyn dyfod at Efengyl loan, ac o hyny yn mlaon hyd y diwedd, gwelai fod yn anmhosibl iddo gadw at y byrdra a dde- chreuasai, heb wneyd dirfawr gam a'r awdwyr y detholai ohonynt, ac a'r gwaith fel eglurhad ar y Gair Sanctaidd Erbyn hyn hefyd yr oeddid yn cael ami anogaeth o wahanol fanau i beidio a byrhau, eithr yn hytrach helaethu y sylwadau; a rhwng yr anogaethau hyny, a'r helaethrwydd o ddefnyddiau gwerthfawr oedd wrth law, ymollyngwyd i helaethu y sylwadau mwy na pheidio, a chwyddodd i'w faintioli presenol, agos y dau cymaint a'r ugain rhifyn a fwriadesid ar y cyntaf.' Yn mhellach yn mlaen noda ei fod yn dethol yn benaf o bedivar auodtor, ac fod parotoi y Testament Newydd wedi costio iddo dros bedair blynedd o lafnr. Yn ei I Pagym'adrodd' yn ngln a'r rhan gyntaf o'r Esboniad ar yr Hen Destament, dywed:Iloff iawn ydyw meddwl am y der- byniad rhagorol a gafodd Yr Agoriad ar y Testament Newydd,' am y defnydd mawr a chyffredin a wneir ohono, yr hyfrydwch mawr a geir ynddo, a'r lies mawr, gobeithio, a geir ynddo a thrwyddo. Boed yr holl ogoniant o hyn i Dduw, ac nid i ddynion. Ond bu yn galondid mawr i'r Detholydd llwfr i ymaflyd yn y gorchwyl pwysig o ddarparu sylwadau eglurhaol ar yr Hen Destament, y rhai, yn ei dyb ef, ydynt yn rhagori mewn gwerth a dcfnyddioldeb ar y rhai ar y Testament New- ydd, yn enwedig y rhai ar lyfrau Moses, ac ar ddefodau tywyll a chysgodawl y ddeddf sere- moniol yn Exodus, Lefiticus, Numeri, a Deuter. onomium.' Cyn can i fyny ei gyfarchiad, wrth son am radlonrwydd y gwaith, a rhwymau ei gydgenedl i gefnogi peth o'r fath, sylwa Par o ddillad a gostia fwy na'r holl waith hwn i gyd. Rhaid cael y rhai hyny bob dwy flynedd neu amlach, pryd na raid talu am hwn ond unwaith yn oes gwr; gyda gofal am dano, pery drwy oes ei brynydd, a thros oesoedd ar ei 01 ef, i'w blant a'i wyrion.' Ar derfyn y cyfarchiad ceir yr englyn hwn:— Darllenwch, chwilivtch uchelion-y Gair, Goreu yw o foddion I ddoniaw tywyll ddynion, A goleu o rad gwawl yr Ion. Nid oes enw wrtho ond tebyg mai Mr Hughes ei hun yw yr awdwr, gan ei fod yn fardd, yn cael ei adwaen wrth yr enw Iago Trieltrug- enw mynydd ger llaw pa un y ganwyd ef.
LLYTHYR LLUNDAIN, I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR LLUNDAIN, Cyflemoad Diofr. Boreu Llun, Medi 25am. NID oes dim perygl yn ol pob arwyddion, y bydd Llundain yn fyr o ddwfr, ac ni fydd raid am flynyddoedd lawer fyned i chwilio am lynoedd neu afonydcl newyddion i'r dyben o'i chyflenwi. Mae y Ddirprwyaeth Freninol wedi datgan eu barn y ceir digonedd o ddwfr am y deugain mlynedd nesaf o afonydd y Thames a'r Lea ar gyfer y cynydd dirfawr a gymer le yn Llundaiu. Mae y ifynonau sydd yn Nyffryn yr afon Lea yn darparu 40 miliwno alwyni y dydd. Mae ifynonau yn y dosbarth sydd y tu dehau i'r Thames sydd yn nghymyd- ogaeth y Kent Water Company yn darparu 45 miliwn o alwyni yn ddyddiol. Heblaw hyn, geilir cael 52 miliwn a hailer o'r Lea, a 300 miliwn o'r Thames yn ddyddiol. Mae y cyf- lenwad o'r ffynonellau uchod yn 425 miliwn o alwyni y dydd, neu 35 galwyn y pen i boblog- ogaeth o 12 miiivrn. Mae modd hefyd cael dwfr o'r afon Medway heb effeithio dim niwed 1 ar y gymydogaeth. Mae y Ddirprwyaeth o'r farn fod y dwfr a ddefnyddir yn Llundain o ansawdd ragorol, ac yn neillduol o ddefnyddiol at wasanaeth cyffredin. Mae yn galondid meddwl fod dinas mor boblog a Llundain yn ddyogel, a siarad yn ddynol, rbag prinder dwfr am gynifer o flynyddoedd. Yu hyn, y mae y Brifddinas yn neillduol o ffodus. Er engraifft, eleni, yn ystod blwyddyn o sychder anghyff- redin, pan yr oedd dinasoedd a phrif drefi y wlad yn bryderus gyda golwg ar gyflemvad dwfr, nid oedd raid i Lundeinwyr brinhau dim arnynt eu hunain. Yn nesaf at awyr iach, cael dwfr pur, a chyflawnder ohono, ydyw angen- rhaid mwyaf cymdeithas. I i West London Mission. MAE y gwaltli dirfawr a wneir gan y Gcnadaeth a adwaenir fel The West Lon- don Mission, dan arolygiaeth y Parch Hugh Price Hughes yn haeddu sylw a ehydymdeimlad cyffredinol. Cliwe' blynedd [ yn ol, aid oedd aelodaeth y Genadaeth ond 123,
Y FORD GRON.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
—Safai dau bregethwr teithiol wrth ddrws ty 1 gweinidog yn ddiweddar. Derbynid hwynt yn groesawgar gan wraig garedig y ty, ond yn unig fod tebygrwydd y ddau y fath fel y cam- syniai y naill am y ilall. Nid ydynt yn berth. ynasau yn ol y cnawd, ond mai peth cyffelyb wedi dygwydd lawer gwaith. Pwy, wys ? —' Son am yr hen bregethwyr,' meddai gwraig dda ar derfyn cyfres fywiog o gyfarfod- ydd mewn ardal neillduol, 'yr wyf fi yn cofio cyfarfodydd y cylch yma er's blynyddoedd lawer, ae I\Î fu yma erioed well pregethu na'r tro hwn.' —Gofynid paham y mae rhai newyddiaduron yn troi hysbysiadau yn adroddiadau. Cwynid fod rhai newyddiaduron Saesoneg yn arbenig yn euog o hyn. Tebyg mai brys sydd yn cyfrif am hyn, ond gwell oedi tipyn er mwyn bod yn gywir. Mae pob rhagdrefniant yn agored i gael ei gyfnewid yn y eyflawniad. Cymered gohebwyr yr awgryin. -Taflwyd i'r Ford' y darlun geiriol can- lynol o Dr Stalker, o Glasgow. Yn Casnewydd y tynwyd ef: Gwr o daldra cyffredin ydyw, ysgafn, ac eiddil, gyda gwyneb cul, a thalcen llawn ae uchel eillia ei wyneb yn lan, ag eithrio mwstas. Mae ganddo lais cryf, soniarus, treiddgar, weithiau, rhydd floedd nes gwefr- eiddio cynulleidfa; dro arall siarada mewn t6n isel, addfwyn. Nid yw'n llithrig o ymadrodd, a phrin y buasai yn rhagori am siarad yn ddi. rybudd. Cymer drafferth i ddarparu ar gyfer pregeth, ac anerchiad, ac nid yw mor ddoniol ag ambeU un.' —Yr oedd brawd o weinidog sydd yn pwyso a mesur ei eiriau yn ofalus wedi bod am bythef- nos yn gwledda ar anerchiadau a phregethau Sacsoneg. Cafodd fantais ar ol hyny i fyned ar ei union i gyfarfod pregethu Cymraeg, a'i dyst- iolaeth oedd mai y Cymry pia hi am bregethu. Cydnabyddai ei fod wedi mwynhau y Saeson yn fawr, ond nid fel y Cymry er hyny. -Crybwyllodd un yr ymddengys peth pur eithriadol yn y Dysgedydd nesar. Sut y daeth i wybod, nis gwn, ond mae dawn ganrai' boys i dd'od o hyd i bethau. Y peth y cyfeiriai ato oedd darlun neillduol. Yn y flwyddyn 1860, aeth chwech o fyfyrwyr Aberhonddu am daith drwy sir Feirionydd, neb Uai na Dr Herber Evans, Henry Rees, Bryngwran Proffeswr Rowlands, B.A., Aberhonddu Esau Owen, Clydach; R. S. Williams, Dowlais; a Meirion Davies, America. Cawsant daith hynod, yn ogymaint a'i bod yn adeg diwygiad. Tynwyd darlun ohonynt gyda'u gilydd yn Nolgellau. Y darlun hwnw gyhoeddir yn y Dysgedydd nesaf. Methodd ei fam adnabod un ohonynt yn ddiw- eddar. Gyda'r darlun ceir ysgrif ragorol ar y daith gan ProfF. Rowlands, B.A. -Gwelwyd nodiad yn hysbysu y bwriada y Parch D. Adams, B.A., gyhoeddi ei draethawd cydfuddugol yn Mhontypridd yn llyfryn. Da iawn. Ai ni fyddai yn bosibl cael gan Mr Jones, Stroud Green, i wneyd yr un peth. Os nad ydym yn camsynied, gwerthai y ddau draethawd fel mwg. -Da oedd gan y bechgyn i gyd gael ar ddeall fod y Parch E. Thomas, Penrhiwceibr, yn gwella ar ol ei gystudd blin, a'i fod wedi gallu ail-ymaflyd yn ei waith ar ol deufis o orphwys. Bu ei briod hefyd yn gystuddiol yr un adeg, ond y mae hithau yn gwella. Hir iechyd iddynt bellach, a llwydd parhaol. -Deallwyd fod eglwys Ebenezer, Abertawe, wedi cael Jubili, ac fod cyfarfodydd hwyliog wedi eu cynal ar yr amgylchiad. Llonai y y 11 bechgyn wrth glywed fod yr hen eglwys barchus mewn sefyllfa mor lewyrchus o dan weinidogaeth rymus y Parch W. James. Hir iawn y parhao felly. ARTHUR.