Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DYN AR El DREIGL: SEF HANES…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYN AR El DREIGL: SEF HANES ROWLI ANTWN. PE1 0 D XX III. ANFFAWD DDIFEIFOLI DYWEDIR fod rhyw gydymdeimlad rhwng ceffyl a'i farchogwr, a gellir casglu fod rhyw wirionedd yn hyny ac os gwir hyny, gall ei bod yr un mor wir, fod cydymdeimlad rhwng ceffyl a gyriedydd. Yr oedd ychydig goed yn taflu eu cysgod ar y ffordd wrth ben y bont, ac yn y cysgod hwnw y safai y cerbyd, a'r bon- eddwr a'r foneddiges ynddo, yn gwylio ym- ddygiadau Rowli Antwn, er na wyddent pwy na pheth oedd ei ddyben yn eistedd ar ochr y bont, uwchben man canol yr afon. Yr oedd ei draed i mewn uwch y dramwyfa, a'i gefn at yr afon, a'r lloer yn llewyrchu o'r tu cefn iddo, gan daflu ei gysgod o'r naill ochr i'r bont i'r ochr arall. Cadwai y ceffyl ei olwg yn sefydlog arno, fel dan ystyriaeth ei fod yn wrthddrych-i'w ddrwgdybio ac yr oedd y ffaith ei fod yn cael ei gadw yno i sefyll yn nghysgod y coed, yn amlygiad fod rhywbeth anarferol yn bod yn y cysylltiadau. Nid oedd yn afon fawr a dofn, ond cymedrol felly; ac nid oedd y bont yn uchel iawn, fel y gwelir rhai. Yn mhen ychydig daeth cerbyd arall o'r tu ol iddynt, ac wrth weled y cerbyd blaenaf yn sefyll yn y cysgod, a gweled dyn yn eistedd ar y bont, ac yn taflu ei freichiau, safodd y cerbyd hwn hefyd. Yr oedd y ddau gerbyd o'r un ardal, ac adwaenai y rhai ddaethent yn yr olaf y cerbyd blaenaf a'r rhai oeddent ynddo ar unwaith. Tybiasant fod rhywbeth yn hynod yn y sefyllfa, eithr cyn i'r boneddwr oedd yn yr ail gerbyd gael amser i gyfarch boneddwr y cerbyd blaenaf, a gofyn beth oedd yn bod, gwelodd:y dyn eisteddai ar y bont yn taflu ei ddwylaw i'r lan i'r awyr, ac yn dywedyd mewn Ilais uchel a chryf, Yn wir, rhaid i mi benderfynu i'w wneyd.' Dyma yr ail dro iddo ddywedyd felly. 4 Rhaid mai dyn allan o'i bwyll ydyw,' ebe y boneddwr yn yr ail gerbyd wrth foneddiges a eisteddai yn ei ymyl. Nid cynt y dywedodd hyny, nag y gwelodd y dyn yn pwyso ei gefn yn ol, cododd ei draed i'r awyr, a syrthiodd lwyr ei gefn dros ochr y bont i'r afon. Anfwriadol hollol oedd hyn o du Rowli Antwn, gan ei fod wedi llwyr anghofio ei hun. ae mai ar ochr pont yr eisteddai. Yr oedd wedi arfer eistedd cymaint a'i gefn ar bwys mur i orphwys o ddiffyg gwell darpariaeth, fel nad ystyriodd lai na bod mur o'r tu cefn iddo y tro hwn. Ni chafodd amser i roddi bloedd cyn ei fod i lawr ar ei ben yn yr afon. Clywsid splash yn yr afon, a barnodd y Ilygaid-dystion mai bwriadol ydoedd, ac mai dyna feddyliai Iwrth ddywedyd, Yn wir, rhaid i mi bender- fynu i'w wneyd,' sef rhoddi terfyn ar ei fywyd, t,, v syrthio yn ngwisg ei gefn i'r afon, a boddi. Deuweh, Mr Rees, rhoddwch gymhorth er ei gadw rhag boddi,' gwaeddai boneddwr yr ail gerbyd. Rhoddodd y ddau yr awenau i'r boneddig- esau, y rhai a grynent gan echrysdod a dywed- asant am iddynt gadw eu hunanfeddiant, iddynt hwy gael gwneyd eu goreu i achub bywyd y dyn anffodus. Neidiodd y ddau faneddwr o'u cerbydau, ac yn gyflymach nag y gellir des- grifio, brysiasant heibio i ben y bont, i'r cae, ac at yr afon. Gwelent rhyw wrthddrych yn ymsymud yn y dwfr, a'i ben yn y dwfr. Neid- iodd un ohonynt, sef Mr Rees, i mewn, ac ymaflodd yn rhyw ran o'i wisg, a thynodd ef at y geulan; a chydrhyngddynt, cawsant ef i'r lan, a gosodasant ef i orwedd wyneb waered ar y ddaear. U Mae bywyd ynddo,' ebe Mr Rees wrth Mr Sisman, y boneddwr arall. Oes, ond rhaid ei fod wedi taro ei hun wrth y gwaelod yn enbyd,' atebodd Mr Sisman. Buont yn rhwbio ei ddwylaw, a rhanau ereill o'r corff, er mwyn adgynyrchu gwres, ac yn mhen yckydig agorodd y dyn ei lygaid, a gwnaeth swnio rhywbeth annealladwy. Clud- asant ef o'r cae i'r bont, a galwodd Mr Sisman ar ei wraig i ddyfod a'r cerbyd i'r man mwyaf cyfagos, gan mai ei gerbyd ef oedd y mwyaf cyfleus i'r amgylchiad. Llwyddasant i'w godi i'r cerbyd, ac eisteddodd Mr Sisman i ddal ei ben i fyny, a Mrs Sisman i yru. Aeth Mr Rees i'w gerbyd ei hun, ac i ffwrdd yr aethant, nes wedi myned am yn agos dwy filldir, daethant at ychydig dai. Mae goleu yn y Stores, beth pe. gadawem ef yno, a chael rhywun i ymofyn meddyg ato, rhaid ei fod wedi ei niweidio,' ebe Mr Sisman. Cydunwyd ar hyn, a llwyddwyd gan bobl y Stores i'w gymeryd i mewn, a thra yr oeddynt hwy yno yn ei ddiosg, i osod pethau sychion a gwresog am dano i'w osod mewn math o wely wnaed yn gyfleus, cymerodd Mr Eees ei wraig i'w eartref oedd ger llaw,"ac aetk ei kun yn y cerbyd i gyrcku'r meddyg agosaf atynt. Dygwyddodd y meddyg fod gartref, ac yn y gwely, ond wedi cael ei ddeffro gan swn curo wrth y drws, cyfododd, ac aeth mor fuan ag oedd modd, a'i offerynau & ckyffeiriau tebygol o fod yn gweddu i'r amgylchiad, gyda Mr Rees. Cyrhaeddasant y Stores, a gwnaeth y meddyg ymchwiliad ar gyflwr yr anflodyn. Mewn can- lyniad, dywedodd:— Mae wedi cael peth niwed ar y pen a'r ysgwydd, ond nid dim na all gael ei adferu. Mae wedi cael shock i'w system, a dyna'r peth pwysicaf, gadawer iddo gael pob lionyddweh posibl, mi a roddaf gyfogiad iddo i gael ei ystymog i fyny, a rhoddir ychydig ofrandiiddo yn awr ac eilwaith, er cryfhau cyIehrediad y gwaed, ac mi a alwaf boreu yfory i weled sut y bydd yn dyfod yn mlaen, ac i ystyried beth arall fydd oreu i wneyd iddo.' Ar hyn ymadawodd y meddyg a'r ddau foc- eddwr. Sicrhaodd y ddau foneddwr bobl y Stores a'r meddyg, y byddent hwy yn gyfrifol am bob treuliau rhesymol tra y byddai ar eu dwylaw hwynt. Gosododd hyn y pwnc hyny yn ei le, a chafodd yr anffodyn bob gweinyddiad angenrheidiol, yn ol archiad y meddyg. Gwyl- iwyd ef yn y Stores trwy y gweddill o'r nos, ac wedi i'r cyfogiad wneyd ei orchwyl, syrthiodd yr anffodyn i gwsg. Wedi myned allan o'r Stores, rhoddodd y ddau foneddwr eu barn i'r meddyg ar y dygwyddiad. Dywedasant yr ymddangosai iddynt hwy fod y dygwyddiad yn fwriadol, ac y byddai yn rhaid ei osod dan arholiaii pan ddeuai yn ddigon cryf i fyned dan yr oruch- wyliaeth; ac am iddo yntau, y meddyg, i sylwi a oedd arwyddion gorphwylledd arno, er mwyn ei osod allan dan arolygiaeth, neu mewn lIe dyogel os oedd. Addawodd y meddyg dalu pob sylw i'r achos, bid sicr. Yr oedd Mr Rees a Mr Sisman yn ddau fon. eddwr parchus yn y rhan hono o'r wlad, mewn amgylchiadau cyfoethog, ac wedi eu gwneyd yn ddau ynad heddwch. Hwy eill dau oedd yr unig ynadon yn y rhan hono o'r wlad, tuallan i'r ddwy dref, un o ba rai y dychwelent ohoni ar noswaith yr anffawd; ac yr oedd y dref arall ychydig yn mbellach mewn cyfeiriad arall, i ba un y bwriadai Rowli Antwn i wneyd ei ffordd cyn gorphwys, pe na buasai wedi bod mor an- ffodus ar y bont, wrth benderfynu yn ngoleu y lloer beth i'w wneyd. Gwnaeth beth na fwr- iadai wneyd, sef syrthio yn ngwisg ei gefn i'r afon ac amser a ddengys a wnai yn y dyfodol yr hyn a benderfynai ei wnoyd. Yr oedd y profion yn gryf yn ei erbyn fod yr hyn a ddyg. wyddodd yn fwriadol. Dylid dywedyd hefyd i'r ddau ynad koli pobj y Stores am y papyrau a phethau ercill allasai fod yn ei logellau. Cafwyd amryw lythyron, a swm Feehan 0 arÎan -ffrwyth hunan-ymwadiad wythnos, o ddiwyd- rwydd glanhau esgidiau. Cymerodd Mr Rees a Mr Sisman ofal y papyrau a'r arian, hyd nes ceid gweled beth ddeuai o'r perchenog. Yr oedd y IIythyron yn wlyb drwyddynt, wrth reswm. Dywedodd Mr Rees y cymerai ef y llythyron adref i'w sychu dranoeth, ac i'w harchwilio, a'r hyn y cydsyniodd Mr Sisman, a chadwodd yntau yr arian. Ymwahanwyd dros y nos, wedi addaw cyfarfod yn y Stores prydnawQ dranoeth i weled yr anffodyn.

LLYTHYR LLUNDAIN, I