Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DAVIT) J. ROSSER, Undenominational Preacher of the Gospel, & Lay Member of Pontmorlais Chapel, Merthyr, is open to receive engagements for Special Mission Services. Preaching Meetings (Welsh or English), Illustrated Lectures on Popular Subjects, Lantern Mission Services, and Lantern Entertainments. Particulars as to Entertainments, Illustra- ted Lectures, and Lantern Mission Services, to be had on application. Information in regard to Special Mission Work and Preaching Serviees by private arrangement. Testimonials on application from Clergy and Ministers of all Denomin- ations. Printed Prospectus sent on receipt of two penny stamps. Address to D. J. Rosser, 109, High-street, Merthyr Tydfil.
CYFARFOD CHWARTEROL ANNIBYNWYR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD CHWARTEROL ANNI- BYNWYR LLEYN AC EIFIONYDD. Cynaliwyd yr uchod yn Pisgah, Llun a Mawrth, Medi lleg a'r 12fed. Cyfarfu y Gynadledd am 1.30 y dydd biaenaf—Mr Lewis Jones, y Cadeirydd am y flwyddyn, yn llyw- yddu. Darllenwyd a gweddiwyd gan Mr R. Roberts, Cricieth. Wedi cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaen- orol, penderfynwyd- Fod y cyfarfod nesaf, yn unol a gwaboddiad caredig eglwys Ponlan, Pwllheli, i'w gynal yno Rhagfyr 18fed a'r 19eg. Yn y cyfarfod yno ceir anerchiad y Cadeir- ydd ar derfyn blwyddyn ei wasanaeth. Dewisir yn y cyfarfod nesaf hefyd swyddogion at y flwyddyn ddilynol. Penodwyd ar y Llun, Uydref i'w dreulio yn ddydd diolcbgarwch i'r Arglwydd am y eynhaaaf. Pasiwyd fod adran o'r rheol yn nglyn a chadwraeth allweddau y safe i'w diddymn a fod yr allweddan o hvn allan i fod dan ofal Mri R. Roberts ac Isaac Morris, Pwllholi; ac yn mhellach, fod y Mri R. Roberts a W. Anthony, Pwllheli, i roddi adroddiad ar derfyn pob blwyddyn yn nglyn &'r gweithredoedd (deeds) fyddo yn nghadw yn y safe. Galwodd y Parch T. Jones, Tabor, sylw at y Cymdeithasau Cenadol Tramor a Chartrefol, gan anog ffyddlondeb i'r ddwy. Hysbysodd hefyd fod yn debygol y byddai y cenadwr enwog o Ganolbarth Aff'rica, y Parch D. Picton Jones, yn talu ymweliad cyn hir a'r Cyfundeb ar ran y Gymdeithas Dramor. Cadben Morris Jones, C.C., a alwodd sylw at y Gymdeithas Fenthyciol, gan gymhell gweith- garwch gyda'r mudiad teilwng yma. Anogwyd ar fod pob cynorthwy posibl yn cael pi estyn gan yr eglwysi i'r achos yn Nrws-y-coed, er llei- han y ddyled ar eu ca pel newydd prydfeith. Pasiwyd plidlais o ddiolohgarwch i Bwyllgor a Swyddogion Tyateb y Parch E. James, Nefyn. Am- lygwyd llawenydd am fod swm mor dda wedi ei gasgln, ae yn mhollacb, teimlid yn wir ddiolchgar i'r Arglwydd am yr arwyddion sydd o aiferiad cyn hir i'r brawd anwyl Mr James. Hefyd, datganwyd llawenydd a diolchgarwch mawr o weled y Parch W. W. Jones, gweinidog cymeradwy Pisgah, wedi ei adfer fel ag i allu ail-ymaflyd yn ei ddyledswyddau wedi misoedd o gystndd blin. Cyfeiriwyd mown modd tyner at gared- igrwydd yr eglwysi dan ei ofal tnag ato yn ystod ei waeledd. Pasiwyd fod llythyrau i'w hanfon i'r teulnoedd can- lynol :-Parch R. Lumley, Trefor; taaln y Cwm, Lianaelhaiarn a theulu y Felin, Madryn, er atnlygn cydymdeimlad y frawdoliaeth a. hwy yn ngwyneb colli ohonynt anwjliaid trwy oruehwyliaeth angea. Hysbyswyd y cynelir Cymanfa y Sir y flwyddyn nesaf yn Mhorthmadogf Mehefin 5ed a'r 6ed. Rhoddes Mr W. Anthony rybudd y byddai yn y cyfarfod nesaf yn galw sylw at Prysorfa'r Undeb, gyda'r amcan o'i huno a'r Gymdeithas Fenthyciol. Pasiwyd y penderfyniad canlynol:— Ein bod fel Cynadledd yn hollol anghyireradwyo gwaith Ty'r Arglwyddi yn tafla allan Fesnr Ymreol- aeth i'r Iworddon, yr hwn fesur oedd wedi ei gymer- adwyo mor llwyr gan y wlad a'n bod yn galw ar y blaid Ryddfrydol i ffnrfio mesnr a IIVyr ddiddyma allu y Ty uchod i sathru ar faro y wlad. Fod copi o'r ucbod i'w anfon i'r Prifweinidog, a'r ddau aelod dros y rhanbartb yma. Yn ddilynol cadwyd Cyfeillach Grefyddol- mater, Perthynas bywyd yr Eglwys a dylan- wad y Weinidogaeth ar y byd.' Arweiniwyd yn yr ymddyddan mewn modd hynod ddeheuig a nerthol gan Mr W. Evans, Bryncroes. Diolchwyd iddo yn wresog am ei wasanaeth. Siaradwyd yn hynod bwrpasol gan amryw o'r brodyr ar y mater pwysig ac amserol dan sylw. Teimlad unol y cynulliad ydoedd, mai da oedd bod yn bresenol. Hyderir yn fawr y ca y pwnc hwn sylw pellach holl eglwysi y Cyfun- deb. Pregethwyd nos Lun yn Pisgah a'r capelau cylchynol, a thrwy y dydd Mawrth yn Pisgah yn unig, gan y Parchn D. Griffith, Ehoslan T. Jones, Tabor; E. J-ones, Llanbedrog; T. Williams, Capel Helyg W. Evans, Bryncroes W. Ross Hughes, Borthygest; W.J.Nichol- son, ac H. Ivor Jones, Porthmadog. Yr oedd eneiniad hyfryd ar yr holl wasan- aeth daioni mawr fyddo yn dilyn yr oil. Der- byniwyd y cyfarfod mewn modd arbenig o garedig gan eglwys Pisgah. Swm cyfraniadau yr eglwysi at Drysorfa'r Undeb, £3 14s 6c. Casgliad dydd Mawrth, £2 Os 6c. H. IYQR JONES, Yag,
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DEAFNESS PEEMANENTLT CURKD.—A Gentleman who cured himself of Deafness and Noises in the Head, of many years' standing, by a new method, will be pleased to send full particulars, with copies of testi- monials, &c., for two stamps. The most snccessfuU treatment ever inroduced. Address:—HERBERT CLIFTON, 51, Upper Keuuington-lane London, S E.
ODDIAR YR EINGION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ODDIAR YR EINGION. MR GOL.Fe fu awydd, amryw weithiau, ynof i ddropio rhyw but o lythyr atoch, ond rywfodd yr oedd eich bwrdd mor llawn, o wythnos i wythnos, a'r TtSTyn dy fod allan mor llawn o bethau dyddorol, fel na fase dim alle Hen 0' anron yn ffit i 'mddangos; ond y mae rh'wbeth yn y mrocio i 'rwan fel nad alle undyn ar y ddaear 'y nhrwystro i i'w gynyg o i ch'i. Dene un peth y mae gen i achos i gwyno o'i blegid ydi, fod Llyfr Emynau yr Enwad mor hir yn ymddangos. Er pan y mae y mudiad ar droed i'w ddwy.n allan, y mae canoedd lawer o bunan wedi myn'd i goffrau cyhoeddwyr ddylasai fyned i dalu dyledion capeli, i gynorthwyo gweinidogion methedig, neu ryw achos teilwng arall perthynol i'r Enwad Annibynol. Gobeithio fod y Pwyllgor y rhoddwyd gofal ei ddwyn allan iddo yn gweithio, ac y ceir ei weled yn fuan. Beth pe baid yn dwad a'r geiriau yn unig allan yn gyntaf, mewn ffurf, beth bynag, y gellid ei werthu am Is, mewn Ilian cryf (ac nid rhyw bais fregys sy'n dyfod yn yfflon o'i gilydd cyn pen tris mis), ac wed'yn mewn pris- iau uwch fel bo'r gofyn, yn ol y rhwymiad. Hyd y clywais i, argraffu y tonau ar benau eu hunain fyddai y mwyaf hwylus hefyd; ond boed a fyno, barn y Pwyllgor raid sefyll. Ond, da ch'i, 'mrowch ati, ac allan a fo. Llawer sy' wedi ei 'sgwenu ar yr Home Rule ynte, nes y mae darUeuwyr pob papyr wedi llwyr laru arno; ond diolch i Ragluniaeth, y mae y glonc drosodd rwan, ac y mae y Gwy ddel, druan, wedi cael ernes o'i ryddid-waeth i'r cacwn Arglwyddi yna roid eu ffidil yn to na pheidio. Mi eis i i drio prydyddu y noson o'r blaen, pan weles i fod William Garegfalch wedi llwyddo i basio y Bil, a phan ddarllenes i nhw i Lowry 'ma, ar ol eu gorphen, ni ddydodd, Yn wir, mae rhwbeth yny nhw hefyd.' Be ddydiff darllenwrs y TYST am dani nhw, tybed? Yr ydw i yn cym'ryd mai meindio busnes ei hun ydyw ystyr Home Rule. Mae'r Sais, can's fo ydyw'r dyn, Wrth dywallt afonydd o waed, Yn eatbra pawb arall tan draed, Gan feindio ei fusnes ei hun.' Y Gwyddel, tylawd a dilnn, 'N ol ymladd a chyrhaedd dy ffawd, Pa linell gymeri i'th rawd ? 0,' meindio fy mnsnes fy hun.' Y Scotyn, na waeth genyt p'rnn, Os cei di dy logell yn liawn, Fe fyddai i tithaa'n beth iawn Cael meindio dy fasnes dy bnn.' • Y Cymro. waseiddiol ei lun, Wyt tithau am bara mor ddwl, Na fyni dy bawl gan John Bwl 0 feindio dy faanes dy hun' P Mae'r gwledydd, yn nn a chytun, Yn tystio mai anwyl o beth F'ai byw o grafangau pob treth, A meindio ei bnsnes ei bon. Y mae gen i ar y meddwl, hefyd, er's talwm iawn rwan, y byddai yn grand o beth i ch'i roid haner colofn bob yn ail wythnos i 'Emynau Newyddion,' a chymhell y beirdd i anfon y rhai goreu fedrant wneyd iddi. Rhyfedd mor ychydig mae'r awen ddiweddar yn ymwneyd ag Emynyddiaeth Ar ol dyddiau Maesyplwm, y mae'r beirdd yn ymddwyn fel pe byddai gwneyd emyn yn bechod! Mewn maes mor fendigedig, mi greda i y caem gnwd toreithiog o emymau newyddion tan gamp, yn lie ein bod yn gorfod byw ar yr hen o hyd, a llawer o'r rhai hyny yn rhai pur symol, ond eu hystyried yn ddifrifol. Wel, rwan, dyna fi wedi cael y baich oddar y meddwl, a gobeithio na fydd y darllenwrs ddim yn scowlio ya arw mod i wedi'u cadw nhw c'yd. 0'.
CYFUNDEB GORLLEWINOL MORGANWG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFUNDEB GORLLEWINOL MORGANWG. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Rhydyfro, nos Lun a dydd Mawrth, Medi lleg a'r 12fed. Pregethwyd y noson gyntaf gan y Mri Davies, Wern, Ystalyfera, a Rees, Alltwen. Boreu ddydd Mawrth, cymer- wyd cadair lywyddol y Gynadledd gan y Parch J. Jones, Llangiwc, cyn-weinidog yr eglwys, a phenderfynwyd Fod y cyfarfod nesaf i fod yn nghapel Seion, Aber- tawe, Mr Thomae, Brynaman, i lywyddn y Gynadledd yno, ac i ddarllen papyr ar Bertbynas Cristionogaeth 4 Chyfalaf a Llafar j' a Mr Davies, Glais, i brngetbu ar Rwymedigaeth aelodaeth eglwysig.' Ein bod yn mawr lawenhan fod Ty y Cyffredin wedi pabio Mesur o Ymreolaeth i'r Iwerddon, ar ol hir a dwys ystyriaetb ond gofidiwn yn fawr oherwydd ym- ddygiad brysiog Ty yr Arglwyddi yn taflu allan gyda y fath fwyafrif y mesur eyfiawn hwn. Gofidiwn hefyd i ganfod mai i wrthwynebu iawnderau y bobl, ac nid i wrthsefyll anfoesoldeb a tbrais y gellir sicrhau presen- oldeb mwyafrif mawr y Ty hwn-Ty nad yw gyfrifol i neb am ei weithrediadau, a chredwn fod yr amser wedi d'od i'w ddiwygio, nea ei ddifodi. Ein bod yn dymnno cyflwyno ein diolchgarwch i'r aelodau Cymreig am eu bymdrechion i gael y pwnc hollbwysig o Ddadgysylltiad Eglwys Loegr yn Nghymra ger bron y Senedd, ae yn mawr obeithio y llwyddant i gyrhaedd eu hamcan ar ddochreu y Senedd-dymhor nesaf. Caniatawyd llythyr gollyngdod i'r Parch J. Gwrhyd Lewis, gyda dymuno yn galonog am ei lwyddiant yn maes newydd ei lafur yn l'on- yrefail. Cyflwynwyd Mr D. Jenkins, Alltwen, i sylw y Gynadledd, fel pregethwr ieuanc addawol iawn. Pregethwyd hefyd yn nghyfarfod y.boreu gan Mr Griffiths, Pentre Estyll, ac yn y cyfar- fodydd dilynol gan y Mri Davies, Cadle Stephens, Brynteg (ar y pwnc, a chafwyd preg- cth ragorol, a diolchwyd yn gynes iddo am dani); Davies, Carmel, Clydach Thomas, Brynaman; a Jones. Ty'nycoed. Cafwyd cyf- arfodydd bendithlawn, a chroesaw holaeth i'r dyeithriaid. J. T. DAVIES, Ysg.
ABERTAWE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERTAWE. Juldli.- Yr oedd eglwys Ebenezer wedi talu y ddyled oedd yn aros ar y capel rai misoedd yn ol, a chynaliwyd cyfarfodydd jubili yn nglyn a hyny nos Sadwrn, y Sal, a nos Lun, Medi 16eg, 17eg, a'r 18fed. Pregethwyd gan Dr E. Herber Evans, Caernarfon Parchn B. Davies, Treleeb a H. Elvet Lewis, Llanelli. Cafwyd cyfarfodydd a hir gofir. Yn sicr, ni welwyd y fath gynulleidfaoedd yn Ebenezer erioed o'r bIaeD. Yr oedd y capel a'r ysgoldy yn orlawn haner awr cyn amser dechreu yr oedfaon, ac ugeiniau lawer yn gorfod dychwelyd oherwydd methu cael lie o gwbl. Nid yw yr eglwys wedi bod yn hollol ddiwaitb, nae yn gwbl aflwyddianus yn ystod y saith mlynedd diweddaf. Y mae wedi cynyddu cryn lawer yn rhif ei hael- odau, ac y mae swm ei chasgliadau at wahanol achosion dros £ 5,500. Angladd.-Y mae yr eglwys uchod wedi colli un o'i baelodau ffyddlonaf, a lluaws ereill wedi colli un o'r cymydogion hynawsaf a mwyaf caredig, yn marwolaeth Mrs Charles Davies, Calvert-terrace, yr hyn a gymerodd le boreu ddydd Sadwrn, Medi 16eg. Chwith iawn oedd gweled ei lie hi a'i phriod yn wag yn nghyfarfodydd y jubiIi-dau ag y mae eu ffyddlondeb i'r achos wedi bod mor a-nlwg ar hyd y blynyddoedd. Ymddengys mai y Sul oedd ei anwyl briod yn gorwedd yn farw yn y ty, yw yr unig Sul y mae lie Mr Charles Davies wedi bod yn wag yn y capel er's degau o flynyddau. Amlygwyd y cydymdeimlad dyfnaf ag ef, a'r parch II wyraf i'r y mada wedig gan y dorf fawr a ddaeth yn nghyd er dilyn ei gweddillion i'r cemetery y dydd Mercher canlynol. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parcbn W. James, F. Samuel, J. Mathews, J. Phillips, ac E. Jenkins. Gwelsom heblaw a enwyd, y Parchn S. Higman, J. Gomer Lewis (B), D. Williams (B), Henadur R. Martin, Y.H, Cynghorwr J. Griffiths, a lluaws ereill o wyr pavchusaf y dref. Heddwch i'w llwcb, a rhodder i'n tref luaws o rai cylfelyb iddi o ran ysbryd a chymeriad. COFNODYDD.