Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 LANAU'R OGWY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 LANAU'R OGWY. Y mae y cythrwfl masnachol wedi marw, ond fod lluaws o'r cyfryw ymdrechasant estyn ymborth iddo yn dyoddef dan effeithiau gwenwynol l'hwyg- iadau neu frathiadau atdaliadcl, ac anwybyddiad y ddiareb ddoeth, fod pwyll yn well nag aur. Mae chwyrnelliad y peirianau wedi tori ar y dystaw- rwydd ordoai y cymoedd, gan adsgin bywyd eto mewn amrywiol agweddau. Mae Annibynwyr rhan uchaf y cwm yn feichiog o welliantau-lluaws o bethau pwysig i'w hy- chwanegu er gwneyd teml yr Arglwydd yn fwy atdyniadol. Dyeitbr oedd gweled yn ddiweddar ysbiiwyr o ddinas Bethel yn cyfeirio eu camrau i edrych maintioli a ffurfiau rhagoriaethau tref fechan Bethania mewn trefn i efelychu. Cymer y Gymanfa Bynciol holl sylw ysgolion y cylch yn bresenol, yr hon gynelir Llun Mabon nesaf. Yr arholiadau cysylltiedig a. hi, yn ol pob tebyg, i'w terfynu, er ymuno a chymeryd i fyny feusydd llafur Undeb y Sir o hyn allan. Bu y Parchn Richards, Tonypandy, ac Evans, Brynmawr, yn efengylu yn effeithiol yn Bryn- menyn. Ffrwythed yr bad da ar ei ganfed ya nghylch gweinidogaethol y diwyd Eynon, yr hwa yn ddiweddar ychwanegodd yn fawr at ei ddoeth- ineb cynhenid mewn tro call eto. Adsiin can a thinciadau melodus glywir o Peniel-cantawd i'w berfformio yn fuan dan arweinyddiaeth y galluog a'r gwreiddiol W. Williams. Y Parch J. Williams, Hafod, a wasanaethai yn nghyrddau haner-blynyddol Tynewydd—gwein- idogaeth anarferol afaelgar, ac oedfaon i'w cofio mewn llawer ystyr. Mae y gweinidog ar gyr- haedd rhif perffaith yn mlwyddi ei sefydliad yno. Bri mawr sydd ar adeiladu yn y cwm yn bre- senol, a dysgwyliad pryderus am ail-gychwynia I glofa yr Aber, gyda'r rhan ataliwyd o lofa yr Ocean wedi y streic. Gair da geir i'r Gymanfa Bwnc Adranol gynal- iwyd yn ddiweddar yn y Coity. CRWYDRYN.

Advertising

EISTEDDFOD CHICAGO.