Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 LANAU'R OGWY.

Advertising

EISTEDDFOD CHICAGO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

D. Gordon Tbomas; Solo Harpist, Madame Josephine ChattertoD. Canwyd yr unawdau, deuawdan, a'r corawdau yn gampus ac yr oedd cerddoriaeth offerynol y Chicago Band of Harps a'r Exposition Orchestra yn foddhaol iawn. DYDD IAU, MEDI 7FED. Am 11 o'r gloch, ffurfiwyd gorymdaith eistedd- fodol, yn cael ei blaenori gan seindorf bres, ac aed trwy rai o rodfeydd y Ffair hyd at yr Orsedd. Yr oedd y Prif-fardd Hwfa Mon a llu o Dderwyddon, Ofyddion, a Beirdd yn bresenol yn eu gwisgoedd swyddogol. Agorwyd yr Orsedd yn y dull arferol. Caed anerchiad gwresog gan Hwfa, anerchiadau barddonol, &c. Caed anerchiadau gan Pencerdd Gwalia a Mr W. Cadwaladr Davies-y diweddaf yn egluro Siarter y Brifysgol. Ar gynygiad Cynonfardd, ac eiliad Mr D. V. Samuel, pasiwyd y penderfyniad canIynol That the Welsh people of America, assembled at the International Eisteddfod at Chicago, desire to express their gratitude to the Prime Minister and Government of Great Britain for conceding the demand of the Welsh people for a National University, and they also congratulate the people of the Fatherland on the promised ful- filment of their aspiration in connection with education.' CYFARFOD YR EISTEDDFOD. Dechreuwyd y cyfarfod yn y Festival Hall am un o'r gloch. Llywydd, Dr William C. Roberts, o New York, Arweinwyr, H. M. Edwards a Cynon- fardd. Bardd yr Eisteddfod, Hwfa Mon. Canwyd ein yr Eisteddfod, 'Hen Wlady Menyg Gwynion,' gan Proff. Harry E. Jones, a chafwyd anerchiad rhagorol gan y llywydd. Beirniadaeth Dr W. C. Roberts a'r Anrh. Thomas L. James ar y traethawd, Welshmen as Civil, Political, and Moral Factors in the Forma- tion and Development of the United States Republic,' gwobr 300 o ddoleri, a buggy hardd gwerth 300 o ddoleri. Y goreu o ddau draethawd, eiddo y Parch Ebenezer Lewis (B), Miners Mills, Pa., yr hwn a arwisgwyd gaa Mrs Job, Pullman. Yn ol beirniadaeth Proff. John Rhys a'r Anrh. Ellis H. Roberts, nid oedd yr unig gyfan. soddiad ar Keltic Contributions to England's Fame and Power,' yn deilwng o'r wobr o 300 o ddoleri. Yn ol beirnindaeth Dr D. J. J. Mason a Dr J. H. Gower, nid oedd 'Philamon,' yr unig ymgeis- ydd, yn deilwng o'r wobr o 150 o ddoleri a gyn- ygiwyd am gyfansoddiad cerddorol (cantawd). Beirniadaeth ar y cyfieithiad i'r Gymraeg, Locksley Hall' (Tennyson), gwobr 30 o ddoleri, rhodd y Western Eisteddfod. Beirniaid, Dr Parker Morgan, New York, a Proff. D. Rowlands (Dewi Mon). Goreu o bedwar cyfieithiad, eiddo Mr Hugh Edwards (Huwco Penmaen), Rhyl. Awdl y gadair, Iesu o Nazareth,' gwobr 500 o ddoleri a Chadair Dderw yr Ksteddfod Gydgenedl- aetbol a Bathodyn Aur—y 500 dolar yn cael eu rhoddi gan nifer o Gymry cenedlgarol Philadel- phia, Pensyifania. Beirniaid, Hwfa Mon, Dafydd Morganwg, a G. H. Humphrey. Yr awdl oreu o bump oedd eiddo Dyfed; a'r ail oreu yr un a ddygai y ffugenw Y Cyreniad.' Dygwyd defod y cadeir- io yn mlaen gyda rhwysg anghjffredin dan ar- weiniad Hwfa Mon. I ddechreu caed cydgan, I Ymdaith Gwyr Harlecb,' dan arweiniad Ap- madog; araeth gan Hwfa Mon yn llawn tan deuawd ar y delyn gan Pencerdd Gwalia a Madame J. Chatterton; galwad udgoru, a ffurtio cylch y beirdd, yr ofyddion, a'r cerddorion a chan, I Cvynfai3 Prydain,' gan Mrs Mary Davies. Dar- llenodd Hwfa Mon ei feirniadaeth, yn rhoddi ar ddeall nad oedd yr un o'r pump awdl o deilyngdod uchel, ond yr oreu oedd eiddo I Laz-.irus,' yr hwn a gododd ar ei draed yn nghanol y dorf yn mherson y Parch E. Rees (Dyfed), Caerdydd. Aeth Cynon- fardd a Rhisiart Ddu i'w arwain o'i eisteddle, Wedi cyrhnedd y gadair rboed ef i eistedd ynddi. Arwisgwyd ef gan Mrs Mary Davies a'r wobr o 500 dolar a'r bathodyn aur. Dadweiniwyd y cledd, ac wedi gwaeddi dair gwaith, A oes heddwch ?' a chael ateb cryfach bob tro, cyhoedd- wyd ef yn fardd cadeiriol Eisteddfod Golumbaidd Gydgenedlaethol y Byd, ac yn fardd Cymreig anrhydeddusaf yr oes. Anerchwyd y bardd gan Cynonfardd, Ifor Cynidr Parry, Athrywyn, W. W. Rowlands, Cambria, Moriog, Thalamus, DewiGlan Dulas, Dafydd o Went, Glan Ebwy, Parch J. Vinson Stephen, Gwilym Deudraetb, Tegfelyn, Ednyfed, Philo, Ffrwdwyllt, Dewi Ogle, Cilcenin, leuan Fardd, ac Edno. Beirniadaeth y gân, I Celf,' gwobr 25 dolar pedwar ymgeisydd, goreu Thalamus, ae arwlsgwyd ef gan Mrs Griffiths, Chicago. Mvfyrdraetb, Y Bardd ar Farddouiaetb j' gwobr 25 dolar, rhodd Mr Griffith Jone." Llundaiaj goreu eiddo Mr W. Evans (Artro), Dolgellau, Cafwyd Cyngerdd dan lywyddiaeth yr Anrhyd, John Jarret, Pittsburg. Arweinydd, H. M. Edwards. I ddechreu cafwyd cystadleuaeth ar- dderchog rhwng corau merched, ddim dan 40 na thros 50 o rif, ar ganu (a) The L-rd is my Shepherd,' (b) f The Spanish Gipsy GirL' Prif wobr, 300 o ddoleri; ail 160 dolar, a Thlysau Aur i'r arweinesau. Beirniaid, Pencerdd Gwalia, Dr Gower, a W. Courtney. Eaillwyd y wobr gyntaf gan Gor Caerdydd, dan arweiniad Mrs Clara Novello Davies a'r ail wobr gan The Cecilians,' o Wilkesbarre, Pensylfania, dan arweiniad Miss Annie Phillips (Eos Tydfil), gynt o Merthyr Tydfil. Arwisgwyd Mrs Davies gan W. Cad- waladr, a Miss Phillips gan Dr Mason. DYDD GWENER, MEDI 8FED. Y CYMRODORION. Am 11 o'r gloch, cynaliwyd cynadledd Gyd- genedlaethol y Cymrodorion, o dan lywyddiaeth y Parch W. T. Lewis, D.D., St Louis. Canodd W. L. Hughes 'Hen wlad fy nhadali.' Anerchiad gan y llywydd. Darllenodd y Parch W. C- Roberts, D.D bapyr ar The Origin, Customs, and Charac- teristics of the Welsh/ yr hwn a dderbyniodd gymeradwyaeth mawr. Gwnaed sylwadau arno gan Cynonfardd a W. D. Davies, Sydney, Ohio a phasiwyd yn unfrydol ddymuniad ar i'r Cymro- dorion argraffu y papyr yn mhrif gyhoeddiadau wlad. CYFARFOD Y PRYDNAWN. Llywydd, R. T. Morgan, Osbkosh, Wisconsin. Arweinyddion, Ednyfed a H. M. Edwards. Can- wyd Can yr Eisteddfod, Bedd yn Nghymru,' gan D. Gordon Lewis (er cof am yr awdwr, R. S. Hughes) gyda theimlad dwys yna, wedi anerch- iad byr gan y llywydd, darllenodd Apmadog feirniadaeth Proff O. M. Edwards a'r Parch J. Rbys Morgan, D.D. (Lleurwg), ar y I Llawlyfr (Cymraegr neu Saesoneg) Byrfywgraffyddol o'r Beirdd Cymreig a'u Barddoniaeth, o W. Lleyn (1560) hyd at Gwilym Hiraethog.' Gwobr 100 do[ar; a lot yn Mitchell, South Dakota, gwerth 200 dolar. Charles Ashton, Dinas Mawddwy, ya wir deilwng. Beirniadaeth y Prt ff D. Rowlands, B.A. (Dewi Mon) a Dr D. Parker Morgan, ar y cyfieithiad i'r Saesoneg o I Gwenhwyfar' (Llew Llwyfo). Gwobr 100 dolar (50 gan yPwyllgor, a 50 gan y Cambrian Society, Washington, D.C.) Goreu o ddau, Parch Erasmus W. Jones, Utica. Cystadleuaeth Unawd Soprano, '0 Loving Heart;' gwobr 25 dolar. Canodd Misses Lizzie Hills, Beatrice Howells, May Johu, Beatrice Dainkwater, Annie Jenkins, a May Jenkins. Miss May John, Pentre, Rhondda, yn oreu ac arwisg- wyd hi gan D. C. Harries. Beirniadaeth Henry M. Edwards a Dewi Mon ar Operatic Liberetto (Owain Glyndwr) gwobr 100 dolar gan Gymry South Chicago. Un ymgeisydd, ac yn wir deilwng o'r wobr, sef Mr D. R. Williams (Index), Braddock?, Pensylfania. Beirniadaeth yr Arwrgerdd, George Washing- ton,' heb fod dros 3.000 o linellau. Gwobr Coron Arian, rhodd Cymrodorion Denver, a 200 dolar. Dau ymgeisydd, ond heb fod o deilyngdod uchel goreu, Watcyn Wyn, Amanford, yr hwn a gafodd y Goron a baner y wobr. Cynrychiolwyd ef gan Cynonfardd, yr hwn a arweiniwyd i'r llwyfan gan Dyfed a Rhisiart Ddu. Rhoddwyd y goron ar ei ben gan Mrs M. A. Ellis, Denver, a'r arian iddo gan Miss Lizzie Evans, Denver. Gwaeddai Hwfa A oes heddweb ?' deirgwaith, ac atebai y dorf Oes nes oedd yr adeilad yn crynu bron. Cân, Dyffryn Clwyd,' gan Miss Jennie Alltwen Bell. Nid oedd neb yn deilwng o'r wobr o 100 dolar am yr 'Historical Handbook of the most Noted Eisteddfodau,' yn ol beirniadaeth Proff O. M. Edwards a'r Parch H. Elfed Lewis, M.A. (yr hon dderbyniwyd ar ol gweithrediadau dydd Mawrth). Derbyniwyd pump o gywyddau, f Ardderchog Lu y Merthyri,' gwobr 50 dolar, yr oil o ba rai oeddynt yn anheilwng. Nid oedd yr alareb Seisonig ar ol y diweddar Barch D. Williams, Chicago, ychwaith yn werth yr 50 dolar. Anerchiad-yn wir anerchiad yr Eisteddfod- gaa y Parch Jenkin Lloyd Jones, Chicago. Y Brif Gystadleuaeth Gorawl—I gorau cymysg o 200 i 250 o aelodau (a) Worthy is the Lamb (b) Blessed are the men that fear him (r) 'Now the impestuous torrents rise,' Gwobrau 5000 a 1000 o ddoleri. Beirniaid, W. L. Tomlins, John Thomas, a Dr J. H. Gower. Canodd y corau canlynol-Cymrcdorion, Scranton, dan arweiniad D. Protheroe Cor Salt Lake City, E. Stephens Choral Union, Scranton, Haydn EvansjaChor Western Reserve, Ohio, J. Powell Jones. Yr oedd y dyddordeb mwyaf yn cael ei deimlo yn y gys- tadleuaeth hon, a derbyniodd pob c6r gymeradwy- aeth fawr ar derfyn eu datganiad. Yr oedd y Neuadd yn orlawn, dros 7000 o bobl yn bresenol. Parhaodd y gystadleuaeth am dros ddwy awr. Y GYNGERDD AM WYTH OR GLOCH. Llywydd, Parch W. C. Roberts, D. D.; arweinydd, Cynonfardd. Yr oedd y neuadd yn orlawn, a'r dyddordeb yn fawr. Aed drwy y rhaglen ganlyn- ol:—Can, Harrry E. Jones. Can, My Queen,' Ben Davies. Unawd ar y delyn, Madame Chatter- ton. 0-10, The banks of Allan Waters,' Mrs Mary DaAies eto, 'Wytti'n cofio'r lloer yn codl?' Can, W. Courtney. Anerchiad gan y llywydd. Cydgan, 'Twr Babel,' dan arweiuiad Apmadog. Cydgan, Clychau Aberdyfi,' gan Gor Merched Caerdydd, dan arweiciid Mrs Clara N. Davies. Encoriwyd pawb, a gorfu i'r olaf ail a thrydydd ganu. Yr adeg hon daeth Mis Potter Palmer i fewn, a chyfiwynwyd hi i'r dorf gan y Parch Jenkin Lloyd Jones. Cafodd dderbyniad mawreddog rhoes anerchiad byr,ac yua eisteddodd yn nghadair y llywydd. Cynonfardd a gyfiwynodd i sylw y cerddorion, Dr G. F. Root a Mr W. S. B. Mathews, a chawsant dderbyniad brwdfrydig. Can, 0 Don Fatala,' M's. Grace E. Taylor (Grace Jones Lyrt) unawd ar y delyn, 'Echoes of a Waterfall,' Pencerdd Gwalia, a bu raid iddo ail chwareu; deuawd 'Sereneta,' Mrs. Mary Davies a Mr. Ben Davies gydag encor I H-ille- lujah Chorus' o dan arweiniad y bydenwog Car- adog, yn fawreddog dros ben. Yna cododd Dr. Gower i roddi y feirniadaeth ar y brif gystadleuaeth gorawl. Ni ystyriai y cana i fyny a'r hyn a ddysgwylid, am v fath* wobr ac nid oedd y daman a ganwyd y darnau goreu a mwyaf priodol at y fath gystadleuaeth. Ar ol rhai sylwadau dyfarnodd y Scranton Choral Union, arweinydd, Haydn Evaup, ynoreu, a Chor Dinas y Llyn Halen ya ail. Yr oedd brwdfrydedd ang- erddol yno na welsom ei fath erioed, a thynodd hyn yr wyl i derfyniad anrhydeddus, llwyddianus, a mawreddog iawn. Deallwn i Dan Protheroe. arweinydd y Cymrodorion o Scranton, lawnodi protest yn erbyn y dyfarniad.- Y Drych.