Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

AMDDIFFYNWYR DIWERTH Y FASNACH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AMDDIFFYNWYR DIWERTH Y FASNACH FEDDWOL. YN ei Mesur Trwyddedol newydd, gwna y Weinyddiaeth bresenol ymgais wrol i leihau drygEdd y fasnacb feddwo). Ni cheisia ei dileu, ond amcana gwtogi gryn lawer arni drwy leihau nifer y tafarnai, a'u dwyn dan reolaeth lwyrach. Gwaeddai y bobl er's blynyddoedd am hyn, oblegid teimlid fod y drwg a wneid gan y fasnach yn annesgrif- iadwy fawr. Yn wir, credai y rhai a wyl- ient gwrs pethau gyd& manylder fod seiliau cymdeithas yn y deyrnas mewn pervgl, a phob cynyg i ddyrchafu dynion o dan anfantais fawr i lwydd oblegid rhwysg a rhaib y fasnach hon. Gwyddai y Weinydd- iaetb wrth barotoi y Mesur y cyfarfyddai a gwrthwynebiad penderfynol iawn wrth geisio ei basio. Gwyddai mai hyny fu tynged pob ymgais flaenorol a wnaed, yn enwedig gan y blaid Ryddfrydol. Ni freuddwydiai am ddim gwahanol, ac nid heb gyfrif y draul yn liawn y cydiodd yn y gwaith. Y mae bellach rai wythnosau wedi pasio oddiar pan ddarllenwyd y Mesur y tro cyntaf yn y Ty Isaf, ac yr eglurwyd ei ddarbodion gan Mr ASQUITH. Erbyn hyn gwelir fod y dysgwyliad am wrthwynebiad i gael ei sylweddoli yn Hawn. Y mae'r ystorm wedi tori yn ei nerth mwyaf, a gwelir bragwyr, tafarnwyr, yfwyr, Ceidwad- wyr, ac Eglwyswyr yn uno yn galonog i wneyd yr oil a allont i atal y gwaith da hwn i gael ei gyflawni. Dywedir fod y swm o gan' mil o bunau i gael eu gwario i gario y cadymgyrch yn erbyn y Mesur yn mlaen. Dywedir ac ysgrifenir y pethau mwyaf eithafol o anwireddus, a gwneir yr oil yn enw eyfiawnder a chwareu teg. Alaethus dros ben yw yr olygfa; ac oni buasai fod y Weinyddiaeth wedi rhagweled y rhan fwyaf, ac wedi cyfrif arno yn mlaen Haw, naturiol fuasai iddi frawyebu a digaloni. Felly y gwnaeth gweinyddiaethau blaenorol, gan adael pleidwyr y fasnach yn fuddugoliaethus ar y maes. Yn ffodus, nid oes un arwydd fod y Weinyddiaeth bresenol yn rhoi mymryn o ffordd, ond yn hytrach y mae pob argoel eu bod yn gwbl benderfynol i orphen y gwaith da, ac felly ddwyn oddi- amgylch gyfnewidiad y mae mawr angen am dano. Deffry pleidwyr sobrwydd a daioni yn mhob rhan o'r deyrnas i gryfhau ei breichiau yn y gwaith, a theimlir erbyn hyn bob hyder y bydd y Mesur yn ddeddf y wlad cyn diwedd y flwyddyn hon. Ychydig o werth sydd mewn gwrthwyneb- iad, os na fydd yn codi o argyhoeddiad cydwybodol; ac. yn sicr, ychydig iawn o'r gwrthwynebiad i'r Mesur Trwyddedol sydd felly. Gwrthwyneba y bragwyr a'r tafarn- wyr am y byddai eu cyfleusdra hwy i wneyd elw yn cael ei leihau. Y mae genym syniad mor uchel am lawer ohonynt, fel na phetrus- wn ysgrifenu eu bod yn y gwaelod yn cywil- yddio o'u masnach ac wfft iddi fel moddion cynaliaeth i neb! Ood y mae'r elw, yn enwedig i'r bragwyr, mor fawr ac mor felus, fl nas gallant edrych yn mlaen tuag at unrhyw gyfnewidiad ynddo ond gyda chwerwder. O'r braidd y gall neb o'r brag- wyr honi y cymerai y lleihad a gynygir foddion eu cynaliaeth o'u dwylaw y mwyaf allant honi gydag unrhyw gywirdeb yw lleihad, i ryw raddau, yr elw mawr y maent wedi arfer wneyd. Ac am bedair blynedd ar ddeg 0 amser trefnir dan y Mesur iddynt gael iawn am hyny Ac eto soniant am y Weinydd- iaeth a'r rhai a'i pleidiant yn hyn fel lladron ac ysbeilwyr digywilydd Pa gydwybodol- rwydd all fod y tncefn i wrthwynebiad o'r fath yna ? Cwestiwn yr elw sydd y tucefn, ac nid unrhyw argyhoeddiad. Pe siaradent yn onest, eu hiaith fyddai, Gadewch i ni gael ein helw fel arfer, ac eled buddianau y deyrnas lie yr elont!' Pa weith sydd mewn gwrthwynebiad o'r fath yna ? Gwrthwyneba yfwyr am nad ydynt yn chwenych gweled y cyfleusderau i foddhau blys yn cael eu lleihau. Dalla blys hwynt i'w buddianau eu hunain. Gwyddanteu bod yn derbyn pob math o niweidiau drwy yfed, i'w cyrff, i'w teuluoedd, i'w hamgylchiadau, &c., a'u bod yn lladd pob teimladaeth foesol a berthyn i'w natur wrth barhau yr arferiad, ond y fath yw yr afael sydd gan ddiod fedd- wol arnynt, fel na fynant gefnogi unrhyw ymdrech i sicrhau ymwared iddynt eu hun- ain. Taflant i ffwrdd gyda diystyrwch bob ymsyniad am foesoldeb a chrefyddolder y deyrnas. Diod, diod, a geisiant hwy, ac am hyny, gwrtbwynebant bob ymgais i reol- eiddio y fasnach. Ond pa werth sydd mewn gwrthwynebiad felly? Ynfyd iawn fyddai y Weinyddiaeth pe gwrandawai ar lais pobl felly, a thrueni mawr fod yn meddiant y fath bob! lais i'w roi ary mater o gwbl. Gwrthwyneba CpAdivadwyr er mwyn budd- ianau plaid. Gweinyddiaeth Ryddfrydol sydd wedi dwyn y Mesur i fewn, ac oblegid hyny, rhaid ei wrthwynebu. Cydnabyddant fod drygedd y Fasnach yn fawr, Cydna- byddodd BALFOUR a'i Weinyddiaeth hyny pan mewn awdurdod, a gosodasant hwy ar ddeddflyfr y deyrnas ddeddf a gynwysai amryw o ddarbodion da, mor bell ag yr iient, ond fod ynddi ereill hefyd yn ffafrio y brag- wyr a'r tafarnwyr yn ormodol o lawer. Gwnant, cydnabyddant hwy yr angen am wneyd rhywbeth, ond am mai Gweinydd- iaeth Ryddfrydol sydd yn symud, rhaid gwneyd pobpeth i geisio ei rhwystro. Ed- rychant bob amser ar fragwyr a thafarnwyr fel rhan o'u plaid hwynt, bob amser yn eu cefnogi, ac felly yn ddiau y maent; gydag eithriadau rhagorol yma a thraw. Oblegid hyny, teimlant fod buddianau eu plaid yn eu gorfodi i waeddi yn erbyn y Mesur hwn. Cwestiwn o bleidleisiau ydyw ganddynt, ac ymfoddlonant i droi buddianau y deyrnas o'r neilldu er mwyn dyogelu buddianau eu plaid. Pa gydwybodolrwydd all fod mewn peth felly ? Pa werth all fod mewn gwrthwyneb- iad o'r fath ? Yn wir, credwn fod llawer ohonynt yn gweithredu yn hyn yn gwbl groes i'w. hargyhoeddiadau mwyaf clir a'u teimladau goreu. Dyna wrthwynebydd Mr WINSTON CHURCHILL yn Manchester—Mr JOYNSON HICKS. Y mae yn ddirwestwr ar hyd y blynyddoedd; a phan eisteddai Dir- prwyaeth PEEL ar gwestiwn y Fasnach, yr oedd yn un a alwyd i roi tystiolaeth, Myn- egodd ei farn yn eglur y pryd hwnw y byddai lleihad yn nifer y tafa ndai yn debyg o gael yr effaith o leihau y my fed a meddw- dod. Datganodd o blaid tithe limit i ia-wn, Uai o flynyddau nag a gynygir yn y Mesur presenol. Ac eto, gwrthwyneba y Mesur presenol. Paham ? Er mwyn sicrhau pleidleisiau taf- arnwyr yn y frwydr ddiwedd; f Pa gydwy- bodolrwydd all fod mewn peth felly Yr oedd cydwybod y dyn yn y dystiolaeth a roddodd ger bron y Ddirprwyaeth grybwyll- iedig yn ddiddadl. Trueni fod dynion yn gallu chwareu a phefchau yn perthyn mor hanfodol i les uchaf y deyrnas ie, trueni mawr fod ymlyniad wrth unrhyw blaid yn gorfodi dynion i wneyd mor fach ohonynt eu hunain. Yn pertbyn i'r un dosbarth, fel y mae gwaethaf y modd, ac yn cael eu llywodr- aethu gan yr un peth, y mae tyrfa fawr o Eglwyswyr. Da iawn genym y gallwn ys- grifenu fod llawer o eithriadau rhagorol o'r fainc esgobol i lawr. Gesyd y rhai hyn fudd- ianau y deyrnas a lies y werin am y tro o flaen buddianau y blaid wleidyddol y perth- ynant iddi, a chydweithredant agYmneill- duwyr Rhyddfrydol i gefnogi y Mesur, ac i hawlio iddo gael ei basio. Oanmolwn hwynt yn fawr, a gwerthfawrogwn y cymhorth a roddant. Ie, cydnabyddwn YI) rhwydd y bydd y gefnogaeth a roddant yn gryfder mawr pan a'r Mesur i Dy yr Arglwyddi. Ond wedi dyweyd hyn, rhaid i ni eto ddy- weyd fod corff maw rJEglwyswyr y deyrnas yn 4 parhau yn wrthwynebwyr i'r Mesur, o leiaf yn ymgadw heb ei gefnogi. Paham ? Am mai Gweinyddiaeth Ryddfrydol sydd yn symud. Teyrngarwch i Geidwadaeth sydd yn eu llywodraethu. Gofynwn eto, Pa gyd- wybodolrwydd na gwerth sydd mewn gwrth- wynebiad o'r fath ? Y gwir yw, fod y rhan fwyaf o'r gwrth- wynebiad i'r Mesur yn gwbl ddiwerth, am ei fod yn amddifad o'r nerth a rydd argyhoedd- iad cryf a chlir mewn unrhyw symudiad. Nid oes genym yn mhellach ond gofyn, A feiddia Ty yr Arglwyddi, tybed, wrthod pasio y Mesur hwn ? A feiddia efe gymeryd sylw o wrthwynebiad o'r fath yma ? Er iseled yw ein syniad am onestrwydd y Ty rhyfedd hwnw, ac er mor afresymol y mae wedi ymddwyn yn y gorphenol ar wabanol adegau, anhawdd iawn genym gredu y bydd yn euog o wneyd hyn. Yr ydym yn cyfeirio at Dy yr Arglwyddi, oblegid ein bod yn credu y pasia'r Mesur drwy y Ty arall gyda mwy- afrif mawr. Beth bynag wna y Gwyddelod I ansefydlog sydd yno, bydd cynrychiolwyr Llafur fel un gwr o blaid y Weinyddiaeth, a bydd hyny yn dyogelu na fetha'r Mesur ddim yn y Ty Isaf, beth bynag. Yr hyn sydd yn angenrbeidiol yw i gefn- ogwyr y Llywodraeth ddyfalbarhau yn eu cefnogaeth. Y mae llawer iawn o waith ardderchog yn cael ei wneyd, ac y mae'r lltf" eiriant a gychwynwyd gan gefnogwyr y fasnach eisoes wedi ei droi. Ni ddylai un- rhyw ardal na thief ymfoddloni heb wneyd rhywbeth i gynorthwyo y Llywodraeth yn yr ymdrech hollbwysig hon.

CLADDEDIGAETH Y PARCH T. RHONDDA…