Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

\ WHITLAND.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WHITLAND. Y Groglith.—Bu deiliaid Ysgolion Sul y Tabernacl a Soar yn yfed te gyda'u gilydd yn festri y Tabernacl, prydnawn y dydd hwn pawb yn ymddangos wrth eu bodd, ac yn cydfwynhau. Am haner awr wedi chwech, aethom i'r capel, yr hwn oedd wedi ei lanw yn bur dda. Ar ol i'r plant ganu o dan arweinyddiaeth eu hathraw ffyddlon a llafurus, Mr Newton Rees, gweddiodd y Parch G. Higgs, B A., yr hwn a lywyddodd y cyfarfod. Adroddwyd a chanwyd yn fedrus gan y plant a phobl mewn oed. Ar ol bod wrthi nes fod yr awrlais yn cyfeirio ei bod wedi naw o'r gloch, ac heb yn agos ddihysbyddu ad- noddau yr eglwys, galwodd y cadeirydd ar y Parch W. Thomas i siarad, yr hyn a wnaeth yn bwrpasol fel arfer; wedi iddo weddio, ymadawsom wedi cael cyfarfod wrth ein bodd. Ni cheisiaf enwi y rhai gymerasant ran, gan fod y rhaglen yn un faith iawn. Boed bendith ar y plant a'u hathrawon, yn nghyda'r gweinidogion a phawb sy'n ymdrechu o blaid y da a'r rhinweddol. W. S.

BETHEL, NANTYMOEL.

ADGOFIWCH.

CYFUNDEB DWYREINIOL MORGANWG.…

LLANBEDR PONTSTEPHAN.