Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CARMEL, TANYGRISIAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CARMEL, TANYGRISIAU. CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH .1. HUGHES. Nos Iau, Ebrill 23ain, cynaliwyd cyfarfod ymadawol i'r Parch J. Hughes, ar ei symudiad i ofalu am yr eglwys gref a phwysig yn Jeru- salem, Ffestiniog. Daeth cyntilliacl Iltioso, yn nghyd o aelodau eglwys Carmel a gwahanol eglwysi y cylch, yr hyn oedd yn brawf fod Mr Hughes wedi myned yn ddwfn i serch, nid yn unig ei eglwys ei hun, ond holl enwadau y cylch poblog yma. Cymerwyd y gadair, yn absenoldeb Mr Morgan Roberts, Haulfryn, oherwydd afiechyd, gan Mr Cadwaladr Roberts, Bodlondeb, y cerddor a'r arweinydd adnabyddus, yr hwn a gyflawnodd ei waith yn nodedig o hapus a deheuig. Dechreuwyd y cyfarfod drwy ganu emyn, ac i Mr J. R Jones (Gerallt), Maen- twrog, ddarllen a gweddio. Yna dywedodd y CADEIRYDD fod yn ddrwg ganddo fod yr un oedd i lywyddu y noson hono wedi ei luddias gan afiechyd. Fel yr oeddym wedi clywed ar weddi yn barod fod i'r cyfarfod heno ei nodau lleddf. Cyfarfod ymadawol ydoedd, eto nid oedd heb ei nodau lion. Gwir fod y lion yn cael ei deimlo yn fwy yn nglyn a chyfarfod sefydlu nag y mae yn nglyn a chyf- arfod ymadawol, er hyny, y mae yn perthyni'r cyfarfod heno ei nodau lion. Y mae y symud- iad hwn yn golygu myned i fyny, nid yn ddaear- yddol yn unig, y mae Jerusalem yn uwch mewn ystyron ereill mae yn uwch mewn rhif, ac mewn pethau bydol, ac yr ydym yn Uawenhau yn hyn fod Mr Hughes yn cael ei symud i Jerusalem, er fod rhai yn dyweyd ein bod yn Nhanygrisiau yn anfoddlon i Mr Hughes fyned yno. Y mae hyny yn gamgymeriad hollol. An- foddlon oeddym yn Carmel i Mr Hughes ein gadael 0 gwbl. Ond, gan ei fod wedi pender- fynu symud, yr ydym oil yn llawenhau mai i Jerusalem y mae yn myned. Y mae yn ddiau ei fod yn symud am y creda y gall wneyd mwy o waith. A gallaf ddwyn tystiolaeth fod Mr Hughes yn ddyn sydd yn gallu gweithio yn ardderchog. Yn ystod y cyfnod 0 bedair blyn- edd ar ddeg o'i weinidogaeth yn Carmel, da genyf allu dyweyd fod yr undeb a'r cydweith rediad goren wedi bodoli rhyngom fel eglwys a gweinidog. Ni welals yr un camgymeriad, ond pawb, yn swyddogion ac aelodau, yn gweithio yn siriol a chalonog o dan ei arwein- iad doeth a galluog, fel nad yw yn syndod ein bod wedi digio tipyn wrth feddwl am ei golli. Da genyf weled amryw o gyfeillion o Jerusalem wedi d'od i'r cyfarfod heno, ac yr wyf yn galw ar un ohonynt i'n hanerch, sef, Mr HUGH LLOYD (Dyfrdwy): Yr oedd am ddyweyd yn syml, mai wedi d'od yno i 'nol Mr Hughes yr oeddynt, ac yr oedd yn gwybod fod eu syniadau yn ddigon llydan, a'u hysbryd yn ddigon eang yn Carmel, iddynt beidio cymeryd yn angharedig tuag atynt hwy yn Jerusalem am gymeryd Mr Hughes oddiarnynt. Yr oedd arnom fel eglwys yn Jerusalem angen Mr Hughes, ac fe aeth yr eglwys mewn gweddi yn ddirgel ac yn gyhoedd i ofyn am arweiniad Pen Mawr yr Eglwys yn y gorchwyl pwysig hwn, ac yr ydym yn credu ein bod wedi cael ein hateb yn hyn o beth. Y mae Duw yn ei symud i ran arall o'r winllan, ac nid oes nob ohonoch chwi yn Carmel yn gwybod faint yr ydych chwi yn ei dderbyn wrth gyflwyno y fendith hon i ni yn Jerusalem. Y mae Mr Hughes wedi bod yn gwmwl "dyfradwy uwch ben yr etifeddiaeth yn Carmel, ac yr ydym yn mawr hyderu y bydd y cwmwl felly uwchben eglwys a chynulleidfa Jerusalem. Y Parch J. WILLIAMS DAVIES, Hyfrydfa: Yr wyf wedi d'od mfcTfarfod heno i roddi am- lygiad o'm dymuniadau da am Iwyddiant Mr Hughes yn ei gylch newydd, ac am eich llwydd- iant chwithau yn Carmel. Hyfryd i mi ydyw clywed yr eglwys yn Carmel yn gallu dwyn tystiolaeth dda i Mr Hughes—eich bod fel eglwys yn gallu diolch i Dduw am y gwaith da y mae wedi wneyd yn eich mysg. Y mae Duw yn rhoddi promotion dyrchafiad-i'r rhai ffyddlon. Can Adlais y dyddiau gynt,' gan Miss MARY ANN JONES, yn cael ei dilyn ar yr offeryn gan Miss MARIA J. ROBERTS, Bodlondeb, yn deimladwy iawn. Mr R. WILLIAMS (M.C.), Broneirian: Yr ydych chwi fel eglwys yn Carmel wedi cael colled fawr, ac yr ydym fel cymydogaeth wadi cael colled fawr iawn. Yr ydym fel ardalwyr' yn ddyledus iawn iddo. Byddai ef bob amser ar y blaen. Yr oedd yn pioneer. Ni fyddai un amser yn ymgymeryd a gwaith heb feddwl ei gyflawni, a hyny yn drwyadl. Yr oedd Mr Hughes wedi aberthu llawer o'i amser a'i arian yn nglyn a'r mater perthynol i'r prydlesoedd, gymerodd le yn hanes ein hardal. Nid ydym yn credu y buasem wedi llwyddo gyda hyn, oni- bai am weithgarwch ac hunanaberth Mr Hughes. Y mae wedi bod yn arbenig 0 weithgar a selog gyda'r achosion Dirwestol ac addysgol yn ein hardal. Yr oedd sense of duty yn gryfanghyff- redin ynddo. Nid siarad am Addysg y byddai, ond yr oedd ei ofal am yr Ysgolion yn eithri- adol. Mr Hughes a minau yn gyfeillion calon. Y mae yn ddyn mawrfrydig, ae wedi proli ei hun yn gyfaill mewn gwirionedd. Felly Mrs Hughes hefyd. Y mae ei hoi i'w weled yn yr ardal yn ogystal ag yn yr eglwysi. Y mae yma y parch uchaf iddi oherwydd ei charedig- rwydd a'i deheurwydd. Duw yn rhwydd i Mr a Mrs Hughes, a'r teulu, yn eu maes newydd, a hyderaf y bydd yr undeb yn un parhaol a dedwydd iawn. Parch R. TALFOR PHILLIPS, Bethel, Ffestin- iog: Daeth Mr Hughes yma o gylch a dosb- arth o bobl hollol wahanol. Yr oedd symud o gylch fel Dinas Mawddwy, ac o fysg pobl y cylch liwnw, y rhai sydd gan fwyaf yn amaeth- wyr, dosbarth sydd fel rheol yn arfer symud yn araf a phwyllog, eto yn rhai sefydlog a gafael ynddynt, yn golygu llawer i Mr Hughes. Yr oedd yn d'od i gylch gwahanol, ac at bobt oedd yn meddu ar nodweddion gwahanol. Y mae Eglwys Carmel yn eglwys wir werinoL Fe allodd Mr Hughes gyfaddasu ei hun yn ar- dderchog i'w gylch newydd. Y mae yn meddu ar lawer iawn o bwyll a tact. Ac yn sicr y mae wedi bod yn gynghorydd ac yn bregethwr cryf yn erbyn pob math o anfoesoldeb, a thrwy y pethau hyn, y mae wedi enill gradd dda yn eich plith. Y mae yn radd sydd yn cynwys ymddiriedaeth ardal a chlod cymydogaeth gyfan. Yr ydych wedi cael llawer iawn oddi wrtho. Y mae wedi rhoi ei oreu i chwi, nid yn unig yn y pwlpud, ond hefyd i chwi fel teulu- oedd, ar y Cynghor Sirol, i Addysg, a dyrchafiad deallol y lie. Y mae yntau yn ymadael wedi derbyn llawer oddiwrthych chwithau. Y mae wedi enill llawer iawn o broftad, ac o ddylan- wad, a chymeradwyaeth yr eglwys a'r ardal. A chan ei fod yn symud, yr wyf yn dymuno iddo Dduwyn rhwydd, ac i chwithau fel eglwys gael llawer o oleuni gan yr Arglwydd. Mr WM. GRIFFITHS, Jerusalem Cafwyd gan Mr Griffiths anerchiad rhagorol, a derbyniai ei sylwadau gymeradwyaeth wresog y gynull- eidfa. Can, gan Mr J. E. WILLIAMS, Tanygrisiau, yn gampus. Parch THOS. GRIFFITHS, Salem: Dywedai Mr Griffiths ei fod yn falch nad oedd Mr Hughes yn myned o'r ardal. Rhyw awgrym cynil i werthfawrogiad o lafur gonest ydoedd y cyfarfod hwn. Rhoddi gwerth ar ddaioni- i'r hyn y mae Mr Hughes wedi ei wneyd am 14 mlynedd ar ben Carmel, yr aberth goreu yma. Fe roddodd ei oreu. Y peth nesaf ydoedd cyflwyno i Mr Hughes Anerchiad goreuredig hardd, wedi ei weithio yn neillduol o gelfydd, gan yr arlunydd enwog, Mr W. J. Roberts, Blaenau Ffestiniog. Oher- wydd absenoldeb Mr Evan E Griffiths, ysgrif- enydd medrus y symudiadau, darllenwyd cynwys yr Anerchiad gan y Parch R. T. Phillips. Aed drwy seremoni y cyflwyniad yn hynod o dyner ac effeithiol gan y Mri Cadwaladr Roberts, Bodlondeb, a Geo. B. Hughes. Yr oedd cynwys yr Anerchiad fel a ganlyn:- Cyjhcyneduj i'r Parch John Hughes. ANWYL A PHARCHEDIG FUAWD,—Ar eich ymadawiad oddiwrthym, yr ydym fel eglwys a chynulleidfa Carmel, Tanygrisiau, yn cyflwyno i chwi yr anerchiad hwn yn amlygiad o'n parch

Advertising

Arwyddwyd dros yr eglwys,

CARMEL, TANYGRISIAU.